Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canfod a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir: 2. Traethawd hir: y broses

Dechrau arni

Rydych wedi cyrraedd cam y traethawd hir! Efallai eich bod nawr yn dechrau meddwl am y canlynol: 

  • fformat y traethawd hir

  • nifer y geiriau

  • dewis pwnc sydd o ddiddordeb arbennig i chi

  • creu eich cynllun

  • chwilio’n effeithiol am ddeunydd

  • ymchwil sylfaenol / ymchwil eilaidd / adolygiad llenyddiaeth

  • moeseg

  • dyddiad cyflwyno

  • ysgrifennu’r cyfan

  • cyflwyno

Cymerwch gip trwy’r gwahanol dabiau isod i ymgyfarwyddo â’r camau sy’n gysylltiedig â chynllunio a datblygu eich traethawd hir neu’ch prosiect ymchwil.

Y broses

Bydd traethodau hir sy’n seiliedig ar ymchwil ansoddol neu feintiol fel arfer yn cynnwys yr adrannau canlynol:

  • Tudalen deitl, datganiadau, cydnabyddiaethau (gweler llawlyfr eich adran i gael manylion)
  • Crynodeb
    • Dyma grynodeb byr o’ch traethawd hir sy’n disgrifio ac yn rhoi trosolwg o’r cynnwys.
  • Cyflwyniad
    • Mae hwn yn cynnwys y nodau a’r amcanion; trosolwg o’r llenyddiaeth; pam ydych chi’n ymchwilio i’r pwnc hwn?
  • Adolygu llenyddiaeth
    • Prif bwyntiau, cefndir a chyd-destun y gwaith
  • Methodoleg
    • Pa ddulliau rydych chi wedi’u defnyddio i gasglu’r data? Pam wnaethoch chi ddewis defnyddio’r dull penodol hwn yn hytrach na rhyw ddull arall? 
  • Canlyniadau
    • Bydd yr adran hon yn cynnwys dadansoddi a gwerthuso’r data a gesglir yn feirniadol.
  • Trafodaeth
    • Yma dylech ddehongli’ch canfyddiadau. Beth yw eich tystiolaeth? Trafodwch y cryfderau a’r gwendidau
  • Casgliad
    • Beth ddysgoch chi o’ch ymchwil? A wnaethoch chi ddarganfod rhywbeth newydd? Trafodwch argymhellion i’r dyfodol.
  • Llyfryddiaeth
    • Dyma eich rhestr gyfeirio/cyfeirnodau, a bydd yn cynnwys yr holl lyfrau, erthyglau a ffynonellau eraill rydych chi wedi dyfynnu ohonynt a’u darllen ar gyfer eich traethawd hir.
  • Atodiadau
    • ​​​​​​​Bydd yr adran hon yn cynnwys y dystiolaeth ategol a ddefnyddioch yn eich ymchwil. Er enghraifft, holiaduron, graffiau, arolygon, trawsgrifiadau cyfweliadau.

Cyn symud ymlaen, mae angen i chi benderfynu beth rydych chi am ei ddarganfod. Gelwir hyn eich pwnc ymchwil, a dylai fod yn rhywbeth y gallwch ei ateb trwy’r ymchwil a wnewch ac yna ei gyflwyno yn eich traethawd hir.

Os nad ydych yn siŵr beth rydych chi am ganolbwyntio arno, gwnewch ychydig o ddarllen cychwynnol i’r cefndir ac edrychwch i weld beth sydd eisoes wedi’i ysgrifennu am eich maes diddordeb.

Wrth benderfynu ar bwnc, mae dewis beth i beidio â’i gynnwys yr un mor bwysig! Ystyriwch sut y gallwch gyfyngu ar eich ymchwil.

Pan fydd gennych bwnc mewn golwg, rydych chi nawr yn barod i symud ymlaen i lunio a datblygu cwestiynau ymchwil posib. Mae hyn yn canolbwyntio ar beth yn union rydych chi am ei ganfod a dylai fod yn rhywbeth y gallwch chi ei ateb trwy eich traethawd hir.

Peidiwch â rhoi gormod o bwysau arnoch chi eich hun ar y pwynt hwn i lunio’r union gwestiwn. Cofiwch nad oes dim byd, dim hyd yn oed eich cwestiwn, wedi’i osod mewn carreg ar hyn o bryd – gellir ei newid a’i addasu yn ystod eich ymchwil i weddu i’r hyn y byddwch chi’n ymchwilio iddo yn y pen draw.

Er mwyn mynd ati i feddwl am wahanol ffyrdd i ddisgrifio’r geiriau pwysicaf am eich ymchwil, sef yr hyn a elwir hefyd yn prif gysyniadau neu eiriau allweddol, gallwch ddefnyddio technegau fel:

  • ysgrifennu pwyntiau allweddol ar nodiadau post-it / bwrdd gwyn
  • sesiwn hel syniadau
  • map meddwl
Ymchwilio'ch traethawd hir

 

Angen help?

I gael cefnogaeth gyda chwilio llenyddiaeth, gan ddefnyddio Primo a chronfeydd data llyfrgelloedd eraill, cyfeirio, a mwy, cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Pwnc. E-bostiwch llyfrgellwyr@aber.ac.uk gyda chwestiynau, neu i drefnu apwyntiad un i un gyda'ch Llyfrgellydd Pwnc ewch i'r dudalen archebu yn: libcal.aber.ac.uk

Bydd defnyddio fframwaith fel PICO, SPIDER a SPICE yn gallu eich helpu i fireinio’ch union gwestiwn ymchwil. Bydd arddull eich astudiaeth yn helpu i benderfynu pa un yw’r mwyaf perthnasol.

Efallai y gwelwch nad yw eich pwnc bob amser yn dod o fewn un o’r modelau a restrir isod. Gallwch chi bob amser addasu model i wneud iddo weithio i’ch pwnc, a naill ai ddileu neu addasu elfennau ychwanegol.

 

PICO 

Mae PICO yn fodel neu’n fframwaith poblogaidd a ddefnyddir amlaf ar gyfer cwestiynau meintiol clinigol sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

  • P – population – y boblogaeth – ar bwy mae fy nghwestiwn yn canolbwyntio? Gallai hyn fod y boblogaeth gyffredinol, neu grŵp wedi’i ddiffinio’n benodol (e.e. babanod, yr henoed)
  • I – intervention – ymyrraeth – pa ymyrraeth sy’n cael ei hystyried? Mae hyn yn cyfeirio at y prawf yr ydych am ymchwilio iddo
  • C – comparison – cymharu (elfen opsiynol) - pa ymyrraeth sy’n cael ei hystyried? Mae hwn yn fesur y byddwch chi’n ei ddefnyddio i gymharu canlyniadau yn ei erbyn. 
  • O – outcome – canlyniad – beth ydych chi’n ceisio ei gadarnhau / ei gyflawni / ei wella?

 Mae PICO wedi’i addasu i gynnwys amrywiadau ychwanegol:

  • PICOT pan fo’r T = timeframe – amserlen – pa mor hir ar ôl yr ymyrraeth y bydd y canlyniadau’n cael eu hasesu? Gallwch ddefnyddio’r fframwaith hwn os oes angen mesur eich canlyniadau mewn cyfnod penodol o amser.
  • PICOS pan fo’r S = study design – dyluniad yr astudiaeth – pa ddyluniad penodol, e.e. hap-dreial rheoli, sydd wedi’i gynnwys?
  • PIO neu PEO – set fwy agored o amrywiadau a allai fod yn fwy cydnaws ag astudiaethau ansoddol.
    • population – y boblogaeth – pwy yr effeithir arnynt?
    • interest neu environment – diddordeb neu amgylchedd – pa amgylchiadau neu osodiadau sy’n berthnasol?
    • outcome – canlyniad – beth rydych chi’n ceisio ei gyflawni?

 SPIDER

Mae’r fframwaith hwn yn offeryn arall sy’n gydnaws ag astudiaethau ansoddol a meintiol sy’n oddrychol eu harddull.

  • S – y sampl neu’r bobl sy’n rhan / y grŵp rydych yn canolbwyntio arno
  • PI – phenomenon of interest – ffenomenon o ddiddordeb – yr ymddygiad neu’r profiad y mae eich ymchwil yn ei astudio
  • D – design – dyluniad – sut caiff yr ymchwil ei gynnal/ffurf yr ymchwil a ddefnyddir
  • E – evaluation – gwerthusiad – beth yw’r canlyniadau rydych chi’n eu mesur
  • R – research – ymchwil – pa arddull ymchwilio a ddefnyddiwyd

 

SPICE

Dyma offeryn ar gyfer cwestiynau ansoddol ac yn aml dyma’r dewis ar gyfer ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae hwn yn amrywiad arall o PICO ond y tro hwn mae’n cynnwys y lleoliad – sef cyd-destun yr astudiaeth.

  • S – setting – lleoliad – yn hwn y cynhelir yr astudiaeth - lleoliad/cyd-destun
  • P – population neu perspective – y boblogaeth neu safbwynt – pa boblogaeth neu safbwynt y bydd yr ymchwil yn cael ei gynnal ar eu cyfer (y defnyddwyr, darpar ddefnyddwyr neu randdeiliaid) 
  • I – intervention – ymyrraeth – neu’r gweithredu a wnaed 
  • C – comparison – cymharu – a oes modd cymharu/a oes rhywbeth cyfatebol/arall
  • E – evaluation – gwerthuso – a wnaeth yr ymyrraeth weithio ac os do, pa mor dda? Beth oedd y canlyniadau?

Mae adolygiad llenyddiaeth yn ddarn o ysgrifennu sy’n dwyn ynghyd ffynonellau allweddol sy’n gysylltiedig â phwnc neu gwestiwn ymchwil penodol, ac yna yn eu cysylltu â’i gilydd a’u gwerthuso. Gallai’r ffynonellau allweddol hyn fod yn erthyglau ysgolheigaidd, llyfrau, traethodau hir, trafodion cynadleddau ac adnoddau eraill sy’n berthnasol i ystyriaeth, thema, theori neu faes ymchwil penodol.

Dyma’r egwyddorion moesegol arweiniol sy’n llywodraethu pob ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth:

• Parch at hawliau, diogelwch a lles cyfranogwyr dynol ac anifeiliaid

• Parch at ddiwylliannau, gwerthoedd, traddodiadau eraill a’r amgylchedd o’n cwmpas

• Gonestrwydd, uniondeb a phroffesiynoldeb bob amser

Anogwn bob ymchwilydd i droi at y Fframwaith Moeseg Ymchwil fel man cychwyn. Mae’r fframwaith yn cynnwys canllawiau gweithredol mewn perthynas â moeseg ymchwil a’r prosesau sy’n gysylltiedig â hynny. Dylech ymgyfarwyddo ag adrannau perthnasol y canllawiau hyn yn y lle cyntaf. Os bydd angen cyngor neu gefnogaeth arnoch, mae pob croeso i chi gysylltu â ni.

Fframwaith Moeseg Ymchwil (yn Saesneg yn Unig ar hyn o bryd)

Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau heb eu hateb, cysylltwch â’r tîm Moeseg Ymchwil (ethics@aber.ac.uk) a fydd yn fwy na pharod i helpu. Gallwn hefyd gynnig cyngor ar y drefn gymeradwyo gywir i’w dilyn, cyngor wrth ddrafftio ceisiadau a thrafod unrhyw bynciau ymchwil neu syniadau arfaethedig all fod gennych.

Isod ceir canllawiau cyffredinol ar y camau i’w cymryd wrth ddewis termau/ymadroddion a’u cynnwys yn eich strategaeth chwilio:

  1. Torrwch bwnc trafod eich traethawd i lawr yn nifer fach o gysyniadau cysylltiedig.
  2. Nodwch dermau ac ymadroddion sy’n gysylltiedig â phob cysyniad yr ydych yn meddwl y gallent fod yn dermau chwilio defnyddiol.
  3. Dechreuwch gyda thermau cyffredinol ac yna symudwch tuag at dermau mwy penodol i bob grŵp o gysyniadau.
  4. Gwnewch chwiliad cychwynnol mewn cronfa ddata gyffredinol, gan gyfuno’r termau a’r ymadroddion rydych wedi eu dewis i bob cysyniad.  Mae’n well fel arfer nodi pob grŵp o dermau mewn blwch chwilio ar wahân os gallwch.
  5. Ychwanegwch fwy o dermau allweddol i bob un o’ch grwpiau, megis terminoleg wahanol, geiriau cyfystyr, amrywiadau sillafu, wrth i chi ddod ar eu traws yng nghanlyniadau eich chwiliad cychwynnol
  6. Defnyddiwch symbolau cwtogi (* yn aml) i gynnwys gwahanol derfyniadau i’r termau yn eich chwiliad (e.e. i gynnwys ffurfiau unigol a lluosog)
  7. Rhowch unrhyw ymadroddion yn eich grwpiau o dermau chwilio mewn dyfynodau (e.e. “newid hinsawdd”)
  8. Defnyddiwch hidlyddion a gynigir gan eich cronfa ddata i gyfyngu nifer y canlyniadau yn ôl dyddiad, iaith, dull, daearyddiaeth ac ati.
  9. Gall hidlo’r papurau adolygu allan fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o gael darlun eang o’r datblygiadau diweddar yn eich pwnc a hefyd o ddod o hyd i fwy o dermau chwilio.
  10. Allbynnwch y cyfeiriadau rydych am eu cadw o’r chwiliad cychwynnol hwn naill ai fel ebost atoch chi eich hun, neu drwy gadw ffeil neu lawrlwythiad mewn pecyn rheoli cyfeiriadau fel EndNote.

Gwnewch rifau 3-10 eto mewn cronfa ddata fwy arbenigol, gan ychwanegu unrhyw dermau defnyddiol eraill y dewch o hyd iddynt ar gyfer y grŵp perthnasol o gysyniadau, hyd nes y byddwch yn fodlon â’ch chwiliad.  Defnyddiwch yr un dull ag y gwnaethoch ar gyfer y gronfa ddata gyffredinol i allbynnu eich canlyniadau.

Mae’r broses ymchwilio ar gyfer traethawd hir neu brosiect yn sylweddol ac yn cymryd amser. Dulliau ymchwil yw’r offer a ddefnyddir i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth, ei chasglu, dadansoddi a’i dehongli er mwyn ateb eich cwestiwn ymchwil.

Bydd angen i chi feddwl beth sy’n rhaid i chi ei ddarganfod er mwyn ateb eich cwestiwn ymchwil, a ble a phryd y gallwch chi ddod o hyd i’r wybodaeth hon. Wrth i chi gasglu eich ymchwil, daliwch ati i fynd yn ôl at eich cwestiwn ymchwil i wneud yn siŵr eich bod yn cadw at yr hyn rydych chi’n ceisio ei ddarganfod a bod yr hyn rydych chi’n ei wneud yn parhau’n berthnasol.

Wrth ddechrau ar eich chwilio, mae’n aml yn ddefnyddiol dewis ychydig o erthyglau adolygu ar eich pwnc i’w darllen yn fanwl gan y bydd y rhain yn dyfynnu nifer fawr o bapurau gwreiddiol a allai hefyd fod yn berthnasol i’ch astudiaeth benodol. Mae gan lawer o gronfeydd data hidlydd penodol sy’n gallu dethol pa rai o’ch chwiliad cychwynnol sydd yn bapurau adolygu.

Enghreifftiau o ddulliau gwahanol

Mae dewis pa ddull i’w ddefnyddio yn dibynnu ar eich cwestiwn ymchwil. 

  • Arbrofion
  • Arsylwadau
  • Holiaduron ac arolygon
  • Cyfweliadau
  • Grwpiau Ffocws
  • Astudiaethau achos

Rydych wedi gwneud eich ymchwil, rydych wedi dadansoddi’r data – nawr mae’n rhaid i chi ei gyflwyno!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n darllen llawlyfr eich modiwl – bydd hwn yn rhoi’r rheolau i chi eu dilyn a sut i strwythuro’r gwaith yn gywir. Gall eich darlithydd hefyd roi arweiniad i chi ar yr hyn a ddisgwylir. 

Cyn i chi gyflwyno eich gwaith: 

  • cynlluniwch eich amser cyn i’r dyddiad cyflwyno gyrraedd – lluniwch restr ‘pethau i’w gwneud’
  • gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ei brawf-ddarllen yn ofalus i gael gwared ar unrhyw gamgymeriadau teipio a sillafu. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ei argraffu a marcio unrhyw newidiadau / cywiriadau angenrheidiol
  • defnyddiwch feddalwedd Darllen ac Ysgrifennu a fydd yn galluogi’r cyfrifiadur i ddarllen unrhyw beth ar sgrin eich cyfrifiadur yn uchel. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol i chi wrth brawf-ddarllen eich traethawd hir eich hun. Mae ar gael trwy'r Ganolfan Feddalwedd ac ar gyfrifiaduron y Llyfrgell. Cofiwch am offer Cysill yn Gymraeg.
  • gwiriwch eich cyfeirnodau (references) – gwnewch yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’i gilydd ac yn cynnwys yr holl wybodaeth 
  • dilynwch gyngor eich adran ar sut i fformatio eich dyfyniadau a’ch llyfryddiaeth
  • gwiriwch pa arddull cyfeirnodi y dylech ei defnyddio a sicrhewch eich bod yn ei wneud yn gywir ac yn gyson trwy gydol eich traethawd hir
  • gofynnwch i ffrind ddarllen trwy eich gwaith – gall pâr o lygaid ffres sylwi ar bethau rydych chi efallai wedi’u colli

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i gefnogi amcanion academaidd y Brifysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am yr opsiynau rhwymo ar gael yn https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/binding/

Hyfforddiant ysgrifennu a chyfathrebu yn rhad ac am ddim

Israddedigion

Os ydych chi’n fyfyriwr israddedig, gallwch ddewis mynd i ddosbarthiadau am ddim ar sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu a gwybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Cyrsiau Israddedig am ddim: Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth

Uwchraddedigion

Os ydych chi’n fyfyriwr uwchraddedig, gallwch ddewis mynd i ddosbarthiadau am ddim ar uwch sgiliau ysgrifennu a gwybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: Cyrsiau Uwchraddedig yn rhad ac am ddim: Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth

Enghreifftiau o draethodau hir

Copïau print

Mae’n syniad da edrych ar enghraifft o draethodau hir er mwyn ymgyfarwyddo â’r cynllun a’r fformat.

Ar hyn o bryd mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phorth Ymchwil Aberystwyth yn derbyn y canlynol gan adrannau academaidd y Brifysgol:

  • Pob traethawd ymchwil llwyddiannus

yn ogystal â stocio traethodau graddau Meistr a Addysgir cyn 2013:

  • traethodau hir ar bynciau yn ymwneud â Chymru
  • traethodau ymchwil y dyfarnwyd rhagoriaeth iddynt

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i: https://www.aber.ac.uk/cy/is/library-services/collections/theses/

 

Porth Ymchwil Aberystwyth

Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn arddangos ymchwil staff ac uwchraddedigion Prifysgol Aberystwyth ac mae ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.

Ymhlith y cynnwys yn y porth mae cynnyrch wedi’i gyhoeddi, traethodau ymchwil ôl-raddedig, manylion prosiect, ynghyd â chofnodion ar gyfer gweithgareddau eraill o fri.

Gallwch chwilio drwy BPorth Ymchwil Aberystwyth ar gyfer traethodau ymchwil naill ai yn y blwch chwilio cyffredinol neu trwy bori trwy gyhoeddiadau’r gymuned ôl-raddedig. 

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 Caiff traethodau hir o brifysgolion Cymru eu hadneuo yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Traethodau hir eraill yn electronig

Chwiliwch drwy 500,000 a mwy o draethodau ymchwil doethuriaeth drwy ddefnyddio EThOS, y gwasanaeth traethodau ymchwil ar-lein sydd ar gael trwy’r Llyfrgell Brydeinig. Gallwch lawrlwytho rhai ohonynt yn syth ar gyfer eich ymchwil, neu gallwch archebu gopi wedi’i sganio yn gyflym ac yn rhwydd.

Llyfrau i helpu