Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canfod a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir: 5. Ble i chwilio

Cronfeydd data

people sitting down near table with assorted laptop computers

Gallwch ddod o hyd i ystod y cronfeydd data arbenigol sydd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Rydym yn argymell ar gyfer traethodau hir eich bod bob amser yn defnyddio mwy nag un gronfa ddata i ddod o hyd i gyfeiriadau. Yn ddelfrydol, bydd un gronfa ddata cyffredinol ac un gronfa ddata mwy penodol i’r pwnc yn darparu ystod dda o gyfeiriadau perthnasol.

Mae’n ddigon posib y bydd gorgyffwrdd rhwng y cyfeiriadau a geir mewn gwahanol gronfeydd data, ond bydd pob cronfa ddata’n cynnwys rhai cyfeiriadau sy’n unigryw oherwydd bydd i bob un ei phwyslais penodol a gallant amrywio o ran cwmpas daearyddol ac ystod y data.

Ble i ddod o hyn i ffynonellau

Gan mwyaf, cronfeydd data ymchwil y Llyfrgell y byddwch yn eu defnyddio’n bennaf.

Mae’r cronfeydd data yn eich galluogi i chwilio trwy filiynau o erthyglau cyfnodolion, penodau llyfrau ac adolygiadau llyfrau, adroddiadau a thrafodion, traethodau ymchwil, ac ati, ar un adeg.

Nid oes gan yr un ddwy gronfa ddata yn union yr un cynnwys felly dylech chwilio drwy sawl cronfa ddata i sicrhau nad ydych yn colli papur allweddol ar eich pwnc. Edrychwch trwy’r tabiau canlynol a’r blwch gyferbyn i ddarllen mwy ynghylch ble i chwilio am ddeunydd.

Mae Llyfrgelloedd (y chwiliad diofyn) yn dod o hyd i:

  • eitemau corfforol yn y llyfrgelloedd ar y campws: llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, pamffledi, DVDiau, CDiau, geiriaduron, atlasau
  • e-lyfrau, e-gyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth electronig eraill y mae PA yn tanysgrifio iddynt

Cwesitynau a Holir yn Aml am chwilota Primo.

Mae cyfnodolion ac erthyglau cyfnodolion yn darparu ffynonellau gwybodaeth academaidd pwysig. Mae'r dewisiad Erthyglau  yn chwilio'n gyflym am lawer o erthyglau cyfnodolion gan gyhoeddwyr sy'n cymryd rhan ac yn dychwelyd canlyniadau gyda thestun llawn ar-lein.

Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion gan ddefnyddio'r chwiliad Erthyglau yn Primo.

Trwy Primo, fe welwch ddolenni i amrywiaeth eang o adnoddau gwybodaeth ar-lein y mae myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn gallu chwilota drwyddynt trwy danysgrifiad neu bryniant Llyfrgell y Brifysgol, ynghyd â detholiad bach o gynnwys o ansawdd uchel sydd ar gael yn rhwydd.

Mae’r rhain yn ddolenni yn ôl trefn yr wyddor i adnoddau gwybodaeth electronig y mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifio iddynt. Mae’r dudalen yn canfod a ydych chi ar y campws ai peidio ac yn darparu cyngor oddi ar y campws yn unol â hynny. Mae adnoddau a ddewiswyd yn ôl pwnc ar gael ar y tudalennau gwybodaeth pwnc.

  • Rhestr A i Z o’r holl gronfeydd data y mae’r Llyfrgell yn rhoi mynediad i chi iddynt. Os ydych yn ymchwilio i bwnc amlddisgyblaethol, argymhellir eich bod chi’n dechrau adnabod eich cronfeydd data o Adnoddau A i Z.

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.

Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys proffilau personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.

Gellir archwilio’n unigol yr holl fathau o gynnwys drwy Borth Ymchwil Aberystwyth gan ddethol yr opsiwn ar y ddewislen ar y chwith. Mae gan pob math o gynnwys ei opsiwn Chwilio Manwl, sy’n eich galluogi i fireinio’r canlyniadau. Gallwch ddidoli’r rhan fwyaf o’r mathau cynnwys gyda’r opsiynau ar yr ochr dde.

Mae chwilio drwy WHELF drwy Primo yn rhoi canlyniadau o gatalogau llyfrgelloedd aelodau WHELF sy’n cynnwys yr holl sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ynghyd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Brifysgol Agored yng Nghymru.

WHELF

Dyma eich siop-un-stop ar gyfer eich pwnc. Bydd y canllawiau pwnc yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth bellach, awgrymiadau ar gyfer gwefannau, sefydliadau a chronfeydd data sy’n berthnasol i’ch maes pwnc.

LibGuides

How Google Scholar Judges Research - Social Science Space

Mae Google Scholar yn ffordd syml o chwilio’n fras am lenyddiaeth ysgolheigaidd. O un man, gallwch chwilio ar draws llawer o ddisgyblaethau a ffynonellau: erthyglau, traethodau ymchwil, llyfrau, crynodebau a dyfarniadau llysoedd, gan gyhoeddwyr academaidd, cymdeithasau proffesiynol, ystorfeydd ar-lein, prifysgolion a gwefannau eraill. Gall Google Scholar fod yn lle da i ddechrau ar eich chwiliad ond nid yw’n caniatáu ar gyfer y chwilio datblygedig neu gymhleth y gallwch ei wneud yng nghronfeydd data ymchwil y Llyfrgell.

 

Mynd at e-adnoddau drwy ddefnyddio Google Scholar 

Mae’n bosibl na fydd Google Scholar yn darparu mynediad at destun llawn, fodd bynnag, trwy greu cyswllt â’r Llyfrgell gallwch gyrchu testun llawn pan fo gan y Brifysgol danysgrifiad. 

  1. Dewiswch Gosodiadau/Settings o frig tudalen Hafan Google Scholar
  2. Dewiswch Creu Cysylltiad â Llyfrgell/Library Links
  3. Chwiliwch am Brifysgol Aberystwyth. Dewiswch hi o’r rhestr ac arbedwch eich gosodiadau.

Byddwch nawr yn gweld dolenni FindIt@Aber gyferbyn ag eitemau yn eich canlyniadau Google Scholar a gallwch ddefnyddio’r rhain i weld y testun llawn.

Adnoddau Mynediad Agored

Cewch hyd i ddeunydd academaidd Mynediad Agored a'i ddefnyddio trwy Primo, catalog llyfrgell y Brifysgol, a Phorth Ymchwil Aberystwyth. 
Mae swm cynyddol o ddeunydd academaidd hefyd yn cael ei roi ar y rhyngrwyd fel deunydd Mynediad Agored.  Mae hyn yn golygu nad yw wedi'i guddio tu ôl i wal dâl a'i fod yn ar gael i unrhyw un.  Weithiau mae'r dogfennau hyn yn fersiynau sydd â'r un cynnwys â fersiwn derfynol a gyhoeddwyd ond fe'u gelwir yn ôl-argraffiadau neu'n Llawysgrifau sy'n cael eu Derbyn gan Awduron.  Weithiau maent yn fersiynau terfynol cyhoeddedig.

Nid yw'n hawdd dod o hyd i ddeunydd o'r fath bob amser felly mae llawer o offer a gwefannau ar gael a all helpu myfyrwyr ac ymchwilwyr i ddod o hyd i erthyglau, llyfrau a chyfnodolion sydd, yn fwriadol ac yn gyfreithiol, wedi'u cyhoeddi fel adnoddau Mynediad Agored.  Fe'u rhestrir ar y tabiau canlynol. Mae rhai wedi'u cynnwys ar system y Brifysgol, mae'n bosib bod angen ychwanegu eraill fel estyniadau i'r porwr.  Nid yw pob un yn gweithio ar bob porwr. 
Gellir dod o hyd i gynnyrch ymchwil Prifysgol Aberystwyth hefyd trwy'r adnoddau a'r gwefannau hyn.

Deunydd ddim ar gael yn y llyfrgell?

Cael gafael ar ddeunydd i’w ddarllen nad yw ar gael yn y llyfrgell

Bydd llawer o’r llyfrau a’r papurau a ddewiswch i’w defnyddio yn eich traethawd hir naill ai ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth neu gellir mynd atynt ar-lein trwy e-danysgrifiadau Llyfrgell y Brifysgol.

Os nad oes fersiynau print nac ar-lein o lyfr neu bapur ar gael trwy Primo, gan gynnwys pan fo erthygl wedi’i chuddio y tu ôl i wal dalu, defnyddiwch y dulliau eraill canlynol:

  • Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau
    • Os nad yw’r eitem(au) sydd eu hangen arnoch yn cael eu cadw naill yn Llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth nac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, defnyddiwch y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau.
    • Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaeth a sut i wneud ceisiadau trwy ymweld â’r dudalen Cyflenwi Dogfennau

 

  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    • Mae manylion ynghylch daliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru i’w gweld ar dudalen Catalog LlGC (llyfrgell.cymru).
    • Rhaid cofrestru ar gyfer ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol a gweld ei deunydd.
    • Mae ffurflenni cofrestru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan y Llyfrgell.

Esiamplau o le i chwilio

Cronfa ddata

Disgrifiad

Chwilio drwy'r Llyfrgell gyda Primo

Yn cynnwys cofnodion yr holl lyfrau, e-lyfrau ac adroddiadau sydd ar gael yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth. Bydd Cwestiynau a holir yn aml Primo yn eich helpu i ddefnyddio holl gyfleusterau amrywiol Primo.

Bydd y nodwedd Pori Rhithwir Primo yn eich galluogi i adalw llyfrau ar yr un pwnc â’r un yr ydych chi’n edrych arno ar hyn o bryd:

Os oes angen llyfr penodol arnoch chi ond nid yw yn y llyfrgell, gofynnwch am gopi i’w brynu trwy ein cynllun Mwy o Lyfrau. Y llyfrgell fydd yn talu am y rhain.

Chwilio am erthyglau drwy Primo

Bydd modd cael mynediad at y testun llawn i’r holl bapurau sydd wedi’u hadalw wrth ddefnyddio chwilotwr Erthyglau Primo. Cofiwch fewngofnodi cyn rhedeg eich chwiliad. Os ydych chi oddi ar y campws, efallai y bydd angen VPN i lwytho rhai erthyglau ar eich cyfrifiadur i gael y testun llawn.

Ebsco Business Source Complete via EbscoHost

Mynegai i ystod eang o erthyglau cyfnodolion, llyfrau, adroddiadau a chylchgronau ar ystod eang o bynciau, yn canolbwyntio ar fusnes / economeg ond yn ehangu hefyd i wyddoniaeth a’r celfyddydau. Yn cynnwys mynediad i dros 3,000 o gyfnodolion. Yn ymdrin â phob maes busnes, gan gynnwys cyllid, rheolaeth, systemau gwybodaeth reoli, marchnata a busnes rhyngwladol.

JSTOR

Mae teitlau ar gael yn aml mewn argraffiadau cyflawn (h.y. o ddyddiad y rhifyn cyntaf) yn aml yn rhedeg hyd at 4-5 mlynedd cyn y rhifynnau cyfredol. Yn canolbwyntio ar deitlau’r celfyddydau / dyniaethau.

Gale Reference Complete

Cronfa ddata newyddion testun llawn, gyda chynnwys o dros 12,000 o bapurau newydd rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang o 100 gwlad ledled y byd.

ScienceDirect 

Ffynhonnell wybodaeth ar gyfer ymchwil wyddonol, dechnegol a meddygol.

Scopus

Cronfa ddata fawr o gyfeiriadau a chrynodebau.

Cymdeithas Gyfrifiadurol (IEEE)

Cymdeithas Gyfrifiadurol IEEE yw prif sefydliad y byd sydd ag aelodau sy’n bwrpasol ar gyfer cyfrifiadureg a thechnoleg. Mae gan y Llyfrgell Ddigidol  fwy na 550,000 o erthyglau a phapurau ar gyfrifiadureg a thechnoleg.

Lexis®Library

Adnoddau allweddol am y gyfraith a throseddeg.

Gale OneFile News

Papurau newydd rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.

CINAHL (crynodebau a mynegeion)

Mynegai o erthyglau cyfnodolion yn Saesneg ac erthyglau dethol mewn ieithoedd eraill am nyrsio, perthynol i iechyd, biofeddygaeth a gofal iechyd.

PsycArticles

APA PsycArticles® yn gronfa ddata o erthyglau testun llawn o gyfnodolion a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Seicolegol America, Sefydliad Cyhoeddi Addysgol APA, Cymdeithas Seicolegol Canada, a Hogrefe & Huber. Mae’r gronfa ddata yn cynnwys yr holl ddeunydd o’r cyfnodolion print.

PubMed

Mae PubMed® yn cynnwys mwy na 32 miliwn o gyfeiriadau at lenyddiaeth biofeddygol o MEDLINE, cyfnodolion gwyddorau bywyd, a llyfrau ar-lein. Gall y cyfeiriadau gynnwys dolenni i destun llawn gan PubMed Central a gwefannau cyhoeddwyr.

 

I gael rhagor o enghreifftiau ynghylch ble i chwilio, edrychwch ar LibGuides