Bydd tanysgrifiad y Brifysgol i Linkedin Learning yn dod i ben 28fed Mawrth 2025. Os ydych chi wedi cwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi ar Linkedin Learning ac yn dymuno cadw eich tystysgrif(au) cwblhau, lawrlwythwch nhw erbyn 28 Mawrth. Mae canllawiau ar sut i wneud hyn ar gael yn https://www.linkedin.com/help/learning/answer/a700836. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â gg@aber.ac.uk.
Galluoedd Digidol yw’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymarfer sydd yn ein paratoi i fyw, dysgu a gweithio yn ddiogel ac effeithiol mewn cymdeithas ddigidol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth, datrys problemau, cyfathrebu ar-lein a deall sut i feithrin perthynas iach gyda thechnoleg.
Mae’n bwysig i bob myfyriwr fod yn abl a hyderus yn ddigidol. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn gallu ffeindio’ch ffordd trwy gymdeithas ddigidol sy’n datblygu’n gyson, llwyddo yn eich astudiaethau, a chystadlu’n llwyddiannus am swyddi yn y dyfodol.
Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i gael gwybod mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.
* Bydd tanysgrifiad y Brifysgol i Linkedin Learning yn dod i ben 28fed Mawrth 2025 *
Llwyfan ddysgu ar-lein yw LinkedIn Learning sydd â dross 16,000 o gyrsiau o ansawdd mewn sgiliau digidol, creadigol a busnes. Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fynediad llawn, rhad ac am ddim i’r gwasanaeth sydd ar gael 24/7 ar eich cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol gan ddefnyddio'r ap.
Ewch ati i edrych trwy’r amrywiaeth o gyrsiau a fideos byr sydd ar gael ar LinkedIn Learning i’ch helpu i ddatblygu eich galluoedd digidol, yn ogystal ag ystod eang o sgiliau eraill.
Dechreuwch yma: LinkedIn Learning : Information Services , Aberystwyth University
* Bydd tanysgrifiad y Brifysgol i Linkedin Learning yn dod i ben 28fed Mawrth 2025 *
Cymerwch olwg ar yr amrywiaeth o gyrsiau ac adnoddau sydd ar gael yn LinkedIn Learning. Mae rhywbeth i bawb – gallwch ddysgu sut i feistroli Excel neu’r piano, cael gwybod beth yw’r cwestiynau mwyaf cyffredin mewn cyfweliadau neu hyd yn oed hyfforddi’ch ymennydd ar gyfer hapusrwydd!
Rydym wedi rhestri 12 cwrs i chi gael bwrw golwg drostynt:
The pursuit of happiness: how to train your brain for happiness. (Hyd: 54 munud)
Learning Excel 2019 (Hyd: 1 awr 7 munud)
GarageBand Essential Training: capture your musical vision (Hyd: 4 awr 4 munud)
Expert tips for answering common interview questions (Hyd: 1 awr 14 munud)
Drawing Foundations Fundamental (Hyd: 2 awr 24 munud)
Being an effective team member (Hyd: 31 munud)
Introduction to photography (Hyd: 1 awr 52 munud)
Managing your personal finances (Hyd: 1 awr 4 munud)
Designing a presentation (Hyd: 56 munud)
Piano Lessons: Teach yourself to play (Hyd: 1 awr 54 munud)
Project management foundations: small projects (Hyd: 1 awr 29 munud)
Building self confidence (Hyd: 18 munud)
Dechreuwch yma: LinkedIn Learning : Information Services , Aberystwyth University
Mae llawer o adnoddau ar gael ar eich cyfer:
Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Bydd y Casgliad Astudio Effeithiol yn eich helpu i:
Lleoliad
Lleolir y Casgliadau Astudiaeth Effeithiol ar Lawr F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.
Mae pob eitem yn y Casgliad Astudio Effeithiol yn cael ei hychwanegu at gatalog y Llyfrgell, Primo, ac maent yn cynnwys y rhagddodiad STUDY yn y nod dosbarth.
* Bydd tanysgrifiad y Brifysgol i Linkedin Learning yn dod i ben 28fed Mawrth 2025 *
Gall cyfnod arholiadau fod yn un heriol i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr. Dyma rai clipiau fideo byr a chyrsiau yr ydym wedi’u rhoi at ei gilydd o LinkedIn Learning i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a all eich cynorthwyo i baratoi ac adolygu’n fwy effeithlon ar gyfer eich arholiadau. Bydd nifer o’r sgiliau hyn hefyd o fudd i’ch astudiaethau yn gyffredinol, yn ogystal â’ch helpu i wella eich lles digidol.
Overcoming procrastination (19 munud)
Improving your Memory (1 awr 29 munud)
Learning speed reading (58 munud)
Time Management Tips for students (2 munud 59 eiliad)
Note-taking techniques (4 munud 9 eiliad)
Improving your memory (1 awr 29 munud)
Creating a study plan (1 munud 59 eiliad)
Taking strategic breaks while studying (2 munud 14 eiliad)
Dechreuwch yma: LinkedIn Learning : Information Services , Aberystwyth University