Prif adrannau:
Gellir dod o hyd i’n holl e-lyfrau ar Primo, neu efallai y byddai’n well gennych bori trwy’r teitlau 'Busnes ac Economeg’ a gynigir gan un o’n prif ddarparwyr e-lyfrau, ProQuest Ebook Central.
Cewch hyd i’r holl e-lyfrau yng nghatalog llyfrgell Primo.
Sut ydw in darllen ac argraffu o e-lyfr rwyf wedi dod o hyd iddo yn Primo?

Mae'r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig ofyn am eitemau nad ydynt ar gael yn Llyfrgell y Brifysgol. Gallwn gynorthwyo staff a myfyrwyr i ymchwilio a dysgu trwy ganfod a darparu llyfrau, penodau, ac erthyglau sy'n cael eu cadw gan lyfrgelloedd eraill. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau dyrannu i'r gwahanol grwpiau defnyddwyr ymhob adran academaidd, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
Cliciwch fan hyn i gael mwy o wybodaeth ac i weld faint o geisiadau am ddim y cewch eu harchebu.
Os ydych chi'n fyfyriwr neu'n aelod o staff yn y Brifysgol, gallwch wneud cais am gopi wedi'i sganio o erthygl mewn cyfnodolyn, pennod o lyfr, neu ddarn o draethawd hir o'n casgliadau printiedig, cyn belled â bod y cais yn cydymffurfio â rheoliadau hawlfraint.
Darganfod mwy: Gwasanaeth Digideiddio
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr 'rydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano trwy'r ymgyrch Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig). Bydd pob llyfr sy'n cael ei archebu drwy'r ymgyrch yn cael ei osod yng nghasgliad y llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma.