Gall y Llyfrgellwyr Pwnc yn y tîm Ymgysylltu Academaidd ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ar eich taith i chwilota am ddeunydd ar gyfer eich aseiniadau. Gallwn eich helpu i wneud y gorau o'r adnoddau a'ch pwyntio i gyfeiriad defnyddiol a gwefannau perthnasol. Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc manwl i fyfyrwyr.
Gallwch ddod o hyd i'ch Llyfrgellydd Pwnc trwy ymweld â'r dudalen we ganlynol:
Rydym yn cynnig apwyntiadau un i un i'ch helpu gyda'ch adolygiadau ymchwil a llenyddiaeth. Mae'r apwyntiadau hyn yn cael eu cynnig ar-lein trwy Microsoft Teams neu wyneb-i-wyneb.
Gallwch drefnu apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd pwnc gan ddefnyddio ein tudalen apwyntiadau ar-lein: