Gall holl staff a myfyrwyr y Brifysgol fenthyg hyd at 40 o eitemau ar unrhyw un adeg.
Gallwch fenthyg y rhan fwyaf o eitemau am wythnos a bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig i chi bob wythnos nes bod angen yr eitem ar rywun arall a byddant yn gwneud cais amdano, neu ar ôl 12 mis. Bydd angen eich cerdyn Aber arnoch i ddefnyddio'r peiriannau hunan-fenthyca i fenthyca'r llyfr i'ch cyfrif Llyfrgell.
Cewch ddirwy dim ond os na fyddwch yn dod â'r eitem yn ôl pan gaiff ei alw'n ôl gan ddefnyddiwr arall, neu os na fyddwch yn dychwelyd y llyfr i'r llyfrgell ar ôl 12 mis.
I chwilio am lyfrau/e-lyfrau neu gylchgronau/e-gyfnodolion cadwch y chwiliad fel Llyfrgelloedd (y chwiliad diofyn). Bydd y chwiliad hwn yn chwilio am:
I gael gwybod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Bydd angen i chi nodi ychydig o allweddeiriau/enw awdur i ddechrau chwilio. Edrychwch drwy'r tabiau hyn i ddod i adnabod statws yr eitemau rydych chi'n dod o hyd iddyn nhw.
Ar Gael
Os yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hon gyda 'Ar gael' gan roi lleoliad y llawr a manylion y rhif dosbarth.
Ar fenthyg
Os nad yw'r llyfr ar gael ac ar fenthyg i ddefnyddiwr arall, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hon fel 'Ar fenthyg' gyda manylion y llawr a'r rhif dosbarth.
Os gwelwch fod llyfr ar fenthyg a'ch bod am ei fenthyca, gallwch wneud cais amdano neu ei alw'n ôl.
I gael cyfarwyddiadau ar sut i ofyn am lyfr sydd ar fenthyg gyda defnyddiwr arall, gweler Cwestiwn a Holir yn Aml 814
Edrychwch hefyd ar y blwch Gwneud Cais am eitemau ar dudalen Fy Nghyfrif Llyfrgell am ragor o wybodaeth.
Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau e-lyfrau.
Mae gennym 1000au o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n rheolaidd. Gallwch weld ein e-lyfrau drwy Primo. Yn y blwch chwilio rhowch un neu ddau air allweddol o'r teitl a chyfenw'r awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos gallwch ddewis clicio Testun llawn ar-lein yn y ddewislen Addasu fy nghanlyniadau ar y chwith i ddangos canlyniadau ar gyfer e-lyfrau yn unig.
Os oes gennym fynediad at fersiwn electronig o lyfr, bydd y cofnod Primo yn nodi Mynediad Ar-lein