Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Primo: defnyddio catalog y llyfrgell: Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyfnodolion ac Erthyglau

Mae cyfnodolyn yn gyhoeddiad sy'n canolbwyntio ar faes pwnc penodol a all gynnwys erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, megis wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae cyfres o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân).

Unrhyw eitem a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn sy'n cynnwys papurau byr ar bynciau penodol. Gellir dod o hyd iddynt ar ffurf print, ar-lein neu'r ddau.

Pam defnyddio erthygl o gyfnodolyn?

  • Ffynonellau pwysig ar gyfer gwybodaeth am bynciau neu ymchwil
  • Gwybodaeth am ddatblygiadau cyfredol
  • Cyhoeddir erthyglau cyfnodolion yn gyflymach na llyfrau, felly gallant fod yn fwy cyfredol
  • Maent yn aml yn ymdrin â phwnc yn fanwl ac yn cynnwys ymchwil gwreiddiol

Benthyca cyfnodolyn

Gallwch fenthyg cyfnodolyn dros nos. Bydd angen i chi osod cais am gyfrol/rhifyn enodol y cyfnodolyn yn Primo.

Cyfarwyddiadau ar ofyn am gyfnodolyn. 

Chwilio am erthyglau o gyfnodolion ar Primo

Mae cyfnodolion yn darparu ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. 

  • I chwilio am gyfnodolion, cadwch y chwiliad i Llyfrgelloedd, y chwilio diofyn. 
  • Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion yn Primo gan ddefnyddio'r gwymplen ar yr ochr dde a dewis Erthyglau.

Mae gan Cwestiynau Cyffredin 1185 gyfarwyddiadau manwl ar sut i chwilio am erthyglau testun llawn ar Primo.

E-cyfnodolion

Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio i ystod eang o e-gylchgronau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe adnoddau electronig.