Lleolir y prif adrannau ar gyfer Hanes a Hanes Cymru ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen ac yng ngasgliad CELT Llyfrgell Hugh Owen
Lefel F
D History, by country - Europe, Old World
E-F History, by country - The Americas
H Social Sciences
J Political Sciences
JC Political Theory
JF Constitutional History
JK Politics, USA
JN Politics, Europe
JX-JZ International Relations
U Military Sciences
V Naval Science
Dyma restr o gronfeydd data allweddol o e-lyfrau defnyddiol:
Mae'r National Academies Press (NAP) yn cyhoeddi adroddiadau Academïau Cenedlaethol y Gwyddorau, Peirianneg a Meddygaeth.
Defnyddiwch Ebook Central i ddod o hyd i lyfrau a phenodau perthnasol yn gyflym ac yn hawdd
Mae Wikisource yn Llyfrgell Rydd o destunau ffynhonnell sydd ar gael i'r cyhoedd neu'n gyfreithiol ar gael i'w hailddosbarthu am ddim
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r llyfr 'rydych yn chwilio amdano yn y llyfrgell, gallwch wneud cais amdano trwy'r ymgyrch Mwy o Lyfrau (Myfyrwyr yn unig). Bydd pob llyfr sy'n cael ei archebu drwy'r ymgyrch yn cael ei osod yng nghasgliad y llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen yma.
Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.
Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.
Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.
Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.
Mae’r Casgliad Celtaidd yn dwyn ynghyd ddeunyddiau sy’n ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, Yr Alban a Chymru, ac yn cynnwys oddeutu 25,000 o lyfrau. Er bod y casgliad yn cynnwys deunyddiau ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, hanes a llenyddiaeth yw’r ddwy gyfres fwyaf a geir yn y casgliad. Lleolir y casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel E. Mae’r rhagddodiad CELT wedi’i nodi ar feingefn eitemau yn y casgliad, Gellir dod o hyd iddynt i gyd drwy Primo