Dyma restr wirio gyflym ar yr hyn y mae angen i chi feddwl amdano yn eich chwiliad i ddod o hyd i adnoddau perthnasol ar gyfer eich aseiniad.
Cyn i chi ddechrau, dylech ystyried tri chwestiwn allweddol:
Mae tri chategori bras o ffynonellau:
Ar gyfer chwilio ar-lein effeithiol mae angen i chi fuddsoddi amser ymlaen llaw i ddatblygu strategaeth chwilio gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau chwilio. Os na fyddwch chi'n meddwl am eich strategaeth chwilio efallai y byddwch chi'n cael eich llethu gan lawer gormod o ganlyniadau amherthnasol.
Mae’n ddefnyddiol meddwl am hyn fel proses tri cham:
1. Nodwch eich termau chwilio
2. Cyfunwch eich termau Chwilio
3. Defnyddiwch dechnegau chwilio i gyfoethogi eich chwiliad
Mae rhagor o wybodaeth chwilio ar gael ar y tudalennau Chwilio Sylfaenol a Thechnegau Chwilio yn y LibGuide yma.
yn bennaf byddwch yn defnyddioPrimo, catlog y llyfrgell i chwilio am lyfrau, cyfnodolion ac erthyglau a hefyd yr amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth ar-lein y mae gan fyfyrwyr a staff PA fynediad atynt drwy danysgrifiad llyfrgell PA
Mae Chwiliad E-Gyfnodolion neu Browzine yn ffordd newydd o bori a chwilio miloedd o gyfnodolion electronig sydd ar gael i chi fel aelod o Brifysgol Aberystwyth.
Gan ddefnyddio BrowZine gallwch:
Dilynwch eich hoff deitlau a derbyn rhybuddion pan fydd rhifyn newydd yn cael ei gyhoeddi
Cadwch erthyglau yn eich llyfrgell bersonol a fydd yn cysoni ar draws eich dyfeisiau
Gellir defnyddio BrowZine ar eich cyfrifiadur, neu gallwch lawrlwytho'r ap i'w ddefnyddio ar ddyfais Android neu Apple. Bydd yr ap Browzine yn cysoni ar draws sawl dyfais fel y gallwch chi gadw i fyny â'ch darlleniad e-gyfnodolion lle bynnag yr ydych chi.
Dewch o hyd iddo ar Primo, catalog y llyfrgell, drwy glicio ar y botwm Chwilio E-gyfnodolion ar frig y dudalen neu lawrlwythwch yr ap o'ch siop app.
Fe welwch ragor o wybodaeth am y gwahanol agweddau uchod yn y LibGuide hwn.
Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.
Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys Proffiliau Personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.
Gallwch chwilio Porth Ymchwil Aberystwyth am draethodau ymchwil naill ai yn y blwch chwilio cyffredinol neu drwy bori yn y gymuned cyhoeddiadau ôl-raddedig. Nid yw cofnodion Porth Ymchwil Aberystwyth o reidrwydd yn darparu mynediad testun llawn, ar gyfer traethodau ymchwil, gallai hyn fod oherwydd bod gan draethawd ymchwil embargo dros dro ar fynediad agored (gellir dod o hyd i amodau’r embargo a dyddiad argaeledd drwy glicio ar ‘Dangos Cofnod Eitem Llawn’), neu embargo parhaol oherwydd materion hawlfraint neu wybodaeth sensitif, er enghraifft.
Chwiliwch dros 119 o gatalogau llyfrgelloedd academaidd, cenedlaethol ac arbenigol y DU ac Iwerddon: https://discover.libraryhub.jisc.ac.uk/
Mae Jisc Library Hub Discover yn datgelu deunydd ymchwil prin ac unigryw trwy ddod â chatalogau prif lyfrgelloedd y DU ac Iwerddon ynghyd. Mewn un chwiliad gallwch ddarganfod daliadau Llyfrgelloedd Cenedlaethol y DU (gan gynnwys y Llyfrgell Brydeinig), llawer o lyfrgelloedd prifysgol, a llyfrgelloedd ymchwil arbenigol.
Mae Google Scholar yn darparu ffordd syml o chwilio'n fras am lenyddiaeth ysgolheigaidd. O un lle, gallwch chwilio ar draws llawer o ddisgyblaethau a ffynonellau: erthyglau, traethodau ymchwil, llyfrau, crynodebau a barn llys, gan gyhoeddwyr academaidd, cymdeithasau proffesiynol, cadwrfeydd ar-lein, prifysgolion a gwefannau eraill. Gall Google Scholar fod yn lle da i gychwyn eich chwiliad ond nid yw'n caniatáu ar gyfer y chwilio uwch neu gymhleth y gallwch ei wneud yng nghronfeydd data ymchwil y Llyfrgell.
Cyrchwch e-adnoddau gan ddefnyddio Google Scholar
Ni all Google Scholar ddarparu mynediad i destun llawn, fodd bynnag, trwy gysylltu â'r Llyfrgell gallwch gyrchu testun llawn lle mae tanysgrifiad Prifysgol.
Byddwch nawr yn gweld dolenni FindIt@Aber wrth ymyl eitemau yn eich canlyniadau Google Scholar y gallwch eu defnyddio i gael mynediad at y testun llawn.
Mewn cymdeithas sy'n gyfoethog o ran gwybodaeth, mae'n hanfodol cofio nad yw pob adnodd gwybodaeth yn gyfartal!
Pan fyddwch chi'n chwilio am wybodaeth, rydych chi'n ymchwilydd. Fel ymchwilydd, rhaid i chi werthuso'r wybodaeth a ddarganfyddwch a phenderfynu a yw'r cynnwys yn:
Ynghyd â chyrchu, chwilio a dod o hyd i wybodaeth, mae gwerthuso gwybodaeth yn hanfodol. Mae'n bwysig gwerthuso'n ofalus y ffynonellau a ddewiswch. Ystyriwch beth rydych yn chwilio amdano a pham. Pan fydd gennych ffynonellau mwy credadwy, y mwyaf credadwy yw eich dadl.
Pan fyddwch chi'n dod o hyd i adnoddau ar gyfer eich aseiniad, rydych am ddod o hyd i'r wybodaeth orau i gefnogi'ch syniadau, eich trafodaethau a'ch dadleuon. Mae hyn yn gofyn am werthusiad gofalus o'r wybodaeth a ddarganfyddwch.
Mae'n bwysig gwerthuso gwybodaeth. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn:
Bydd gwerthuso gwybodaeth yn eich galluogi i adnabod a diystyru gwybodaeth sydd yn:
Acronym yw 'CCAPP' sy'n sefyll am bob cam ym mhroses cloriannu ffynhonnell (Cyfredol – Cywirdeb – Awdurdod – Perthnasol – Pwrpas). Mae wedi’i seilio ar yr acronym Saesneg ‘CRAAP’ (Currency – Revelance – Authority – Accuracy – Purpose)
C: Cyfredol ('Currency')
Mae hyn yn ymwneud ag amseroldeb yr adnoddau neu'n cyfeirio at ba mor ddiweddar yw'r wybodaeth.
C: Cywirdeb ('Accuracy')
Mae cywirdeb yn ymwneud â dibynadwyedd, gonestrwydd a chywirdeb yr adnodd.
A: Awdurdod ('Authority')
Mae hyn yn cyfeirio ar yr awdur - pwy ysgrifennodd y darn. Mae'n bwysig gwybod pa waith yr ydych yn ymgynghori ag ef.
P: Perthnasol ('Relevance')
Mae perthnasedd yn ymwneud â phwysigrwydd y wybodaeth i chi a'ch anghenion gwybodaeth.
P: Pwrpas ('Purpose')
Mae pwrpas yn ymwneud â'r rheswm y crëwyd y wybodaeth.
Datblygwyd y Prawf 'CRAAP' (CCAPP) gan Lyfrgell Meriam ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Chico.
Ar gyfer unrhyw ddeunydd y byddwch yn edrych arno, mae'n syniad da cofnodi'r hyn y dewch o hyd iddo, a ble a phryd y daethoch o hyd iddo. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws cydnabod eich ffynonellau'n gywir ac olrhain eich camau os oes angen.
Bydd angen i chi reoli'r adnoddau y byddwch yn dod o hyd iddynt. Mae llawer o ffynonellau gwybodaeth ar-lein yn cynnwys nodweddion i'ch helpu i storio canlyniadau eich chwiliad i'w defnyddio'n ddiweddarach. Yn Primo, er enghraifft, gallwch storio eich canlyniadau chwilio yn eich Ffefrynnau.
Ceisiwch ddod i'r arfer o storio'r cofnodion ar gyfer y ffynonellau gwybodaeth y byddwch yn dod o hyd iddynt fel nad oes rhaid i chi dreulio amser gwerthfawr yn chwilio amdanynt eto pan fyddwch yn creu eich rhestr gyfeirio.