Cewch hyd i’r holl e-lyfrau yng nghatalog llyfrgell Primo.
Sut ydw in darllen ac argraffu o e-lyfr rwyf wedi dod o hyd iddo yn Primo?
Mae'r ddigideiddio penodau o lyfrau tra bod mynediad at ddeunyddiau yn y Llyfrgell yn gyfyngedig.
I ddod o hyd i lyfr yn y llyfrgell fe fydd angen ei rhif dosbarth - mae gan bob eitem yn y llyfrgell ei rhif dosbarth unigryw ei hun. Mae'r llyfrgell yn defnyddio cynllun Llyfrgell y Gyngres i ganfod ble mae'r llyfrau i'w lleoli ar y silffoedd.
Fe welwch rhifau dosbarth ar meingefn llyfrau...
ac yng nghatalog y llyfrgell Primo, pan fyddwch yn chwilio am yr eitem ar-lein.
Ar ôl canfod canlyniadau ar Primo, mae angen i chi ysgrifennu'r rhif dosbarth i lawr a'i drosi fel ei fod yn cael ei ddarllen yn fertigol (fel y mae'n ymddangos ar meingefn llyfr):
Enghraifft:
Darllenwch QK306.S9 fel...
QK
306
.S9
fel y byddai'n ymddangos ar meingefn y llyfr.
Mae'r llythyren gyntaf neu'r set o lythrennau yn nhrefn yr wyddor. Daw A cyn B, cyn C ac ati, ac mae R yn dod cyn RA, cyn RB ayyb.
Caiff llythyrau sengl eu ffeilio cyn llythyrau dwbl o ran trefniant ar y silff.
Mae'r llythyr cyntaf yn nodi maes pwnc eang iawn, sy'n cael ei wneud yn fwy penodol drwy ychwanegu ail lythyr ac weithiau trydydd llythyren. Er enghraifft uchod...
Q = Gwyddoniaeth
QA = Mathemateg
QH = Hanes naturiol - Bioleg
QK = Botaneg
O'r enghraifft a roddwyd uchod, QK306... gwyddom bellach fod y rhif dosbarth QK yn ymwneud â botaneg.
Nesaf daw set o rifau mewn trefn rifol. Daw 5 cyn 50 , daw 50 cyn 500 ayyb. Mae'r llinell hon yn cael ei darllen fel rhif cyfan. Gall y rhifau ar yr ail linell amrywio o 1 i 9999 a gallant hefyd gael pwyntiau degol.
Enghraifft:
Enghraifft:
Mae'r drydedd linell yn gyfuniad lle rydych chi'n darllen y llythyren yn nhrefn yr wyddor yn gyntaf yna'r rhif fel degol. Mae'r llinell hon yn dechrau gyda phwynt degol, ac yna dilyniant llythyren a rhif. Mae'r llythyren yn nhrefn yr wyddor, fel uchod. Fodd bynnag, mae'r rhifau yma mewn trefn degol yn hytrach na threfn rifiadol.
Er enghraifft, byddai B69 yn dod ar ôl B6 ond cyn B7 neu B695. Cymerwch un rhif ar y tro a chofiwch yma fod y llythrennau'n cael eu darllen yn nhrefn yr wyddor a bod y rhif yn cael ei ddarllen fel degol.
Enghraifft mae .P266 yn dod cyn .P87
A dyna ti! Dyna sut i ddarllen rhifau dosbarth Llyfrgell y Gyngres. Nesaf, ewch i'r silffoedd a chwiliwch am y llyfr trwy ddarllen y rhif dosbarth fesul llinell.
Efallai y byddwch yn dod ar draws rhifau dosbarth gyda llinellau ychwanegol i'w darllen.
Enghreifftiau:
Mae’r Casgliad Celtaidd yn dwyn ynghyd ddeunyddiau sy’n ymwneud â Llydaw, Cernyw, Ynys Manaw, Iwerddon, Yr Alban a Chymru, ac yn cynnwys oddeutu 25,000 o lyfrau. Er bod y casgliad yn cynnwys deunyddiau ar bob pwnc sy’n ymwneud â’r gwledydd Celtaidd, hanes a llenyddiaeth yw’r ddwy gyfres fwyaf a geir yn y casgliad.
Lleolir y casgliad yn Llyfrgell Hugh Owen ar Lefel F. Mae’r rhagddodiad CELT wedi’i nodi ar feingefn y rhan fwyaf o’r eitemau yn y casgliad, ac eithrio dosbarthiadau DA (Hanes) a PB (Iaith a Llenyddiaeth). Gellir dod o hyd iddynt i gyd drwy Primo.
Mae FOLIO ar ddiwedd rhif dosbarth yn golygu bod y llyfr yn rhy fawr i ffitio ar silffoedd arferol ac fe'i gelwir yn Folio.
Mae'r rhain yn mynd mewn adran ar wahân gyda silffoedd mwy o faint.
Mae casgliad o eiriaduron ar gael ar Lefel F a gellir adnabod rhain gyda DICT o flaen y rhif dosbarth.
Casgliad o lyfrau a gynlluniwyd i’ch helpu chi astudio yw’r Casgliad Astudio Effeithiol. Mae’n ymdrin â phynciau fel sut i wneud ymchwil a sut i astudio, sgiliau ysgrifennu, ysgrifennu academaidd, defnyddio’r Saesneg, rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a rhai canllawiau cyffredinol ynglŷn ag ymchwil ac astudio ym maes y celfyddydau. Mae’r deunydd ar gyfer pob defnyddiwr, gan gynnwys y rhai hynny nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Ychwanegir eitemau i'r Casgliad Astudio Effeithiol at Primo, ac mae ganddynt y gair STUDY cyn y rhif dosbarth. Mae Casgliadau Astudio Effeithiol wedi'u lleoli ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen ac yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.
Yn Llyfrgell Prifysgol Aberystwyth, ystyrir pamffled yn gyhoeddiad o 50 tudalen neu lai gyda chloriau llipa.
Rhoddir yr ôl-ddodiad 'Pam' neu 'Pam Qto' i farc dosbarth pamffledi, e.e. HD6664.G7 Pam. Maent yn cael eu cadw mewn blychau pamffledi ar ddechrau pob dosbarthiad, h.y. mae pamffledi HD mewn blychau ar y silffoedd cyn y llyfrau HD.
Mae pob eitem yn y casgliad yn cael ei hychwanegu at Primo.
Mae Qto ar ddiwedd rhif dosbarth yn golygu bod y llyfr yn fwy na'r arfer, ac yn sefyll am 'Quarto'.
Efallai y byddwch yn dod o hyd i lyfr y mae Primo yn ei nodi fel 'Ar gael' ond ni allwch ddod o hyd iddo ar y silff. Gallai fod nifer o resymau am hyn:
Dewiswch deitlau i’w prynu ar gyfer y llyfrgell gan ddefnyddio ein gwasanaeth Mwy o Lyfrau.
Mae'r Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu i ddefnyddwyr cofrestredig ofyn am eitemau nad ydynt ar gael yn Llyfrgell y Brifysgol. Gallwn gynorthwyo staff a myfyrwyr i ymchwilio a dysgu trwy ganfod a darparu llyfrau, penodau, ac erthyglau sy'n cael eu cadw gan lyfrgelloedd eraill. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau dyrannu i'r gwahanol grwpiau defnyddwyr ymhob adran academaidd, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
Cliciwch fan hyn i gael mwy o wybodaeth ac i weld faint o geisiadau am ddim y cewch eu harchebu.