Helo! Fy enw i yw Lloyd Roderick, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes Hanes a Hanes Cymru
Gallaf eich helpu gyda...
Lluniwyd y canllaw hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth rhithiol ar gael drwy sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Rwy'n cynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb galw heibio Llyfrgell:
11yb - 2yp, dydd Gwener
Desg Ymholiadau Lefel F,
Llyfrgell Hugh Owen
(yn ystod tymor yn unig)
Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil.
Fel arall, gallwch e-bostio eich cwestiynau ataf: glr9@aber.ac.uk
Methu dod draw i'r sesiwn galw-heibio ar Lefel F?
Beth am drefnu cyfarfod ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda mi i gael sgwrs am eich ymholiad llyfrgell.
Dewiswch leoliad, dyddiad a'r amser sydd orau gennych. Anfonir e-bost atoch i gadarnhau y manylion.