Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canfod a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir: 8. Gwerthuso a gwirio gwybodaeth

Cyflwyniad

Mewn cymdeithas sy’n llawn gwybodaeth, mae’n hanfodol cofio nad yw pob adnodd gwybodaeth yn gyfartal!

Wrth chwilio am wybodaeth, rydych chi’n ymchwilydd. Fel ymchwilydd, rhaid i chi werthuso’r wybodaeth rydych chi’n ei darganfod a phenderfynu a yw’r cynnwys yn: 

  • ysgolheigaidd
  • cywir
  • awdurdodol

Ynghyd â chyrchu, chwilio a chanfod gwybodaeth, mae gwerthuso gwybodaeth yn hanfodol. Mae’n bwysig mynd ati’n ofalus i werthuso’r ffynonellau rydych chi’n eu dewis. Ystyriwch yr hyn rydych chi’n chwilio amdano a pham. Po fwyaf credadwy yw eich ffynonellau, y mwyaf credadwy yw eich dadl. 

Mae’r dudalen hon yn edrych ar y cwestiynau y dylech eu gofyn i chi eich hun am yr adnoddau rydych chi’n chwilio amdanynt ac yn eu darganfod. Byddwch nawr yn dod yn werthuswr.

Pam ei fod yn bwysig i werthuso eich ffynonellau?

Wrth ymchwilio, rydych am ddod o hyd i’r wybodaeth orau i gefnogi’ch syniadau, trafodaethau a dadleuon. Mae hyn yn gofyn am werthuso’r wybodaeth rydych chi’n dod o hyd iddi yn ofalus.

Mae’n bwysig gwerthuso gwybodaeth. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn:

  • darganfod y wybodaeth fwyaf perthnasol ar gyfer eich pwnc a’ch aseiniad
  • gwella ansawdd a dibynadwyedd eich ymchwil
  • dod o hyd i farn arbenigwyr am eich pwnc ac ymchwil wedi’i adolygu gan gymheiriaid
  • dehongli a chwynnu gwybodaeth unllygeidiog, annibynadwy ac anghywir

Bydd gwerthuso gwybodaeth yn rhoi modd i chi adnabod a diystyru gwybodaeth sydd yn:

  • annibynadwy
  • unochrog/ unllygeidiog
  • annheg
  • wedi dyddio
  • anghywir
  • camarweiniol
  • ffug

Gwerthuso gwefannau a delweddau

Pan fyddwch yn chwilio am wybodaeth am y we, fe ddewch o hyd i lawer o wefannau a lluniau. Mae'n bwysig gwirio, cloriannu a dilysu'r hyn a welwch. Edrychwch drwy'r tabiau hyn i gael canllawiau defnyddiol ar beth i edrych amdano.

black smartphone near person

black flat screen computer monitor

Pan fyddwch yn chwilio am wybodaeth am y we, edrychwch ar yr e-gyfeiriad (URL) i asesu awdurdod y ffynhonnell. Hyd yn oed os yw'r wefan yn cael ei chynnal gan sefydliad swyddogol, bydd angen i chi ddilysu’r wybodaeth a roddir yno o hyd.

Mae un rhan o'r e-gyfeiriad yn dangos y math o barth:

.ac 

coleg addysg uwch neu brifysgol ym Mhrydain

.gov

asiantaeth neu gorff llywodraeth

.com

sefydliad masnachol.

.net

darparwr rhwydwaith

.org

sefydliad nid-er-elw

.int

rhyngwladol

.nhs

y Gwasanaeth Iechyd Gwladol

.edu

coleg addysg uwch neu brifysgol yn Unol Daleithiau America

 

Dylech hefyd wirio'r elfennau isod:

Gwiriwch y darn Ynglŷn/Amdanom/'About' o'r wefan/sefydliad Methu gweld adran Ynglŷn/Amdanom/'About' neu heb gael llawer o wybodaeth yno? Gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r sefydliad neu'r safle yn ddibynadwy.
Gwiriwch y wybodaeth Cyswllt/Cysylltwch â ni. Methu gweld adran Cyswllt/Cysylltwch â ni na dim byd am sut i anfon ymholiad i'r safle? Gallai hyn fod yn arwydd nad yw'r sefydliad neu'r safle yn ddibynadwy.
Gwiriwch olwg y tudalennau ar y wefan Sut olwg sydd ar y wefan? Os yw'r dyluniad i'w weld yn rhyfedd mewn rhyw fodd, gallai hyn fod yn arwydd bod rhywbeth o'i le.
Ai hysbysebion yw'r cyfan? Efallai y cewch rywfaint o hysbysebion ar wefan ond os cewch chi fwy o hysbysebion na gwybodaeth - gofynnwch i chi'ch hun, beth yw diben y wefan? Ai gwerthu rhywbeth i chi ynteu rhoi gwybodaeth i chi am eich pwnc?

 

Rhowch y prawf 'CCAPP' neu feini prawf y '5 P' i gloriannu gwefannau

 

turned-onsilver iMac

Beth i'w wirio mewn lluniau

Arf ddefnyddiol wrth bwyso a mesur delweddau yw Google Images (https://images.google.co.uk/) lle gallwch wneud chwiliad delwedd wrthdro. Mae hyn yn enwedig o ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i'r artist neu'r sawl a greodd y ddelwedd ac am ddod o hyd i ddelweddau tebyg fel y gallwch weld sut y cawsant eu defnyddio. Mae hefyd yn effeithiol wrth ddangos sut y defnyddiwyd y ddelwedd ar-lein o'r blaen - ble a phryd.

  • Cliciwch ar lun y camera ar ochr dde'r bar chwilio

  • Cewch lanlwytho llun, neu gludo dolen gyswllt o we-gyfeiriad y llun rydych yn ei archwilio
  • Bydd Google Images yn chwilio am wybodaeth am y llun

 

Safleoedd gwirio ffeithiau

Cewch wella ansawdd eich ymchwil a'r hyn rydych yn dod o hyd iddo drwy wirio'ch ffeithiau a darganfod beth sy'n wir a beth sy'n ffug. Edrychwch ar y tabiau a'r safleoedd defnyddiol isod. 

Reality Check - BBC News 

https://www.bbc.co.uk/news/reality_check 

Mae BBC Reality Check yn wasanaeth gan newyddion y BBC sy'n ymroi i daflu goleuni ar newyddion a straeon ffug er mwyn dod o hyd i'r gwirionedd.

BBC Reality Check

FactCheckNI 

https://factcheckni.org

Y gwasanaeth cyntaf yng Ngogledd Iwerddon sydd wedi'i neilltuo i wirio ffeithiau.

 

cropped-Logo-FactCheckNI-JPG.jpg

Full Fact 

https://fullfact.org

Bydd FullFact yn gwirio ffeithiau yr hyn y mae gwleidyddion, sefydliadau cyhoeddus a newyddiadurwyr yn ei ddweud, yn ogystal â deunydd ar-lein sy'n ymledu'n feirol.

Return to Fullfact.org homepage 

Hoaxy® by OSoMe (iu.edu)

https://hoaxy.osome.iu.edu

Er nad yw Hoaxy yn safle gwirio ffeithiau, mae'n wefan ddefnyddiol i ymweld â hi fel offer delweddu sy'n dangos sut mae newyddion ffug yn teithio ac ymledu.

Image result for hoaxy

LinkedIn 

https://gb.linkedin.com

 

Gellir defnyddio'r safle rhwydweithio proffesiynol hwn er mwyn gwirio cymwysterau ac arbenigedd awduron.

Image result for linkedin

Media Bias/Fact Check - Search and Learn the Bias of News Media

https://mediabiasfactcheck.com

Nod Media Bias/Fact Check yw dod o hyd i arferion twyllodrus a thueddiadau yn y newyddion a'r cyfryngau.

Media Bias Fact Check

Sense about Science 

https://senseaboutscience.org

Elusen annibynnol yw Sense about Science sy'n herio camliwio gwyddoniaeth a thystiolaeth mewn bywyd cyhoeddus.

 

Snopes

https://www.snopes.com

Mae Snopes, sef Urban Legends Reference Pages gynt, yn wefan gwirio ffeithiau. Fe'i disgrifiwyd fel "deunydd cyfeirio sydd uchel ei barch ar gyfer datgelu’r gwir am straeon a sïon ffug" ar y Rhyngrwyd. Mae hefyd wedi cael ei weld yn ffynhonnell am ddilysu a datgelu chwedlau modern a straeon tebyg yn niwylliant poblogaidd America.

Snopes.com

 

WHO | World Health Organization

https://www.who.int/

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn monitro a chwalu straeon ffug a gynhyrchwyd gan y cyfryngau am y gwyddorau iechyd a biocemegol.

Image result for who logo

Dewis yr Erthyglau Gorau ar gyfer yn Eich Traethawd Hir

Ceir amryw o gwestiynau y gallwch eu gofyn i weld a yw papur penodol yn berthnasol ac yn ddefnyddiol i’w gynnwys yn eich traethawd. Drwy asesu papurau yn erbyn y cwestiynau hyn gallwch weld pa gyfeirnodau i’w cynnwys a pha rai i’w diystyru:

1. PWY – Pwy ysgrifennodd yr erthygl? A oes manylion cyswllt ar gael? A ydynt yn gysylltiedig â sefydliad ac iddo enw da? A yw’r papur mewn cyfnodolyn wedi’i adolygu gan gymheiriaid neu a yw’r ansawdd yn cael ei reoli gan olygyddion? Edrychwch ar safon y ramadeg a’r sillafu. Os ydych yn edrych ar wefan, a oes adran “Amdanom ni” yn dangos nodau’r sefydliad a gynhyrchodd y wybodaeth.

2. BETH – Beth mae’r safle neu’r eitem yn ei drafod? Beth yw ei ddiben? Ar ba lefel y mae wedi’i ysgrifennu? Beth mae URL y wefan yn ei ddweud wrthyf amdani? A yw’n academaidd neu’n fasnachol? A yw’r wybodaeth a roddir yn glir ac yn gryno.

3. PAM – Pam ysgrifennodd yr awdur(on) y papur neu’r erthygl a chyhoeddi’r gwaith? A yw’r ffynhonnell yn dangos tuedd neu a yw’n ddiduedd? A oes gwahaniaeth amlwg rhwng yr hysbysebu a’r wybodaeth sydd yn y cynnwys? Pam mae’r wefan hon neu’r eitem print yn ddefnyddiol i fy ymchwil?

4. PRYD – Pryd ysgrifennwyd y papur? A yw’n debygol o fod yn hen ffasiwn? Pryd gafodd y wefan ei diweddaru ddiwethaf? Chwiliwch am arwyddion fod y wefan yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a gochelwch rhag y gwefannau hynny lle mae llawer o’r dolenni cyswllt wedi torri.

5. SUT – Pa fethodoleg a ddefnyddiwyd i roi’r deunydd at ei gilydd?  Ai dyma’r fethodoleg y mae gennych ddiddordeb ynddi? A yw maint y samplau’n ddigonol er mwyn gallu llunio casgliadau credadwy? A oes digon o ddyblygiadau wedi’u cynnwys yn y dyluniad?  A oes grŵp rheoli ystadegol y gellir cymharu effeithiau unrhyw driniaethau ag ef?

6. BLE – O ble y daw’r wybodaeth? A ydych wedi clywed amdani o’r blaen? Os nad ydych, gwiriwch y cynnwys mewn ffynonellau eraill. Chwiliwch am ffynonellau gwybodaeth wedi’u cyfeirnodi’n llawn. I ble y mae’r dolenni cyswllt a roddir mewn gwefan yn cyfeirio? A yw’r dolenni hyn yn ddibynadwy?

Mae cyfeiriadau sy’n pasio pob prawf yn debygol o fod yn berthnasol iawn i bwnc eich traethawd a bydd yn werth ystyried eu cadw at y dyfodol. Ar ôl i chi gasglu eich set gyntaf o gyfeiriadau, mae’n dda o beth eu cadw a gofyn i’ch goruchwyliwr am ei farn arnynt. Dylai casglu cyfeiriadau gyda’ch gilydd fod yn broses sy’n digwydd dro ar ôl tro a bydd eich goruchwyliwr yn gallu rhoi arweiniad i chi ynghylch a ddylech ehangu neu gyfyngu eich strategaeth chwilio er mwyn dod o hyd i set dda o bapurau. Trafodir yn yr adran nesaf sut i storio a rheoli’r cyfeiriadau rydych wedi’u casglu. 

Prawf CCAPP

Acronym yw 'CCAPP' sy'n sefyll am bob cam ym mhroses cloriannu ffynhonnell (Cyfredol – Cywirdeb – Awdurdod – Perthnasol – Pwrpas). Mae wedi’i seilio ar yr acronym Saesneg ‘CRAAP’ (Currency – Revelance – Authority – Accuracy – Purpose)

  • C: Cyfredol 'Currency'

  • C: Cywirdeb 'Accuracy'

  • A: Awdurdod 'Authority'

  • P: Perthnasol 'Relevance'

  • P: Pwrpas 'Purpose'

Datblygwyd y Prawf 'CRAAP' yn Saesneg gan Lyfrgell Meriam ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Chico.

C: Cyfredol - yn ymwneud â pha mor amserol yw'r adnoddau neu pa mor ddiweddar yw'r wybodaeth.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Pryd cafodd y wybodaeth ei chyhoeddi neu ei rhoi ar y we?
  • A yw'r wybodaeth wedi'i hadolygu neu ei diweddaru? Mae hen ddyddiadau yn awgrymu nad yw wedi'i ddiweddaru ers tipyn.
  • A yw hi'n bwysig cael gwybodaeth gyfredol, neu a fydd ffynonellau hŷn yn gweithio llawn cystal?
  • A yw'r dolenni cyswllt i gyd yn gweithio? Mae dolenni cyswllt sydd wedi'u torri yn awgrymu nad yw'r gwaith wedi'i ddiweddaru.

C: Cywirdeb - yn ymwneud â dibynadwyedd, gwirionedd a chywirdeb y ffynhonnell.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Allwch chi weld o ble ddaeth y wybodaeth?
  • A yw'r wybodaeth wedi'i hategu gan dystiolaeth gadarn a chywir?
  • Allwch chi ddilysu unrhyw agweddau ar y wybodaeth mewn ffynhonnell ddibynadwy arall?
  • A yw'r iaith neu'r ieithwedd yn ymddangos yn gytbwys, diduedd a heb wallau? Meddyliwch am y ffynhonnell rydych yn ei darllen a chwiliwch am duedd neu wallau.

A: Awdurdod - yn cyfeirio yn syml at yr awdur(on) - pwy ysgrifennodd y darn?  Mae'n bwysig gwybod gwaith pwy rydych chi'n ei ddefnyddio.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Pwy yw'r awdur, y cyhoeddwr, y ffynhonnell?
  • Beth yw cymwysterau neu brofiad yr awdur neu’r sefydliad?
  • A ellir ymddiried yn yr awduron, neu a ydynt yn gymwys i ysgrifennu am y pwnc?
  • A allech weld unrhyw wybodaeth gyswllt er mwyn cael gwybod mwy am yr awdur neu'r sefydliad?
  • Os gwefan yw'r ffynhonnell, beth mae'r e-gyfeiriad (.com .ac .gov .org .net) yn ei ddweud wrthych am y ffynhonnell? Ewch i'r adran 'Ynghylch/Amdanom' i ddysgu mwy am y sefydliad neu'r awdur

P: Perthnasol - yn ymwneud â phwysigrwydd y wybodaeth i chi a'ch anghenion gwybodaeth chi.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • A yw'r wybodaeth yn ymwneud â'ch ymchwil chi neu'n ateb eich cwestiwn mewn gwirionedd?
  • A yw'r wybodaeth yn bwysig i'ch anghenion chi?
  • Ydych chi wedi edrych ar ystod o ffynonellau eraill ac wedi'u cymharu?
  • A yw'n ffynhonnell ddibynadwy i'ch aseiniad chi ac a ydych chi'n hapus eu ei chynnwys yn eich ymchwil?

Pwrpas - yn ymwneud â pham y crëwyd y wybodaeth.

Gofynnwch i chi eich hun...

  • Beth yw diben y wybodaeth?
  • Pam y'i hysgrifennwyd? Ai cynghori, dadlau, dysgu, hysbysebu, difyrru neu ddylanwadu yw'r nod?
  • A oes tueddiadau?
  • Pa fath o wybodaeth yw hi - ai ffaith neu farn yr awdur?
  • Pa nod neu fwriad oedd gan yr awdur pan ysgrifennodd y darn?