Mae'n bwysig iawn cadw cofnod cywir o'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn eich traethawd hir.
Bydd angen i chi reoli'r wybodaeth rydych chi'n dod o hyd iddi ar gyfer eich traethawd hir. Mae llawer o ffynonellau gwybodaeth ar-lein yn cynnwys nodweddion i'ch helpu chi i storio'ch canlyniadau chwilio i'w defnyddio'n ddiweddarach. Yn Primo, er enghraifft, gallwch storio'ch canlyniadau chwilio yn eich Ffefrynnau. Ceisiwch fynd i'r arfer o storio'r cofnodion ar gyfer y ffynonellau gwybodaeth rydych chi'n dod o hyd iddyn nhw fel nad oes raid i chi dreulio amser gwerthfawr yn chwilio amdanyn nhw eto wrth greu eich rhestr gyfeirio.
Mae yna hefyd offer ar-lein i'ch galluogi i allforio canlyniadau chwilio i feddalwedd rheoli cyfeirio e.e. EndNote. Mae mwy o fanylion isod.
Dyma rai o'r ffyrdd y gall defnyddio meddalwedd rheoli cyfeirnod helpu:
Mwy o wybodaeth:Meddalwedd y Brifysgol
Mae’n ddefnyddiol iawn gallu mynd ati’n systematig i gasglu’r cyfeiriadau rydych wedi’u dewis ar gyfer eich traethawd er mwyn eu cadw mewn un lle a’u hadfer yn ôl y galw wrth ysgrifennu eich adolygiad.
Gall strategaethau amrywio o:
Bob tro y cewch ganlyniadau o gronfa ddata, bydd angen i chi eu rheoli. Er mwyn osgoi dyblygu eich chwiliadau dro ar ôl tro, arbedwch nhw!
Cymerwch gip trwy'r tabiau hyn i ddarganfod mwy ar sut i arbed neu storio chwiliadau a chofnodion a sut i fynd ati i anfon y manylion atoch chi'ch hun drwy e-bost.
Os gwelwch eich bod yn chwilio am yr un gair neu ymadrodd dro ar ôl tro, gallwch storio neu gadw ymholiadau yn eich Cyfrif ar Primo.
Os hoffech gael eich hysbysu trwy e-bost pan fydd canlyniadau newydd yn cael eu hychwanegu at eich chwiliad, cliciwch Turn on notification for this query ar y faner sy'n ymddangos ar dop y tudalen (baner Saesneg yn unig ar hyn o bryd - Cymraeg ar y ffordd).
Cliciwch ar yr eicon pin sydd wedi'i lleoli yng nghornel dde uchaf y dudalen Primo i fynd i'ch ffefrynnau, ac wedyn cliciwch ar Saved Searches (adran Saesneg ar hyn o bryd - Cymraeg ar y ffordd) i weld eich chwiliadau wedi'u cadw:
Mae gennych yr opsiwn i ddileu'r chwiliadau pryd bynnag y dymunwch trwy glicio ar Unpin this search:
ar bwys y chwiliad ydych chi eisiau dileu (adran Saesneg ar hyn o bryd - Cymraeg ar y ffordd).
Os ydych wedi dod o hyd i eitem ar Primo yr ydych am ei chadw i'ch cyfrif er mwyn cyfeirio ati yn y dyfodol, gallwch storio neu gadw cofnod trwy glicio ar yr eicon pin wrth ymyl y teitl.
Ar ben uchaf y dudalen Primo, cliciwch yr eicon pin i weld eich eitemau sydd wedi'u cadw.
Cofiwch mewngofnodi i Primo i weld eich ffefrynau a chofnodion rydych wedi cadw.
Neu, ewch i'ch cyfrif a mynd i Eitemau a gadwyd
(baner Saesneg yn unig ar hyn o bryd - Cymraeg ar y ffordd).
Gallwch e-bostio'ch eitemau sydd wedi'u cadw atoch chi'ch hun hefyd.
Ar ben uchaf y dudalen Primo, cliciwch yr eicon pin i weld eich eitemau sydd wedi'u cadw.
Cofiwch mewngofnodi i Primo i weld eich ffefrynau a chofnodion rydych wedi cadw.
Neu, ewch i'ch cyfrif a mynd i Eitemau a gadwyd
Dewiswch hyd at 30 cofnod trwy glicio ar y blwch rhif wrth ymyl pob cofnod.
Uwchben y rhestr, cliciwch ar Ebost.
NEU
gallwch allforio un eitem ar y tro trwy glicio'r eicon
gyferbyn y teitl.
Parhewch nes eich bod wedi allforio'r holl gofnodion rydych chi am eu e-bostio atoch chi'ch hun o'r Fasged ac unrhyw is-ffolderau rydych chi wedi'u creu o'r blaen.
Peidiwch â phanicio! Cymerwch gip ar y tabiau canlynol ar yr hyn y gallwch chi ei wneud i'ch helpu chi ar eich taith traethawd hir.
Mae'n bwysig iawn ystyried sut y byddwch yn:
Bydd hyn yn eich galluogi i:
Mae nodwedd yn Microsoft Word ar gyfer creu dyfyniadau testun a llyfryddiaethau. Citations & Bibliography yw'r enw arno a gallwch ddod o hyd iddo ar y tab Cyfeiriadau yn Word.
Dalier sylw: mae'n rhaid i chi deipio'r manylion cyfeirio eich hun felly mae hyn yn ddefnyddiol dim ond os ydych chi'n dyfynnu nifer fach o gyfeiriadau yn unig. Hefyd nid yw wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gyda throednodiadau.
Sut allaf wneud y mwyaf o Microsoft Word pan yn ysgrifennu'n nhraethawd hir?
Mae yna lawer o nodweddion yn Microsoft Word a all eich helpu chi yn y broses o ysgrifennu eich traethawd hir. Dilynwch y dolenni isod i gael cyfarwyddiadau cam wrth gam:
Wrth baratoi traethawd hir efallai yr hoffech ddefnyddio un o'r dulliau canlynol ar gyfer fformatio cyson ar draws ystod o ddogfennau:
Templedi
Prif ddogfen
Gallwch greu prif ddogfen i arddullio ystod o brosiectau Word unigol, fel penodau traethawd hir, yn barod i'w hargraffu (Sut mae gwneud hynny?)
I geisio gwneud yn siŵr nad ydych yn colli eich gwaith rydym yn argymell eich bod yn ystyried y canlynol: (FAQ https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=85)
Mae’r holl wybodaeth uchod yn argymhellion sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd y mae defnyddwyr yn y gorffennol wedi’u hwynebu.
Mae EndNote yn feddalwedd cyfeirio llyfryddiaethol ar gyfer casglu cyfeiriadau llyfryddiaethol o gronfeydd data ar-lein; diwygio, rheoli a storio tystlythyrau; fformatio'r cyfeiriadau o ystod o arddulliau dyfynnu a ddarperir ac allforio'r cyfeiriadau fel troednodiadau, ôl-nodiadau a llyfryddiaethau i ddogfennau Microsoft Word.
Mae dogfennaeth o gymorth ar gael ar-lein: Home - Mendeley Support Center (elsevier.com)
Mae Mendeley yn caniatáu ichi fewnforio cyfeiriadau i'ch aseiniadau gan ddefnyddio ychwanegiad dyfynnu ar gyfer Word.
Mae Zotero ar gael am ddim i gasglu, storio a helpu chi i fewnosod dyfyniadau yn eich aseiniadau.
Ni ddarperir cefnogaeth gan Brifysgol Aberystwyth ond mae canllawiau cymorth a fideos defnyddiol ar gael ar-lein.