Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Canfod a Rheoli Gwybodaeth ar gyfer eich Traethawd Hir: 3. Ffynonellau gwybodaeth

Cyflwyniad

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth yn unrhyw le – llyfrau, dyddiaduron, y cyfryngau cymdeithasol, blogiau, profiadau personol, erthyglau cylchgronau, barn arbenigwyr, papurau a adolygir gan gymheiriaid, gwyddoniaduron, a thudalennau ar y we – a bydd y math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn amrywio yn dibynnu ar y cwestiwn yr ydych chi’n ceisio ei ateb ar gyfer eich traethawd hir neu’ch prosiect ymchwil.

Mae angen gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau ar eich traethawd hir; felly, bydd gwybod pa fath o ffynhonnell sydd ei hangen arnoch yn eich helpu i ddod o hyd i’r ffynhonnell gywir.

Ffynonellau gwybodaeth

person in white long sleeve shirt holding white book

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth yn unrhyw le - llyfrau, dyddiaduron, cyfryngau cymdeithasol, blogiau, profiadau personol, erthyglau cylchgronau, barn arbenigwyr, gwyddoniaduron, a gwefannau - ac fe fydd y math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn amrywio yn dibynnu ar y cwestiwn rydych yn ceisio ei ateb i'ch aseiniad neu'ch ymchwil.

Mae gwahanol aseiniadau yn gofyn am wybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau; felly, mae angen i chi ddeall ble i fynd i ddod o hyd i rai mathau o wybodaeth. Os ydych yn gwybod pa fath o ffynhonnell y bydd ei angen, bydd hynny hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i'r ffynhonnell iawn.

Yn fras, mae tri chategori o ffynhonnell:

  • ffynhonnell wreiddiol (neu 'gynradd')
  • ffynhonnell eilaidd a
  • ffynhonnell drydyddol

Edrychwch drwy'r tabiau hyn i gael diffiniadau ac ychydig o enghreifftiau.

Ffynonellau gwreiddiol (neu 'gynradd') yw'r deunydd gwreiddiol y mae ymchwil wedi'i seilio arno. Dogfennau uniongyrchol ydyn nhw, sy'n darparu tystiolaeth uniongyrchol am eich pwnc.

Enghreifftiau:

  • Dyddiaduron

  • Areithiau

  • Gohebiaeth

  • Cyfweliadau

  • Llawysgrifau

  • Dogfennau Llywodraethau

  • Lluniau ffilm newyddion

  • Deunydd Archifol

  • Hunangofiannau

  • Gweithiau Celf

  • Nofelau

  • Barddoniaeth

  • Cerddoriaeth

  • Darluniau/cynlluniau pensaernïol

  • Ffotograffau

  • Ffilm

Mae ffynonellau eilaidd yn rhoi dehongliadau, sylwebaeth neu ddadansoddiad ar ffynonellau eraill. Maent yn ymdriniaethau a ysgrifennwyd wedyn gyda manteision 'synnwyr trannoeth'. Nid yw ffynonellau eilaidd yn dystiolaeth, ond yn hytrach yn cynnig sylwebaeth a thrafodaeth ar dystiolaeth.

Enghreifftiau:

  • Llyfryddiaethau

  • Bywgraffiadau

  • Sylwebaethau, beirniadaethau

  • Trafodion cynadleddau

  • Ysgrifau, traethodau neu adolygiadau

  • Ymdriniaethau hanesyddol

  • Erthyglau ymchwil mewn cyfnodolion academaidd

  • Erthyglau cylchgronau a phapurau newydd

  • Monograffau heblaw ffuglen a hunangofiannau

  • Adargraffiadau o weithiau celf

Ffynonellau trydyddol yw trefniadau, categorïau, mynegeion neu gasgliadau o ffynonellau. Mae ffynhonnell drydyddol yn cyflwyno crynodebau neu fersiynau cryno o ddeunydd, fel rheol gyda chyfeiriadau yn ôl at y ffynonellau gwreiddiol neu eilaidd.

Enghreifftiau:

  • Geiriaduron
  • Gwyddoniaduron
  • Llawlyfrau
  • Almanaciau
  • Crynodebau
  • Llyfryddiaethau
  • Llyfrau ffeithiau a chrynoadau
  • Cyfeiriaduron a llawlyfrau
  • Ffynonellau mynegeio a chrynhoi

Beth am lenyddiaeth lwyd?

white markee light

Mae llenyddiaeth lwyd yn ddeunydd nad yw’n cael ei gyhoeddi’n ffurfiol yn y fformatau sefydledig arferol. Yn ogystal â nodi adnoddau cyhoeddedig bydd angen strategaeth arnoch i ddod o hyd i lenyddiaeth lwyd.

Byddai enghreifftiau o lenyddiaeth lwyd yn cynnwys:

  • papurau / trafodion cynhadledd
  • traethodau hir / traethodau ymchwil
  • papurau gwaith
  • treialon clinigol
  • adroddiadau grwpiau ymchwil
  • dogfennau’r llywodraeth
  • cylchlythyrau, taflenni ffeithiau, bwletinau, pamffledi
  • adroddiadau
  • arolygon
  • gwefannau sefydliadau
  • deunydd cyn-argraffu

Ble allaf ddod o hyd i'r ffynonellau hyn?

Edrychwch ar y tab Ble i chwilio i gael rhagor o wybodaeth ynghylch canfod y mathau gwahanol hyn o ffynonellau.