Pam defnyddio cronfa ddata Busnes?
Cronfeydd data Busnes a Argymhellir
*Business Source Complete - yn cynnig mynediad at dros 3,000 o gyfnodolion. Mae’n cwmpasu pob un o feysydd busnes, gan gynnwys cyllid, rheolaeth, systemau rheoli gwybodaeth, marchnata a busnes rhyngwladol.
*Emerald Insight - cronfa ddata yn cwmpasu’r prif ddisgyblaethau rheoli megis marchnata, Adnoddau Dynol, datblygu cyfundrefnol, rheoli llyfrgelloedd a gwybodaeth, rheoli ansawdd a gweithrediadau.
*IBIS World - adnodd ardderchog i gael gwybodaeth am gwmnïau a’r sector diwydiant. (gweler y blwch isod i gael gwybod sut i gael mynediad oddi ar y campws gan ddefnyddio Primo VPN).
Cronfeydd data cyffredinol eraill a argymhellir
Web of Science - celfyddydau a’r dyniaethau, gwyddorau ymddygiadol a chymdeithasol, gwyddorau naturiol, ffisegol a biomeddygol, a rhywfaint o beirianneg. Yn cwmpasu deunydd a gyhoeddwyd o 1970 ymlaen.
Erthyglau cylchgronau, cyfnodolion a newyddion ar bynciau o ddiddordeb cyffredinol a digwyddiadau cyfoes.
Gallwch gael y newyddion Teledu a Radio diweddaraf. Dros 60 o sianeli teledu a radio.
Cronfa ddata sy’n cynnwys rhifyn digidol llawn o bapur newydd.
The Times (Llundain), o 1785- 2014. Mae’n cynnwys pob tudalen lawn o bob rhifyn o’r papur newydd, gan gynnwys penawdau, erthyglau a delweddau o’r holl gynnwys – tudalennau blaen, erthyglau golygyddol, hysbysiadau am enedigaethau a marwolaethau, hysbysebion a hysbysebion wedi’u dosbarthu.
Bydd angen mewngofnodi i Primo VPN ar gyfer yr adnoddau canlynol cyn y gallwch eu defnyddio oddi ar y campws;
1. Dilynwch y ddolen Primo VPN a mewngofnodi yn https://primo-vpn.aber.ac.uk/%20
2. Dewiswch y blwch Primo a mewngofnodi i Primo hefyd
3. Cadwch yr un ffenestr bori ar agor (mae tabiau lluosog yn iawn) a lansio’r adnodd angenrheidiol
*Ceir rhestr lawn A i Y o’r holl adnoddau a dolenni ar dudalen A i Y o E-Adnoddau ar Primo: primo.aber.ac.uk/
Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.
Mae'r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig ofyn am eitemau nad ydynt ar gael yn Llyfrgell y Brifysgol. Gallwn gynorthwyo staff a myfyrwyr i ymchwilio a dysgu trwy ganfod a darparu llyfrau, penodau, ac erthyglau sy'n cael eu cadw gan lyfrgelloedd eraill. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau dyrannu i'r gwahanol grwpiau defnyddwyr ymhob adran academaidd, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
Cliciwch fan hyn i gael mwy o wybodaeth ac i weld faint o geisiadau am ddim y cewch eu harchebu.
Dyma ddetholiad o’r cyfnodolion sydd ar gael trwy Primo:
Mae erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid wedi cael eu hadolygu a’u derbyn gan arbenigwyr yn eu maes cyn cael eu cyhoeddi. Mae hyn yn sicrhau bod y cyfnodolion yn cadw eu henw da a bod ansawdd yr ymchwil yn cael ei gynnal.
Defnyddiwch yr hidlydd yn Primo i chwilio yn ôl 'Wedi’u Hadolygu gan Gymheiriaid' neu chwiliwch Emerald Insight i ddarganfod erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid yn unig.
Mae’r Academic Journal Guide a gynhyrchir gan Gymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes yn lle da i ddechrau i gael canllaw i ansawdd a safle cyfnodolyn.
Mae nifer o gyfnodolion hefyd yn ychwanegu eu safle Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes neu ffactor effaith ar wefan y cyhoeddwr.
Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes - Academic Journal Guide. Mae’r canllaw hwn yn seiliedig ar adolygu gan gymheiriaid, golygyddol, a dyfarniadau gan yr arbenigwyr hynny yn y maes.
Mae yna nifer o restrau/dulliau eraill ar gael ar wefan yr AACSB (The Association to Advance Collegiate Schools of Business): https://www.aacsb.edu/knowledge/resources/journal%20rankings
Mae’r rhestr yn cynnwys Scopus, Web of Knowledge – adroddiadau dyfynnu a hefyd y 'Journal Quality List' https://harzing.com/resources/journal-quality-list (coladiad o safle cyfnodolion o amrywiaeth o ffynonellau).