Ar hyn o bryd mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phorth Ymchwil Aberystwyth, yn derbyn y pethau canlynol oddi wrth adrannau academaidd Prifysgol Aberystwyth:
maent hefyd yn cynnwys traethodau Meistr a ddysgir trwy gwrs cyn 2013:
Mae gan Aberystwyth gasgliad o draethodau ymchwil a allai fod o ddefnydd i chi wrth lunio eich traethawd ymchwil eich hun. Maent i gyd ar Primo. Os hoffech chwilio am draethodau ymchwil ar bwnc penodol defnyddiwch yr allweddair disthes ynghyd ag unrhyw allweddeiriau perthnasol eraill.
Chwiliwch gadwrfa’r Brifysgol, Porth Ymchwil Aberystwyth a Gwasanaeth ‘Electronic Thesis Online’ y Llyfrgell Brydeinig (Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd):
I gael rhagor o wybodaeth, gweler
• Nid oes modd benthyca traethodau ymchwil a gedwir yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, dim ond edrych arnynt yn y llyfrgell.
• Mae’n bosibl y bydd traethodau doethuriaeth ar gael yn electronig trwy EThOS (Nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd).
• Mae’n bosibl y bydd rhai traethodau ymchwil eraill ar gael trwy Borth Ymchwil Aber
• Os nad yw’r traethawd ymchwil ar gael ar-lein, gall myfyrwyr y Brifysgol sy’n dysgu o bell ac na allant ymweld â’r Llyfrgell naill ai:
o Wneud cais am y traethawd ymchwil cyfan o’u llyfrgell leol trwy fenthyciad rhwng llyfrgelloedd – i’w ddefnyddio er mwyn cyfeirio ato’n unig
o Gwneud cais i bennod gael ei sganio a’i hanfon atynt ar ebost*
*Llenwch y ffurflen yn Primo a byddwn yn sganio tudalen gynnwys y traethawd ymchwil ac yn ebostio copi atoch fel y gallwch ddewis y bennod yr hoffech inni ei hanfon atoch.
Myfyrwyr Llawn-amser: Mae rhagor o fanylion ar wneud cais am Draethodau Ymchwil ar gael yma