Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Hafan

Mae hawlfraint yn hawl eiddo deallusol sy'n caniatáu i awdur/creawdwr benderfynu o dan ba amgylchiadau y gall eu gwaith gael ei gopïo neu'i ailgynhyrchu

Cyflwyniad

Mae llawer o'r gweithgareddau y mae myfyrwyr a staff y Brifysgol yn ymgymryd â hwy yn cynnwys defnyddio gwaith sydd wedi'i ddiogelu gan hawlfraint (gallai hyn gynnwys detholiadau o lyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion, lluniau llonydd a symudol neu glipiau sain).

  • Efallai y bydd myfyriwr eisiau gwneud copi o waith ar gyfer astudio, ymchwil neu adolygu, ac yn aml bydd angen cynnwys dyfyniadau, detholiadau neu ddarluniadau yn eu haseiniadau.
  • Bydd angen i ddarlithydd ddefnyddio deunyddiau trydydd parti mewn deunyddiau dysgu neu addysgu neu ddarparu darlleniadau wythnosol ar gyfer eu modiwlau
  • Yn aml bydd ymchwilydd angen defnyddio deunyddiau wedi'u diogelu gan hawlfraint yn eu cyhoeddiad

Er bod gan ddaliwr yr hawlfraint yr hawl unigryw i gopïo eu gwaith, caniateir y gweithgareddau hyn os oes eithriadau neu drwyddedau penodol yn cael eu rhoi ar waith.  Mae'r canllaw hwn yn cyflwyno hawlfraint ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn egluro'r camau y dylai myfyrwyr, darlithwyr ac ymchwilwyr eu cymryd i sicrhau eu bod yn defnyddio deunyddiau hawlfraint mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Wrth wneud cais am eich Cerdyn Aber rydych yn cytuno i gadw at Reolau a Rheoliadau Gwasanaethau Gwybodaeth.  Mae hyn yn cynnwys cytuno â’r datganiadau yng Ngytundeb a Chydnabyddiaeth Hawlfraint.

Beth yw gwaith hawlfraint?

Mae diogeliad hawlfraint yn awtomatig.  Nid oes raid i awdur neu greawdwr gyhoeddi, cofrestru na gwneud cais am hawlfraint.

Mae hawlfraint yn berthnasol i unrhyw waith a grëwyd mewn copi caled neu fformat electronig.   Mae hyn yn cynnwys:

  • gwaith llenyddol, dramatig neu gerddorol;
  • darluniadau, ffotograffau, dyluniadau neu waith artistig;
  • ffilm neu luniau symudol;
  • darlleniadau neu recordiadau sain;
  • rhaglenni cyfrifiadurol, setiau data, a hyd yn oed trefniant argraffyddol.

Mae unrhyw ddarn o waith sydd wedi cael ei ysgrifennu neu'i gofnodi mewn rhyw ffordd (cyhoeddedig a heb ei gyhoeddi) wedi'i ddiogelu gan hawlfraint.  Mae gwaith sydd wedi'i fynegi mewn ffordd 'osodedig' wedi'i ddiogelu gan hawlfraint.  Nid yw hyn yn wir am feddyliau, syniadau a ffeithiau.

 

Am ba hyd y mae hawlfraint yn para?

Mae hyd y diogeliad hawlfraint yn dibynnu ar y math o waith ac ers faint y cafodd y gwaith ei greu.  Er enghraifft:

Math o waith Am ba hyd y mae hawlfraint yn para fel arfer
Gwaith ysgrifenedig, dramatig, cerddorol ac artistig 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur
Recordiadau sain a cherddoriaeth 70 mlynedd o'r cyhoeddiad cyntaf
Ffilmiau 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y cyfarwyddwr, awdur sgript y ffilm a'r cyfansoddwr
Darllediadau 50 mlynedd ar ôl y darllediad cyntaf
Cynllun argraffiadau cyhoeddedig 25 mlynedd ar ôl yr argraffiad cyntaf
Lluniau/ffotograffau llonydd 70 mlynedd ar ôl marwolaeth y ffotograffydd

Dylid trin y cyfyngiadau amser hyn yn ofalus bob tro. Er enghraifft, er bod hawlfraint awdur yn para am 70 mlynedd ar ôl marwolaeth yr awdur, nid yw hyn bob amser yn sail dda i gopïo gwaith oherwydd mae'n bosibl bod yr hawlfraint wedi'i basio ymlaen i barti arall.

Ar adegau, cyfeirir at weithiau sydd allan o hawlfraint neu sydd wedi'u heithrio gwaith 'yn y parth cyhoeddus'

Mae'r Brifysgol yn tanysgrifio i drwyddedau a gyhoeddwyd gan nifer o asiantaethau sy'n gweithredu ar ran dalwyr hawliau amrywiol. Yn gyfnewid am ffi'r drwydded, sy'n mynd tuag daliadau i ddalwyr yr hawliau, gall y sefydliad gopïo a defnyddio deunyddiau penodol o fewn canllawiau penodol.

Mae'n hanfodol cydnabod bod y trwyddedau hyn yn ymwneud â defnydd o fewn cyd-destun dibenion addysgol neu gyfarwyddol yn unig. Nid ydynt yn ymdrin â chyhoeddi gwaith, darlledu deunydd ymhellach na'i berfformiad cyhoeddus

Trwydded Beth mae'n gynnwys Sut mae'n gweithio
Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint Llungopïo neu sganio gwaith a gedwir gan y Brifysgol at ddibenion addysgol Gwneud cais i ddigido pennod neu erthygl drwy Restrau Darllen Aspire
Asiantaeth Trwyddedu Papur Newydd Llungopïo erthyglau o bapurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol Gall dolenni a chopïau o erthyglau o bapurau newydd gael eu rhannu ymhlith staff a myfyrwyr os dilynir telerau'r drwydded
Asiantaeth Recordio Addysgol Recordiadau o ddarllediadau teledu a radio yn y DU Defnyddio recordiadau o ddarllediadau teledu a radio wrth addysgu/astudio/ymchwilio gan ddefnyddio mynediad y brifysgol i Box of Broadcasts

Efallai y byddai awdur neu greawdwr yn fodlon caniatáu i eraill ddefnyddio eu gwaith o dan amgylchiadau penodol. Ffordd boblogaidd o wneud hyn yw drwy ddefnyddio trwydded Creative Commons (CC).

Gall perchennog hawlfraint wneud cais i ddefnyddio trwydded CC i rannu gwaith hawlfraint yn agored ond gosod cyfyngiadau ar ddefnydd masnachol neu addasiadau neu fynnu bod unrhyw addasiadau'n cael eu trwyddedu ar yr un telerau.  Mae yna ystod o drwyddedau Creative Commons sy'n caniatáu graddau amrywiol o ailddefnydd.

Mae'r llun isod yn dangos beth allwch chi ei wneud gyda deunydd trwydded Creative Commons.  I gael gwybodaeth am gymhwyso trwydded Creative Commons i'ch gwaith eich hun, gweler Diogelu eich Gwaith eich Hun

Creative Commons Licenses

JoKalliauer; foter, CC BY-SA 3.0 <https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0>, via Wikimedia Commons

Cysyniadau allweddol

Mae gan berchennog hawlfraint hawliau unigryw dros waith hawlfraint. Golyga hyn fod angen eu caniatâd cyn defnyddio eu gwaith mewn ffyrdd penodol.

Dim ond perchnogion hawlfraint sydd â'r hawl i awdurdodi gweithgareddau a elwir yn weithredoedd cyfyngedig. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Copïo
  • Rhoi copïau i'r cyhoedd
  • Rhentu neu fenthyca
  • Perfformio'n gyhoeddus
  • Rhannu gwaith â'r cyhoedd yn electronig
  • Addasu

Wrth ymgymryd ag unrhyw un o'r gweithgareddau hyn, dylech sicrhau bod gennych drwydded briodol i wneud hynny, neu fod eithriad hawlfraint yn berthnasol i'ch gweithgaredd. I weld beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer eich gwaith yn y brifysgol, gweler y tabiau Hawlfraint i Fyfyrwyr, Darlithwyr ac Ymchwil i gael cyfarwyddyd ymarferol ar ddefnyddio deunyddiau hawlfraint yn eich gwaith mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gyfraith.

Ffeithiau Allweddol

  • Mae diogeliad hawlfraint yn awtomatig - nid oes angen cofrestru gwaith
  • Mae copïo unrhyw ddeunydd hawlfraint heb ganiatâd (neu drwydded briodol) yn anghyfreithlon.
  • Mae trwyddedau ac eithriadau yn caniatáu i chi gopïo deunydd o fewn cyfyngiadau penodol

Mae llawer o'r eithriadau hawlfraint sy'n berthnasol mewn addysgu uwch yn dibynnu ar y cysyniad o  ymwneud neu fasnachu teg

Nid oes diffiniad manwl gywir o'r hyn sy'n deg, ond mae'n dibynnu ar:

  • Cyfran o’r gwreiddiol sy'n cael ei gopïo, ac
  • a yw'r copïo’n cystadlu â defnydd y byddai'r perchennog yn ei wneud

Golyga hyn:

  • na ddylech gopïo mwy o'r gwaith nag sydd angen at eich diben, a chadwch o fewn y canllawiau dangosol bob tro.
  • peidiwch fyth ag ailgynhyrchu gwaith mewn modd sy'n ymyrryd â hawliau unigryw daliwr yr hawlfraint

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau

Polisi

Ffeithiau cyflym

Thomas Stearns ('T.S.') Eliot with his sister and his cousin, by Lady Ottoline Morrell, 1934.

“Immature poets imitate; mature poets steal” T.S. Eliot. The Sacred Wood.

Er bod Thomas Stearns yn fardd arbennig, nid yw hyn yn gyngor da iawn o safbwynt hawlfraint.

(Llun o WikiMedia Commons yn y Parth Cyhoeddus.) 

William Hogarth - Blowing off about his new Copyright Act, mid 18th century

Mae William Hogarth, hyrwyddwr cynnar cyfraith hawlfraint, yn ein hatgoffa y dylai awduron ac artistiaid gael eu gwobrwyo am ffrwyth eu llafur. Pe bai'n fyw heddiw, byddai hefyd yn cynghori yn erbyn gwario'r gwobrau hynny ar gin!  

(llun o Wikimedia Commons. yn y Parth Cyhoeddus.) 

Ymwneud teg

Myfyrwyr: yn unol â thelerau ymwneud teg caniateir i chi wneud copïau sengl o gyfanswm cyfyngedig o destun ar gyfer astudiaeth breifat neu ymchwil o natur anfasnachol.  

Delwedd: Eli Francis, Old Books (Unsplash), 2016, CC0-1.0