Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hanes a Hanes Cymru: Traethodau Ymchwil

Traethodau Ymchwil

Ar hyn o bryd mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phorth Ymchwil Aberystwyth, yn derbyn y pethau canlynol oddi wrth adrannau academaidd Prifysgol Aberystwyth:

  • Pob traethawd ymchwil llwyddiannus

Maent hefyd yn cynnwys traethodau Meistr a ddysgir trwy gwrs cyn 2013:

  • traethodau ymchwil ar bynciau Cymraeg
  • traethodau ymchwil sydd wedi cael Rhagoriaeth

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar y dudalen Traethodau Ymchwil. 

Traethodau Ymchwil Print

Traethodau Ymchwil Printiedig

Mae gan Prifysgol Aberystwyth (PA) gasgliad o draethodau ymchwil a allai fod o ddefnydd i chi wrth lunio eich traethawd ymchwil eich hun. 

Mae’r casgliad wedi’i leoli ar Lawr F yn Llyfrgell Hugh Owen. Cedwir rhai traethodau ymchwil yn y storfa allanol ac fe ellir eu gweld wrth gyflwyno cais am y teitl(au) drwy Primo- Catalog y Llyfrgell.

Gallwch ddefnyddio'r chwiliad allweddair syml ar Primo i chwilio am unrhyw draethawd ymchwil PA: e.e. traethawd ymchwil Gwyddeleg. 

Mae’r deunyddiau ar gael i gyfeirio atynt yn unig (at ddefnydd Llyfrgell yn unig - ni ellir ei benthyca).

 

Traethodau Ymchwil Electronig Prifysgol Aberystwyth

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.

Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill.

Mae'r porth hefyd yn cynnwys Proffiliau Personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol.

Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.

Traethodau Electronig Arall

Chwiliwch dros 500,000 traethodau ymchwil doethurol drwy ddefnyddio EThOS (nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd) - gwasanaeth traethodau ar-lein y Llyfrgell Brydeinig. Lawrlwythwch ar unwaith am eich ymchwil, neu archebu copi wedi'i sganio'n gyflym ac yn hawdd. 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Caiff traethodau ymchwil eraill o Brifysgolion Cymru eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.