Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Hanes a Hanes Cymru drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell.
Detholiad o gronfeydd data nodweddiadol:
Bibliography of British and Irish History (BBIH)
Mass Observation Online (Adam Matthew Digital)
Oxford Dictionary of National Biography
Detholiad o gyfnodolion yn ein casgliad CELT:
Cewch gwybodaeth academaidd pwysig . Gallwch canfod am erthyglau academaidd gan ddefnyddio botwm 'Erthyglau & mwy' wrth chwilio Primo.
Os ydych am gael mynediad i'n hadnoddau electronig oddi ar y campws, nid oes angen i chi osod a rhedeg VPN bellach; gellir cael mynediad at y rhain gan ddefnyddio Primo VPN.
Yr hyn sydd angen i chi ei wneud yw:
Mewngofnodi i https://primo.aber.ac.uk gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair PA - cewch eich annog i wneud hyn ar ôl cysylltu â Primo VPN.
Byddwch wedyn yn cael mynediad oddi ar y campws i’r mwyafrif o adnoddau gwybodaeth electronig y mae PA wedi tanysgrifio iddynt a’u testun llawn. Os ydych chi’n cau eich porwr bydd angen i chi fewngofnodi eto.
I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad).