Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynullydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl.
Blackboard
Cewch hyd i'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard
Mwy o wybodaeth am eich Rhestrau Darllen Aspire.
Aspire
Gallwch hefyd weld eich rhestrau darllen drwy fynd yn uniongyrchol i'r system Aspire yn aspire.aber.ac.uk
Chwiliwch am fodiwl drwy deipio teitl a/neu god y modiwl.
Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:
cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol
cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol
Gall eich rhestr gynnwys gwerslyfrau a argymhellir ynghyd â ffynonellau eraill megis penodau digidol, erthyglau cyfnodolion, gwefannau a mwy.
Mae'n bosibl y bydd llawer o eitemau wedi'u cynnwys mewn rhai rhestrau a bydd angen i chi ddewis ychydig o eitemau sydd o ddiddordeb.
Mae gan eraill ddarlleniadau hanfodol, darlleniadau pellach a gellir eu rhannu'n ddarlleniadau wythnosol neu eu rhannu'n adrannau. Gwiriwch gyda'ch darlithydd os nad ydych yn sicr beth sydd ei angen.
Cliciwch ar deitl yr eitem i gael rhagor o wybodaeth (fel faint o gopïau printiedig sydd ar gael) neu defnyddiwch yr opsiwn gweld ar-lein i gael mynediad electronig:
Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gweld eitemau ar-lein gyda deunydd digidedig - mae’r rhain yn benodau neu’n erthyglau sydd ar gael yn electronig yn benodol ar gyfer eich rhestr ddarllen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau mynediad ar gyfer eich holl eitemau ar y rhestr ddarllen. Mae angen eich e-bost a'ch cyfrinair Prifysgol ar gyfer y rhan fwyaf o ddeunyddiau electronig - yr enw ar hyn yw dilysiad Shibboleth.
Gallwch chi wneud llawer mwy gyda'ch rhestr ddarllen fel:
Ar gyfer myfyrwyr:
Gallwch weld a yw llyfr rydych chi wedi dod o hyd iddo yn Primo ar restr ddarllen modiwl penodol gan y bydd yn dangos hyn o dan deitl y llyfr.
Cliciwch y botwm RHESTRAU DARLLEN i weld pa fodiwl(au) y mae'r llyfr arno - bydd hyn yn mynd â chi yn syth i weld y rhestr ddarllen yn Aspire.