Isod mae disgrifiad o'r hyn y mae pob opsiwn yn ei chwilio a'i adfer:
1. Llyfrgelloedd (y chwiliad diofyn):
-
eitemau ffisegol o fewn llyfrgelloedd y campws: llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, pamffledi, DVDs
-
a'u cyfwerth electronig - e-lyfrau, e-gylchgronau a ffynonellau gwybodaeth electronig eraill y mae PA yn tanysgrifio iddynt (yn chwilio am deitlau'r e-lyfrau/e-gylchgronau cyfan nid penodau/erthyglau unigol oddi mewn).
2. Erthyglau
- chwiliadau ar draws llawer o erthyglau cyfnodolion gan gyhoeddwyr ac yn dychwelyd canlyniadau gyda thestun llawn ar-lein.
3. Popeth
- Mae Popeth yn dychwelyd canlyniadau o chwiliadau Llyfrgelloedd ac Erthyglau.
4. Porth Ymchwil Aberystwyth
- Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn dod o hyd i draethodau ymchwil graddau uwch PA ac ymchwil sydd wedi’i leoli yng nghadwrfa ymchwil Pure. Os yw’n well gennych, gallwch ymweld â Phorth Ymchwil Aberystwyth a’i chwilio’n uniongyrchol.
5. Chwiliad WHELF
- Mae Chwiliad WHELF yn dychwelyd canlyniadau o gatalogau llyfrgelloedd sy’n aelodau o WHELF. WHELF yw Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru ac mae’n cynnwys holl sefydliadau addysg Cymru ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.