Browse all the databases for Information Studies and the access off-campus notes to be able to access these away from campus..
Library Hub Discover
Chwiliwch gronfa ddata o 202 o gatalogau llyfrgell academaidd, cenedlaethol ac arbenigol y DU ac Iwerddon.
Arsylwi Torfol Ar-lein
Llawysgrifau, papurau teipysgrif, cyhoeddiadau print, a ffotograffau gwreiddiol. Daw’r rhan fwyaf o’r cyfnod rhwng 1937 - canol 1950au. Mae’r adnoddau yn archif o hanes cymdeithasol.
Menywod yn yr Archifau Cenedlaethol
Mae dwy ran i’r casgliad: i’r cyntaf fe fydd y Cymorth Canfod yn cynorthwyo ymchwilwyr i ddod o hyd yn gyflym i fanylion dogfennau yn ymwneud ag astudiaethau menywod yn yr Archifau Cenedlaethol. Mae ail ran y casgliad yn cynnwys dogfennau gwreiddiol ynglŷn â hawl i bleidlais ym Mhrydain, yr Ymerodraeth, a’r tiriogaethau trefedigaethol.
Proquest One Literature
"Mae hwn yn wasanaeth cwbl integredig sy’n cyfuno testunau dros 355,000 o weithiau llenyddol â llyfrgell helaeth o adnoddau cyfeiriadol a
beirniadol allweddol. Mae ymchwilwyr ymhob rhan o’r byd yn dibynnu’n ddyddiol ar y casgliad ar-lein cywir sydd gan Literature Online o farddoniaeth, rhyddiaith a drama ac mae’r adnoddau cyfeiriadol a beirniadol hanfodol, gan gynnwys llyfrgell gynyddol o gyfnodolion testun-cyflawn a bywgraffiadau awduron, yn gymorth i roi’r wybodaeth ddiweddaraf oll ichi ar yr ymchwil ddiweddaraf ymhob agwedd ar astudiaethau ieithyddol a llenyddol."
Archives Hub
Mae’r Archives Hub yn un man unigol sy’n rhoi mynediad i ddisgrifiadau o archifau mewn 167 cadwrfa yn y Deyrnas Gyfunol [DG]. Mae’r Archives Hub yn rhan o Rwydwaith Archifau Cenedlaethol y DG. Agwedd bwysig ar waith yr Archives Hub yw darparu hyfforddiant a chyngor ar faterion yn ymwneud â chatalogio archifau yn electronig.
Bibliography of British and Irish History (BBIH)
Mae’r llyfryddiaeth hon, Bibliography of British and Irish History, yn rhoi data llyfryddiaethol ar waith ysgrifenedig ym maes Hanes sy’n ymdrin ag Ynysoedd Prydain, ac â’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad, ymhob un o’r cyfnodau lle mae dogfennaeth ysgrifenedig ar gael - o 55BC i’r presennol. Mae rhagor o gymorth ar gael ar gyfer defnyddio BBIH: https://www.history.ac.uk/publications/bibliography-british-and-irish-history/using-bbih-online-a-help-pack-students-and
Connected Histories: British History Sources 1500-1900
Mae Connected Histories yn dwyn ynghyd nifer o adnoddau digidol sy’n gysylltiedig â Phrydain yn y cyfnod modern cynnar a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn un chwiliad cyfunol, gan ddefnyddio dull soffistigedig o chwilio trwy enwau, lleoedd a dyddiadau.
Pecyn EBSCO Eduction (yn cynnwys British Education Index ac ERIC)
Mae pecyn EBSCO Education yn cynnwys y British Education Index, Child Development & Adolescent Studies, ERIC (Education Resource Information Center), Education Abstracts ac Educational Administration Abstracts.
International Medieval Bibliography (IMB)
Sefydlwyd yr IMB ym 1967, a hwn yw llyfryddiaeth rhyngddisgyblaethol flaenaf cyfnod yr Oesoedd Canol. Mae’n cwmpasu llenyddiaeth gyfnodol a chymysgedd o gyfrolau wedi’u cyhoeddi yn Ewrop, gogledd America, Awstralasia, Brasil, Siapan a De Affrica.
Eighteenth Century Collections Online (ECCO)
"Mae Eighteenth Century Collections Online (ECCO) yn llyfrgell helaeth o'r ddeunawfed ganrif ar eich bwrdd gwaith—casgliad testun-chwiliadwy llawn o lyfrau, pamffledi ac argrafflenni ym mhob pwnc a argraffwyd rhwng 1701 a 1800. Ar hyn o bryd mae'n cynnwys dros 180,000 o deitlau sy'n dod i gyfanswm o dros 32 miliwn o dudalennau y gellir eu chwilio'n llawn."
Early English Books Online (EEBO)
Mae Early Modern Books yn cwmpasu deunydd o Ynysoedd Prydain ac Ewrop am y cyfnod 1450-1700. Mae chwiliad integredig ar draws Llyfrau Saesneg Cynnar Ar-lein a Llyfrau Ewropeaidd Cynnar yn caniatáu i ysgolheigion weld deunyddiau o dros 225 o lyfrgelloedd ffynhonnell ledled y byd. Mae cynnwys EEBO yn defnyddio catalogau teitl byr awdurdodol y cyfnod ac yn cynnwys llawer o drawsgrifiadau testun a grëwyd yn arbennig ar gyfer y cynnyrch. Mae cynnwys o Ewrop yn cwmpasu'r Casgliadau Llyfrau Ewropeaidd Cynnar wedi'u curadu o 4 llyfrgell genedlaethol a Llyfrgell Wellcome Llundain.
Manuscripts Online, JISC: diwylliant ysgrifenedig 1000 tan 1500
Trwy Manuscripts Online gallwch chwilio trwy gorff amrywiol iawn o brif adnoddau ar-lein sy’n ymwneud â diwylliant ysgrifenedig a diwylliant argraffiedig gynnar ym Mhrydain yn ystod y cyfnod 1000 i 1500. Mae’r adnoddau’n cynnwys llawysgrifau llenyddol, dogfennau hanesyddol a llyfrau argraffedig cynnar sydd ar wefannau sy’n eiddo i lyfrgelloedd, archifau, prifysgolion a chyhoeddwyr.
Casgliad John Johnson
Mae’r casgliad hwn yn agor y drws i filoedd o eitemau wedi’u dethol o blith y casgliad John Johnson Collection of Printed Ephemera, sy’n rhoi golwg unigryw ar natur cyfnewidiol bywyd bob-dydd ym Mhrydain yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Mae’r categorïau’n cynnwys Adloniant yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, y Fasnach Lyfrau, Printiau Poblogaidd, Troseddau, Llofruddiaethau a Dienyddiadau, a Hysbysebu.
Oxford Dictionary of National Biography
Dyma gofnod cenedlaethol y dynion a’r menywod sydd wdi ffurfio hanes a diwylliant Prydain, yn fyd-eang, o adeg y Rhufeiniaid tan yr 21ain ganrif.
Library & Information Science Collection - Cyfle i ganolbwyntio eich chwilio a’ch canlyniadau ar lenyddiaeth llyfrgellyddiaeth.
Mae'r casgliad hwn yn cyfuno Library and Information Science Abstracts (LISA), sef y prif fynegai ar gyfer gwyddor llyfrgell, gyda thestun llawn llawer o deitlau. Mae’r pynciau yr ymdrinnir â hwy yn cynnwys pob agwedd ar lyfrgellyddiaeth, defnyddwyr llyfrgell, adalw gwybodaeth, a mwy. Mae'n cynnwys teitlau o lawer o wahanol wledydd ac mewn mwy nag 20 o ieithoedd.
Library, Information Science & Technology Abstracts (EBSCO) – mynegai sy’n mynd nôl i ganol y 1960au, dros 600 cyfnodolyn wedi’u mynegeio (rhai o glawr i glawr ac eraill yn ddethol), yn cynnwys cyfnodolion ysgolheigaidd a chylchgronau proffesiynol, ynghyd â chyfnodolion technegol, trafodion cynadleddau, llyfrau ac adroddiadau ymchwil.
LISA (Library and Information Science Abstracts) - mynegai’n mynd nôl i 1969, dros 400 cyfnodolyn wedi’u mynegeio, gan gynnwys cyfnodolion ysgolheigaidd, cylchgronau proffesiynol â chyfnodolion technegol.
Business Source Complete – mynediad i dros 3,000 o gyfnodolion. Yn cwmpasu holl feysydd maes busnes, gan gynnwys cyllid, rheolaeth, systemau gwybodaeth reoli, marchnata a busnes rhyngwladol.
Emerald Insight – cronfa-ddata sy’n cynnwys y prif ddisgyblaethau rheolaethol, megis marchnata, Adnoddau Dynol, datblygu sefydliadol, rheoli llyfrgelloedd a gwybodaeth, ansawdd a rheoli gweithrediadau.
Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn;
Myfyrwyr Llawn-amser: Dewiswch 'Cyflenwi Dogfennau' ac ‘Erthygl' i wneud cais am erthygl.
Chwiliwch gronfa ddata o 202 o gatalogau llyfrgell academaidd, cenedlaethol ac arbenigol y DU ac Iwerddon.