Helo, Lloyd Roderick ydw i, y llyfrgellydd pwnc ar gyfer yr adran Hanes a Hanes Cymru. Diben y dudalen hon yw eich helpu i gael y gorau o’n hadnoddau ym maes hanes a hanes Cymru. Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydw i yma i’ch helpu!
Current magazines in Celtic languages are kept near the CELT collection.
Cronfa-ddata testun-cyflawn sy’n chwilio papurau newyddion rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.
Dros 60 o sianeli teledu a radio. Ar gael ar campws ac wrth ddefnyddio VPN oddi ar y campws.
Cronfa ddata sy’n cynnwys rhifyn digidol llawn o bapur newydd The Times (Llundain), o 1785- 1985. Mae’n cynnwys pob tudalen lawn o bob rhifyn o’r papur newydd, gan gynnwys penawdau, erthyglau a delweddau o’r holl gynnwys – tudalennau blaen, erthyglau golygyddol, hysbysiadau am enedigaethau a marwolaethau, hysbysebion ayyb.
Gwasanaethau sy'n anfon neges pan fydd unrhyw un o'r gwefannau rydych chi wedi eu dewis yn newid. Weithiau, gallwch derbyn rhybuddion yn unig pan fo deunydd newydd wedi'i ychwanegu yn hytrach na phryd y caiff hen ddeunydd ei dynnu. Efallai y bydd angen i chi fewngofnodi a chofrestru i allu derbyn rhybuddion.