Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Busnes: Sgiliau Digidol

Beth yw Galluoedd Digidol a pham maen nhw’n bwysig?

Galluoedd Digidol yw’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymarfer sydd yn ein paratoi i fyw, dysgu a gweithio yn ddiogel ac effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth, datrys problemau, cyfathrebu ar-lein a deall sut i feithrin perthynas iach gyda thechnoleg.

Mae’n bwysig i bob myfyriwr fod yn abl a hyderus yn ddigidol. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn gallu ffeindio’ch ffordd trwy gymdeithas ddigidol sy’n datblygu’n gyson, llwyddo yn eich astudiaethau, a chystadlu’n llwyddiannus am swyddi yn y dyfodol. 

Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i gael gwybod mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.

LinkedIn Learning

Llwyfan ddysgu ar-lein yw LinkedIn Learning sydd â dross 16,000 o gyrsiau o ansawdd mewn sgiliau digidol, creadigol a busnes. Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fynediad llawn, rhad ac am ddim i’r gwasanaeth sydd ar gael 24/7 ar eich cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol gan ddefnyddio'r ap.

Ewch ati i edrych trwy’r amrywiaeth o gyrsiau a fideos byr sydd ar gael ar LinkedIn Learning i’ch helpu i ddatblygu eich galluoedd digidol, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau eraill.

Dechreuwch yma:   LinkedIn Learning  : Information Services , Aberystwyth University

Yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael ar LinkedIn Learning

Cymerwch olwg ar yr amrywiaeth o gyrsiau ac adnoddau sydd ar gael yn LinkedIn Learning. Mae rhywbeth i bawb – gallwch ddysgu sut i feistroli Excel neu’r piano, cael gwybod beth yw’r cwestiynau mwyaf cyffredin mewn cyfweliadau neu hyd yn oed hyfforddi’ch ymennydd ar gyfer hapusrwydd!

Rydym wedi rhestri 12 cwrs i chi gael bwrw golwg drostynt:

The pursuit of happiness: how to train your brain for happiness. (Hyd: 54 munud) 
Learning Excel 2019 (Hyd: 1 awr 7 munud) 
GarageBand Essential Training: capture your musical vision (Hyd: 4 awr 4 munud) 
Expert tips for answering common interview questions (Hyd: 1 awr 14 munud) 
Drawing Foundations Fundamental  (Hyd: 2 awr 24 munud)
Being an effective team member (Hyd: 31 munud) 
Introduction to photography (Hyd: 1 awr 52 munud) 
Managing your personal finances (Hyd: 1 awr 4 munud) 
Designing a presentation (Hyd: 56 munud) 
Piano Lessons: Teach yourself to play (Hyd: 1 awr 54 munud)
Project management foundations: small projects (Hyd: 1 awr 29 munud)
Building self confidence (Hyd: 18 munud)

Dechreuwch yma:  LinkedIn Learning  : Information Services , Aberystwyth University

Manylion o Gyrsiau Adolygu

Rhagor o Gymorth

Offeryn Darganfod Digidol

Offeryn hunanasesu ar-lein yw’r Offeryn Darganfod Digidol sy’n eich galluogi i feddwl am eich galluoedd digidol.  Defnyddiwch yr adnodd hwn i nodi eich cryfderau cyfredol ac unrhyw feysydd sydd angen eu datblygu.

Gwyliwch y fideo i gael esboniad ar:

  • sut mae’r offeryn darganfod yn gweithio,
  • sut i gofrestri,
  • ateb y cwestiynau perthnasol,
  • derbyn ac agor yr adroddiad

Defnyddio’r Offeryn Darganfod – Fideo Rhagarweiniol

Mae’r Offeryn Darganfod ar gael yma: Offeryn Darganfod Digidol

 

Sut i wella eich galluoedd digidol?

Mae llawer o adnoddau ar gael ar eich cyfer:

  • Ar ôl cwblhau’r Offeryn Darganfod Digidol edrychwch ar yr adnoddau a awgrymir sydd wedi eu llunio yn unswydd 
  • Trefnwch gwrdd â’ch tiwtor personol am sgwrs
  • Edrychwch ar LinkedIn Learning i ddod o hyd i gyrsiau pwrpasol i wella sgiliau digidol penodol
  • Os hoffech gael awgrymiadau am adnoddau LinkedIn a fydd o ddefnydd ar gyfer sgiliau penodol cysylltwch â digi@aber.ac.uk  neu eich Llyfrgellydd Pwnc librarians@aber.ac.uk
  • Dewch i bori trwy’r Casgliad Astudio Effeithiol yn Llyfrgell Hugh Owen a dod o hyd i lyfrau a all roi arweiniad ar ystod eang o sgiliau a chymorth i astudio.

Casgliad Astudio Effeithiol

Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. 

Bydd y Casgliad Astudio Effeithiol yn eich helpu i: 

  • Wneud y gorau o’ch amser astudio
  • Trefnu eich astudiaethau’n effeithiol
  • Trefnu gwybodaeth ar gyfer ymchwilio’n effeithiol
  • Defnyddio’r llyfrau a gewch o’r Llyfrgell yn effeithiol
  • Ysgrifennu eich traethodau, traethodau estynedig neu draethodau ymchwil yn effeithiol
  • Datblygu defnydd clir a chywir o’r Saesneg
  • Llunio llyfryddiaeth


Lleoliad

Lleolir y Casgliadau Astudiaeth Effeithiol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. 

Mae pob eitem yn y Casgliad Astudio Effeithiol yn cael ei hychwanegu at gatalog y Llyfrgell, Primo, ac maent yn cynnwys y rhagddodiad STUDY yn y nod dosbarth.  

Adnoddau LinkedIn Learning i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich arholiadau

Gall cyfnod arholiadau fod yn un heriol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Dyma rai clipiau fideo byr a chyrsiau yr ydym wedi’u rhoi at ei gilydd o LinkedIn Learning i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a all eich cynorthwyo i baratoi ac adolygu’n fwy effeithlon ar gyfer eich arholiadau. Bydd nifer o’r sgiliau hyn hefyd o fudd i’ch astudiaethau yn gyffredinol, yn ogystal â’ch helpu i wella eich lles digidol. 

Overcoming procrastination (19 munud)
Improving your Memory (1 awr 29 munud)
Learning speed reading (58 munud)
Time Management Tips for students (2 munud 59 eiliad)
Note-taking techniques (4 munud 9 eiliad)
Improving your memory (1 awr 29 munud)
Creating a study plan (1 munud 59 eiliad)
Taking strategic breaks while studying (2 munud 14 eiliad)

Dechreuwch yma:  LinkedIn Learning  : Information Services , Aberystwyth University

 

Twitter - LinkedIn Learning