Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canfod a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir: 11. Sut mae'r llyfrgell yn gallu helpu

Cefnogaeth Llyfrgellydd Pwnc

Gall y Llyfrgellwyr Pwnc yn y tîm Ymgysylltu Academaidd ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ar eich taith i ysgrifennu eich traethawd hir. Gallwn eich helpu i wneud y gorau o'r adnoddau a'ch pwyntio i gyfeiriad defnyddiol a gwefannau perthnasol. Mae Llyfrgellwyr Pwnc yn darparu hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth pwnc manwl i fyfyrwyr. 

Gallwch ddod o hyd i'ch Llyfrgellydd Pwnc trwy ymweld â'r dudalen we ganlynol:

https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/librarians/

Trefnu apwyntiad gyda'r Llyfrgellydd Pwnc

Rydym yn cynnig apwyntiadau un i un i'ch helpu gyda'ch adolygiadau ymchwil a llenyddiaeth. Mae'r apwyntiadau hyn yn cael eu cynnig ar-lein trwy Microsoft Teams neu wyneb-i-wyneb.

Gallwch drefnu apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd pwnc gan ddefnyddio ein tudalen apwyntiadau ar-lein:

https://libcal.aber.ac.uk/