Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canfod a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir: 7. Dulliau a dadansoddi data

Dulliau a data

Bydd pa ddulliau a ddefnyddiwch i gasglu eich data yn dibynnu ar eich traethawd hir.

Bydd angen i chi nodi pa fathau o ddull rydych wedi’u defnyddio – boed ansoddol, meintiol neu gymysg.

Bydd angen i chi egluro pam y gwnaethoch ddewis y dull penodol hwnnw.

Dulliau ansoddol

Mae dulliau ansoddol (qualitative) yn canolbwyntio ar ddisgrifio rhinweddau yn hytrach na mesur.

Er enghraifft:

  • Trawsgrifiadau o gyfweliadau
  • Recordiadau o areithiau
  • Cofnodion cyfarfodydd
  • Casgliadau o nodiadau maes
  • Testunau llenyddol
Dulliau meintiol

Mae data meintiol (quantitative) yn defnyddio data rhifiadol ac yn canolbwyntio ar eich gwaith yn casglu ac yn dehongli’r data rhifiadol hwn.

Er enghraifft:

  • holiaduron
  • arolygon
  • arsylwadau

 

Dulliau cymysg

Gallai eich traethawd hir ddefnyddio dulliau cymysg sy’n cyfuno dulliau ansoddol a meintiol.

Er enghraifft:

  • gallai holiadur gynnwys rhai ymatebion meintiol
    • Faint yw eich oed? Ticiwch y blwch perthnasol.
    • Faint o oriau bob wythnos ydych chi’n eu treulio yn y llyfrgell? Ticiwch nifer yr oriau.
  • gallai holiadur hefyd gynnwys rhai ymatebion ansoddol
    • Disgrifiwch yn eich geiriau eich hun y prif bwrpas pam yr ydych yn defnyddio’r llyfrgell.

Meddalwedd dadansoddi data

Rhaid casglu, dehongli a chyflwyno’r data sydd i’w gynnwys yn eich traethawd hir er mwyn iddo fod ag ystyr. Data yw’r cynhwysion crai y mae ystadegau’n cael eu creu ohonynt.

Mae ystadegau’n ddefnyddiol pan fydd angen i chi gefnogi dadl a gallant fod yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol ar gyfer eich astudiaeth.

Gellir cynnal dadansoddiad ystadegol ar ddata i ddangos cysylltiadau ymhlith y newidynnau a gasglwyd. Trwy ddadansoddi data eilaidd, gall llawer o wahanol ymchwilwyr ailddefnyddio’r un set ddata at wahanol ddibenion.

Mae llawer o offer ar gael gan y Brifysgol a all eich helpu i ddadansoddi’r hyn rydych wedi’i ddarganfod.

 

NVivo

Offeryn ar gyfer dadansoddi data ansoddol yw NVivo a gellir ei ddefnyddio ar gyfer trawsgrifio a dadansoddi, er enghraifft cyfweliadau.

Gallwch osod NVivo ar eich cyfrifiadur eich hun o’r dudalen lawrlwytho meddalwedd. Mae NVivo wedi’i osod ar bob un o’n cyfrifiaduron cyhoeddus yn yr ystafelloedd cyfrifiaduron. Gallwch ddod o hyd iddo yn y ffolder Meddalwedd Cyrsiau Mathemateg a Ffiseg ar y ddewislen cychwyn.

SPSS

Pecyn meddalwedd ystadegol yw SPSS sy’n eich galluogi i drefnu a dadansoddi setiau data. Mae SPSS yn cynnwys swyddogaethau sy’n eich galluogi i gynnal profion ystadegol ar gyfer disgrifio a dod i gasgliadau. Gallwch ddefnyddio SPSS at ddibenion dadansoddi data ar gyfer modiwl dulliau ymchwil meintiol. Mae’r meddalwedd ar gael am ddim ar bob cyfrifiadur ar y campws.

Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho’r meddalwedd i’w ddefnyddio ar gyfrifiaduron personol yma.

Llyfrau i helpu

Dyma rai enghreifftiau o lyfrau ar ystadegau sydd ar gael yn y llyfrgell / ar-lein.