Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Primo: defnyddio catalog y llyfrgell: Fy nghyfrif llyfrgell

Fy nghyfrif Llyfrgell

Mae Fy Nghyfrif Llyfrgell yn Primo yn caniatáu i chi: 

  • gweld beth sydd gennych ar fenthyg ar hyn o bryd
  • gwirio'r dyddiadau dychwelyd
  • gofyn am eitemau sydd ar fenthyg ar hyn o bryd ac i'w casglu yn y llyfrgell 
  • canslo ceisiadau

I weld Fy Nghyfrif Llyfrgell:

  • Ewch i'r https://primo.aber.ac.uk
  • Dewiswch Mewngofnodi ar frig ochr dde uchaf y sgrin
  • Teipiwch eich enw defnyddiwr a cyfrinair Prifysgol Aberystwyth 
  • Bydd eich enw nawr yn cael ei arddangos yn lle'r ddolen Mewngofnodi
  • Cliciwch ar eich enw a dewiswch Fy Nghyfrif Llyfrgell

Primo screenshot cy

Edrychwch ar y blychau gyferbyn i weld beth arall y gallwch ei wneud pan fyddwch wedi mewngofnodi i Primo a gweld Fy Nghyfrif Llyfrgell.

Newid iaith

Gallwch ddewis iaith y rhyngwyneb drwy glicio Dewis Iaith neu'r byd ar ochr dde uchaf y sgrin gartref a dewis:

  • Cymraeg / Welsh
  • English / Saesneg 

Peidiwch â dyblygu eich gwaith, cadwch eich chwiliadau!

red heart on white paper

Er mwyn osgoi dyblygu eich chwiliadau a rhedeg yr un ymholiad chwilio drosodd a throsodd, mae Primo yn caniatáu i ddefnyddwyr sydd wedi mewngofnodi i arbed chwiliadau rhwng sesiynau a derbyn rhybuddion e-bost pan fydd diweddariad i'r ymholiad chwilio a arbedwyd.

Edrychwch drwy'r tabiau canlynol am gyfarwyddiadau ar sut i wneud y gorau o'r swyddogaeth hon.

Mae'r dudalen Fy Ffefrynnau, sydd i'w canfod drwy glicio ar y botwm Fy Ffefrynnau FavoritesIcon.png ar frig tudalen gartref Primo, yn cynnwys y tabiau canlynol:

  • Cofnodion a Gadwyd
    • Mae'r tab hwn yn dangos eich holl gofnodion eitem/ llyfr / erthygl unigol a arbedwyd ac yn eich galluogi i reoli eich cofnodion a gadwyd.

  • Chwiliadau a Gadwyd
    • Mae'r tab hwn yn dangos eich holl chwiliadau wedi'u cadw (yr hyn rydych chi wedi'i ddefnyddio fel allweddeiriau) ac yn caniatáu i chi reoli eich chwiliadau wedi'u cadw.

  • Hanes Chwilio
    • Mae'r tab hwn yn dangos eich holl chwiliadau ar gyfer y sesiwn gyfredol ac yn eich galluogi i reoli chwiliadau eich sesiwn gyfredol. Ar gyfer defnyddwyr sydd wedi'u llofnodi i mewn, bydd Primo yn cadw'r 100 chwiliad diwethaf.

Cadw cofnod unigol 

I gadw cofnod:

  1. Gwnewch chwiliad

  2. Cliciwch y botwm UnpinnedIcon.png wrth ymyl yr eitem rydych chi am ei chadw yn y canlyniadau chwilio.

    PinRecord1.png

    Mae'r system yn amlygu'r eitem, yn newid yr eicon i'r eicon PinnedIcon.png ac yn ychwanegu'r eitem at y dudalen Fy Ffefrynnau. 

Os ydych chi am wirio'r hyn rydych chi wedi chwilio amdano o'r blaen, cliciwch Hanes Chwilio ac yma fe welwch restr o'ch chwiliadau - y geiriau allweddol a ddefnyddiwyd gennych yn eich chwiliad gwreiddiol.

Cliciwch ar yr allweddeiriau sydd yn cynnwys hyperddolen las a bydd hyn yn mynd â chi i'r dudalen ganlyniadau ar gyfer y termau hynny. 

  • Gallwch roi'r chwiliad hwn ar eich ffefrynnau - unrhyw eitemau newydd sy'n cyfateb i'n termau chwilio sy'n cael eu hychwanegu at gasgliadau'r llyfrgell, byddwch yn cael eich hysbysu drwy e-bost
  • neu gallwch ddileu'r chwiliad 

Ar gyfer defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi, mae Primo yn storio'r 100 chwiliad diwethaf yn yr Hanes Chwilio ac yn caniatáu i'r ymholiadau hyn gael eu copïo i Chwiliadau wedi'u Cadw.

Er y gall yr un chwiliad ymddangos yn Hanes Chwilio fwy nag unwaith, ni fyddwch yn gallu ychwanegu'r un chwiliad at Chwiliadau wedi'u Cadw fwy nag unwaith.

Tab Hanes Chwilio (Defnyddiwr wedi mewngofnodi)

Yn ystod sesiwn, ni chedwir chwiliadau a berfformiwyd cyn mewngofnodi ar ôl i chi fewngofnodi.

Ar ôl mewngofnodi, bydd Hanes Chwilio yn cynnwys chwiliadau o sesiynau blaenorol a chwiliadau newydd a berfformiwyd ar ôl mewngofnodi.

I gadw ymholiad o'r tab Hanes Chwilio:
  1. Mewngofnodwch i Primo

  2. Cliciwch Hanes Chwlio o'r rhestr o dan Fy Nghyfrif Llyfrgell

  3. Dewiswch y tab Hanes Chwilio i ddangos eich hanes chwilio.

  4. Ar gyfer defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi yn unig, dewiswch y botwm pin sy'n ymddangos wrth ymyl yr ymholiad rydych chi am ei arbed. Dylai'r cofnod ymddangos o dan Chwiliadau wedi'u Cadw hefyd.

Dileu Ymholiad a Gadwyd
I ddileu ymholiad:

  1. Cliciwch y botwm Fy Ffefrynnau ar frig y dudalen.
  2. Dewiswch y tab Chwiliadau wedi'u Cadw i ddangos eich holl chwiliadau.
  3. Cliciwch y botwm 'Unpin' sy'n ymddangos wrth ymyl yr ymholiad rydych chi am ei dynnu o'r rhestr.

 

Dileu Grŵp o Ymholiadau a Arbedwyd
I ddileu grŵp o ymholiadau:

  1. Cliciwch y botwm Fy Ffefrynnau ar frig y dudalen.
  2. Dewiswch y tab Chwiliadau wedi'u Cadw i ddangos eich holl chwiliadau wedi'u cadw.
  3. Dewiswch flychau ticio'r ymholiadau rydych chi am eu dileu.UnpinSelectedQueries.png
  4. Dewiswch Ymholiadau i'w Tynnu.

  5. I ddewis pob ymholiad, cliciwch y blwch ticio uwchben y rhestr. Cliciwch y botwm Unpin sy'n ymddangos uwchben y rhestr.

 

Dileu Ymholiadau o Hanes Chwilio

I ddileu ymholiadau o Hanes Chwilio:

  1. Cliciwch y botwm Fy Ffefrynnau ar frig y dudalen.
  2. Dewiswch y tab Hanes Chwilio i ddangos eich holl chwiliadau wedi'u cadw.
  3. Dewiswch eitem neu eitemau, ac yna dewiswch yr eicon Dileu. 
  4. Neu fedrwch dileu nifer o chwiliadau ar yr un pryd. Mae dewis yr eicon Dileu yn rhes chwiliad, yn dileu'r chwiliad hwnnw o Hanes Chwilio yn unig.