Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Primo: defnyddio catalog y llyfrgell: Dechrau arni

Primo

Mae Primo, catalog y Llyfrgell yn rhestru pob llyfr, pamffled, cylchgrawn, DVD a llawer o adnoddau ffisegol ac electronig eraill yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth ac yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod o hyd i'r adnoddau hynny a'u defnyddio ar gyfer eich astudiaeth.

Ble alla i ddod o hyd i Primo?

Gallwch ddod o hyd i Primo, catalog y Llyfrgell mewn nifer o leoliadau cyfleus ar-lein:

Gallwch hefyd ymweld â Llyfrgelloedd Hugh Owen a'r Gwyddorau Ffisegol lle gallwch ddod o hyd i beiriannau Primo dynodedig.

 
Map llawr Llyfrgell

Porwch fap ar-lein newydd yn libraryfloormap.aber.ac.uk i ddarganfod lle mae popeth yn Llyfrgell Hugh Owen, i gael rhagor o wybodaeth am adnoddau a mannau’r llyfrgell ac i ymgyfarwyddo â'r cynllun llawr.

 

Cynlluniau llawr

Gallwch hefyd glicio yma i gael mynediad at Primo, catalog y Llyfrgell yn uniongyrchol a'i wneud yn un o'ch ffefrynnau.

Pam ddylwn i fewngofnodi?

Rydych chi'n mewngofnodi i Primo gan ddefnyddio:

  • eich enw defnyddiwr a
  • chyfrinair Prifysgol Aberystwyth.

Bydd mewngofnodi yn sicrhau:

  • bod gennych fynediad i'r ystod ehangaf o adnoddau sydd ar gael i chi
  • y gallwch ddarllen ar-lein a lawrlwytho e-adnoddau 
  • y gallwch arbed teitlau i gyfeirio atynt yn hwyrach
  • y gallwch ofyn am, gweld a rheoli'r eitemau y gofynnwyd amdanynt
  • y gallwch wirio'r hyn sydd gennych ar fenthyg ar hyn o bryd a phryd y maent yn ddyledus yn ôl
  • y gallwch dalu unrhyw ddirwyon llyfrgell sydd heb eu talu

Cael problemau mewngofnodi?

woman in black long sleeve shirt covering her face with her hands

 

Os derbynnir eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair ond bod rhywbeth heblaw eich enw yn arddangos, cysylltwch â'r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Sut ydw i'n mewngofnodi i Primo?

  • Ewch i Primo
  • Yng nghornel dde uchaf y dudalen hafan cliciwch Mewngofnodi  

  • Teipiwch i fewn eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Aberystwyth ac yna chlicio Mewngofnodi

Os ydych wedi dechrau eich chwiliad heb fewngofnodi i Primo, gallwch barhau i fewngofnodi unrhyw bryd pan welwch yr ymwadiad oren canlynol ar y dudalen neu'r cofnod eitem i gael canlyniadau cyflawn ac i ofyn am eitemau: 

Sut alla i weld fy mod wedi mewngofnodi?

Gallwch weld os ydych wedi mewngofnodi i Primo yn llwyddiannus oherwydd bydd eich enw'n ymddangos ar frig y dudalen. 

Cofiwch allgofnodi o Primo ar ôl i chi gwblhau eich chwilota a'ch gwaith. 

  • Ewch yn ôl i gornel dde uchaf y sgrin gartref lle mae eich enw'n cael ei arddangos
  • Cliciwch Allgofnodi 

  • Pan fyddwch wedi llofnodi allan yn llwyddiannus, bydd yr opsiwn Mewngofnodi nawr yn cael ei arddangos, yn hytrach na'ch enw. 

Beth sydd ar frig tudalen Primo?

Ar frig tudalen adref Primo, fe welwch res o opsiynau sydd ar gael i chi:

Edrychwch drwy'r tabiau canlynol i ymgyfarwyddo â'r gwahanol swyddogaethau.

Cliciwch hwn ar frig y dudalen a bydd yn clirio eich chwiliad cyfredol yn barod i ddechrau chwiliad newydd sbon.

Mae Chwiliad E-Gyfnodolion neu Browzine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth. 

Gan ddefnyddio BrowZine gallwch: 

  • pori neu chwilio yn ôl pwnc i ddod o hyd i e-gyfnodolion o ddiddordeb 
  • chwilio am deitl penodol 
  • creu eich silff lyfrau eich hun o hoff e-gyfnodolion a'u trefnu sut ydych chi eisiau 
  • Dilynwch eich hoff deitlau a derbyn rhybuddion pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi 

  • Cadwch erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau

Gellir defnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu gallwch lawrlwytho'r ap i'w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd yr ap Browzine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi gadw i fyny â'ch darlleniad e-gyfnodolion lle bynnag yr ydych chi. 

Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwilio E-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o'ch siop app.

Chwilio am gronfeydd data

I chwilio am gronfeydd data gallwch wneud y canlynol:

  • Nodwch allweddeiriau yn y blwch chwilio
  • Pori cronfeydd data yn ôl categori

Os gliciwch ar Cais Pwrcasu, gall myfyrwyr wneud ceisiadau i Mwy o Lyfrau ac i staff archebu llyfrau o gronfa ddewisol eu hadran.

Gellir defnyddio'r gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau i fenthyg llyfrau neu gaffael erthyglau cyfnodolion nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth.

Os ydych yn Ddysgwr o Bell, defnyddiwch y ddolen hon i ofyn am y canlynol:

  • Erthygl
  • Pennod
  • Traethawd Hir

Fideo byr am Primo