Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hawlfraint: Cwestiynau Cyffredin - Darlithwyr

A gaf fi rannu 'pecynnau astudio' i fyfyrwyr ar fodiwl penodol?

Cewch, gallwch rannu 'pecynnau cwrs' neu 'becynnau astudio' gan gynnwys darnau o lyfrau neu gyfnodolion i fyfyrwyr ar unrhyw fodiwl. Ni ddylai'r detholiadau fod yn fwy na'r cyfyngiadau sefydledig ar gyfer copïo. Serch hynny, mae'r Brifysgol yn argymell defnyddio Blackboard, Rhestrau Darllen, a'r Gwasanaeth Digido i ddarparu deunyddiau cwrs i fyfyrwyr.  

A yw hyn yn berthnasol i grwpiau o Ddysgwyr o Bell hefyd?

Ydy. Mae Dysgwyr o Bell bellach wedi'u cynnwys yn y Drwydded CLA hefyd. 

A gaf fi gopïo a rhannu darnau o lyfr/cyfnodolyn sy'n eiddo i mi ond nad yw'n rhan o gasgliad y Brifysgol â'm myfyrwyr?

Cewch, ond eto, o fewn y cyfyngiadau a osodir uchod. I wneud hyn, dylech ddefnyddio'r Gwasanaeth Digido a fydd yn trefnu sgan hygyrch o ansawdd uchel gyda thrwydded briodol.  

A gaf fi roi mynediad i fyfyrwyr i waith anghyhoeddedig yr wyf wedi'i greu?

Cewch. Os ydych chi'n sicr mai chi yw deiliad yr hawlfraint, gellir darparu llawysgrif anghyhoeddedig o erthygl neu waith ysgrifenedig arall i fyfyrwyr. Mewn llawer o achosion byddai hwn ar gael drwy Borth Ymchwil y Brifysgol.  

Rwyf wedi ysgrifennu erthygl/llyfr. A gaf fi ei gopïo a'i rannu â'm myfyrwyr?

Mae copïo o dan yr amgylchiadau hyn yn dibynnu ar be wnaethoch chi ei lofnodi pan wnaethoch chi gytuno i gyhoeddi. Mewn llawer o achosion byddwch wedi llofnodi perchnogaeth eich hawlfraint i'r cyhoeddwr. Y cyhoeddwr wedyn yw perchennog yr hawliau, ac sy'n gallu rhoi, neu godi tâl am, ganiatâd i wneud copïau y tu hwnt i'r hyn a ganiateir o dan gyfraith neu drwydded. Os nad ydych wedi llofnodi unrhyw beth, dylech barhau i dybio bod yr hawlfraint ar gyfer y fersiwn derfynol o erthygl cyfnodolyn yn eiddo i'r cyhoeddwr nes eich bod wedi cael gwybodaeth i'r gwrthwyneb. Mae'n bosibl y bydd modd i chi sicrhau bod hwn ar gael i fyfyrwyr drwy'r Gwasanaeth Digido. 

Os wyf fi'n defnyddio deunydd wrth osod asesiad neu gwestiwn arholiad a oes arnaf angen caniatâd hawlfraint?

Mae'r eithriad arholiad yn y ddeddfwriaeth Hawlfraint yn caniatáu cynnwys deunydd hawlfraint 3ydd parti o fewn papurau arholiad a sgriptiau a asesir.  Dylai staff fod yn ymwybodol, wrth gynnwys deunydd 3ydd parti, fod angen cymhwyso’r prawf 'ymwneud teg', sydd â'r cwestiynau allweddol canlynol: Ydw i'n defnyddio mwy o'r gwaith nag sy'n angenrheidiol at y diben?; A allaf fi fod yn niweidio diddordebau perchennog yr hawlfraint drwy ailgynhyrchu eu gwaith yn y modd hwn?  Os ydych chi'n meddwl mai 'ydw' neu 'gallaf' yw'r atebion i'r cwestiynau hyn, dylech ystyried gofyn am ganiatâd.  

A gaf fi recordio rhaglenni sydd wedi'u darlledu ar y teledu a'u dangos i ddosbarth o fyfyrwyr?

Gallwch. Caniateir i staff recordio rhaglenni at ddefnydd addysgol anfasnachol a'u dangos i fyfyrwyr o dan drwydded gan yr Asiantaeth Recordio Addysgol (ARA). Mae'n rhaid i'r holl recordiadau gynnwys yr wybodaeth ganlynol: dyddiad y recordiad; teitl y rhaglen; enw'r darlledwr; y geiriau "Dylai'r recordiad hwn gael ei ddefnyddio yn unol â thelerau trwydded yr ARA yn unig". Nid yw'r drwydded yn caniatáu addasu neu altro recordiad. Ceir rhagor o fanylion ar dudalen Ffrydio Fideo.

A gaf fi ddangos ffilm neu raglen deledu i ddosbarth o fyfyrwyr?

Gallwch ddangos deunydd o'r fath i ddosbarth ar dir y Brifysgol ac mewn amser real neu ddefnyddio gwasanaeth Box of Broadcasts fel yr amlinellir uchod. Fodd bynnag, ni all recordiadau a brynwyd yn fasnachol fel rheol gael eu ffrydio i fyfyrwyr ar alw.  

Rwyf eisiau copïo rhai diagramau a ffotograffau a'u cynnwys yn fy nghyflwyniad. A gaiff hyn ei ganiatáu?

Gellir cynnwys graffiau neu ddiagramau sengl i'w hadolygu, ond byddai unrhyw beth yn fwy na hyn angen naill ai: a) caniatâd penodol deiliad yr hawlfraint neu b) cais i'r Gwasanaethau Gwybodaeth i gael y deunydd wedi'i sganio gan y Gwasanaeth Digido.  

A gaf fi ddefnyddio cynnwys o YouTube ar Blackboard neu mewn darlithoedd?

Cewch, cyhyd â'ch bod yn cysylltu ag ef yn gywir trwy naill ai ddarparu'r hyperddolen neu fewnosod y cod a roir i chi gan YouTube yn gywir, ac nad yw'r deunydd wedi'i uwchlwytho'n anghyfreithlon.  

A oes angen caniatâd arnaf i ddefnyddio lluniau mewn ffilm fer?

Os nad yw'r lluniau wedi'u trwyddedu i'w hailddefnyddio, bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliad yr hawlfraint / y ffotograffydd cyn eu defnyddio yn y ffilm. Yr unig eithriad i'r rheol hon yw os yw'r ffilm yn cael ei gwneud at ddibenion arholi ac asesu. 

Pan fydd rhywun yn caniatáu i mi ddefnyddio eu deunydd, a ddylwn i gadw eu ffurflenni caniatâd / cydsynio?

Dylech, mae'n rhaid i chi gadw'r holl ganiatâd hawlfraint (llythyrau, negeseuon e-bost, ffurflenni ac ati) am gyhyd ag y mae'r eitem a gopïwyd yn bodoli. 

Ffeithiau cyflym

Eich llyfrau

Hyd yn oed os taw chi yw awdur y gwaith, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y cewch ei rannu â'ch myfyrwyr. Bydd hyn yn dibynnu ar y contract yr ydych wedi'i lofnodi â'ch cyhoeddwr

Delwedd: AgustinaCC, Book in Hand (Emma by Jane Austen), CC0 1.0 

Teledu a radio

Gallwch ddangos deunydd o'r fath i ddosbarth ar dir y Brifysgol ac mewn amser real neu ddefnyddio gwasanaeth Box of Broadcasts. Fodd bynnag, ni all recordiadau a brynwyd yn fasnachol fel rheol gael eu ffrydio i fyfyrwyr ar alw.  

Delwedd: Studio123Kino CC-BY-3.0

Arholiadau

Mae'r eithriad arholiad yn y ddeddfwriaeth Hawlfraint yn caniatáu cynnwys deunydd hawlfraint 3ydd parti o fewn papurau arholiad a sgriptiau a asesir. Yn yr un modd â'r holl eithriadau hawlfraint eraill, mae'r prawf ymwneud teg yn berthnasol.  

Delwedd: Rashi Latif, Exam hall, CC-BY-SA-4.0

Academia Basiliensis

Gall darlithwyr ddefnyddio cyfanswm cyfyngedig o ddeunydd hawlfraint at ddibenion addysgu (h.y. addysgu/cyfarwyddo).  

Delwedd: Anon. The 'Academia Basiliensis'. British Museum, 1544-1552.  Delwedd ddigidol: © The Trustees of the British Museum, CC BY-NC-SA 4.0