Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cefnogaeth Llyfrgell i Ymchwilwyr: Adolygiadau Systematig

Beth yw Adolygiad Systematig?

Nodweddion allweddol Adolygiad Systematig yw:

  • cyfres o amcanion penodol gyda meini prawf cymhwyster rhag-ddiffiniedig ar gyfer astudiaethau
  • methodoleg eglur, atgynyrchadwy
  • chwiliad systematig sy'n ceisio canfod yr holl astudiaethau a fyddai'n bodloni'r meini prawf cymhwyster
  • asesiad o ddilysrwydd darganfyddiadau'r astudiaethau cynwysedig
  • cyflwyniad systematig, a chyfosodiad, o nodweddion a darganfyddiadau'r astudiaethau cynwysedig

(Cymerwyd o Lawlyfr Cochrane, adran 1.2.2)

Y Broses Adolygiad Systematig

  1. Ffurfio cwestiwn adolygu
  2. Datblygu protocol adolygu
  3. Cychwyn strategaeth chwilio
  4. Rhoi meini prawf cynnwys/ cadw allan
  5. Gwerthuso ansawdd
  6. Echdynnu data
  7. Cyfosodiad a Dehongliad
     

Sut y gall eich Llyfrgell eich helpu รข'ch Adolygiad Systematig?

Gall eich Llyfrgell a'ch Llyfrgellydd Pwnc helpu â'ch Adolygiad Systematig mewn nifer o ffyrdd:
•    Diffinio cwmpas a ffiniau'r strategaeth chwilio
•    Penderfynu pa adnoddau i'w defnyddio
•    Caffael Dogfennau

Pa arbenigedd all eich Llyfrgellydd Pwnc ei gynnig?
•    Sgiliau mewn casglu strategaeth neu linyn chwilio
•    Gwybodaeth a sgiliau mewn chwilio cronfeydd data llyfryddiaethol a ffynonellau eraill
•    Gwybodaeth am ffynonellau llenyddiaeth llwyd
•    Gwybodaeth am sut i gaffael dogfennau testun llawn
•    Cyngor ynghylch cyfeirnodi

Adnoddau allweddol i'w hystyried

Archebu apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc

Rydym yn cynnig apwyntiadau un-i-un i'ch helpu â'ch ymchwil a'ch adolygiadau llenyddiaeth. Caiff yr apwyntiadau hyn eu cynnig ar-lein drwy Microsoft Teams.

Gallwch archebu apwyntiad gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc drwy ddefnyddio ein tudalen apwyntiadau ar-lein:

https://www.aber.ac.uk/en/is/library-services/librarians/