Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Hanes a Hanes Cymru: Casgliadau

Casgliadau Prifysgol Aberystwyth

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn dal casgliadau o ddeunyddiau at ddibenion academaidd ym meysydd y Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Gwyddorau a'r Gwyddorau Cymdeithasol.  Efallai bydd yr isod o ddiddordeb i fyfyrwyr Hanes a Hanes Cymru:

Catalogau defnyddiol

 

copac

Copac

Catalog sy’n cynnwys casgliadau holl llyfrgelloedd cenedlaethol y DU, llyfrgelloedd nifer o Brifysgolion a llyfrgelloedd arbennigol megis y Wellcome Trust a’r Llyfrgell Celf Cenedlaethol, Amgueddfa V&A.

Casgliadau Arbennig

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn meddu ar nifer o gasgliadau unigryw a phrin. Hyderwn y bydd y casgliadau o ddefnydd ar gyfer dysgu ac ymchwil yn ogystal o ddiddordeb cyffredinol. Dyma rhai o uchafbwyntiau ein casgliadau:

  • Coffau’r Rhyfel Byd Cyntaf - Cyfres o erthyglau am Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig sy’n gosod ein casgliadau arbennig yn eu cyd-destun hanesyddol.
  •  Casgliadau George Powell - Casgliad o lyfrau, llawysgrifau a deunydd celf a roddwyd i’r Brifysgol gan George Powell Nanteos rhwng 1879 a 1882. Yn eu plith ceir wyth cyfrol o argraffiad 1747 yr Archesgob Warburton o waith Shakespeare. Defnyddiwyd y cyfrolau gan Samuel Johnson wrth iddo baratoi ei eiriadur a gwelir nifer o nodiadau a thanlinelliadau ynddynt.
  • Casgliad Appleton - Mae’r Casgliad Appleton yn cynnwys deunydd ar argraffu lliw a rhwymiadau cain o tua 1840 i 1890.
  • Casgliad Horton - Mae Casgliad Horton o Ddeunydd Plant yn cynnwys dros 800 o eitemau sy’n olrhain datblygiad llyfrau plant dros gyfnod o ddwy ganrif o ganol yn ddeunawfed ganrif hyd 1913.

 

Mae’r eitemau yn y casgliadau arbennig yn ein llyfrgelloedd o werth hynafiaethol, yn enghreifftiau o argraffu cain, neu’n cael eu hystyried yn glasuron. Cedwir llawer o’r casgliadau hyn mewn mannau rheoli lleithder ac mae mynediad atynt yn gyfyngedig.

Mae cofnodion catalog cryno ar gael a gellir chwilio amdanynt ar  http://primo.aber.ac.uk/. Ar hyn o bryd, mae’r broses o gynhyrchu cofnodion cyflawn ar gyfer casgliadau llyfrau prin yn barhaus. Pan fyddwch yn canfod eitem rydych yn dymuno ei defnyddio yn y llyfrgell, gallwch gyflwyno cais ar-lein. Gellir edrych ar lyfrau prin ar amseroedd rhwng 9.15 - 4.30 Ddydd Llun - Gwener yn unig (oni bai am Gwyliau Banc).  Gofynnir i chi ganiatáu 24 awr o rybudd rhwng yr amser y byddwch yn cyflwyno eich cais a phan fyddwch yn ymweld â’r Ddesg Ymholiadau.

Canllawiau:

  • Defnyddiwch bensil yn unig i wneud nodiadau (ni chaniateir defnyddio inc, hylif cywiro nac ysgrifbinnau tra’n agos at y deunydd)
  • Sicrhewch bod eich dwylo yn lân a cheisiwch beidio â gafael neu gyffwrdd yn y tudalennau yn fwy nag sydd ei angen gan fod modd i asidau ac olew yn y croen achosi difrod i’r papur.
  • Nid oes angen gwisgo menig.
  • Mae clustog llyfrau ar gael ar gyfer cynnal eitemau mawr, bregus neu rai sydd wedi’u rhwymo’n dynn.
  • Dylid agor rhwymiadau cyn lleied â phosibl, gan gynnal meingefn y llyfr ar bob adeg.
  • Ni chaniateir bwyta nac yfed tra’n edrych ar lyfrau prin.
  • Rhaid i unrhyw geisiadau am gopïau gael eu gwneud i Wasanaethau Cwsmer staff, a’u gweithredu gan y tîm Cyfryngau a Gwerthiannau.
  • Bydd tâl yn cael ei godi am gopïo o lyfrau prin.

Hanes Cymru - Casgliadau Digidol