Rhowch gynnig ar yr awgrymiadau hyn;
Myfyrwyr Llawn-amser: Dewiswch 'Cyflenwi Dogfennau' ac ‘Erthygl' i wneud cais am erthygl.
Mae SCONUL Access yn gynllun sy’n galluogi i nifer o ddefnyddwyr llyfrgelloedd prifysgolion fenthyca neu ddefnyddio llyfrau a chyfnodolion mewn llyfrgelloedd eraill sy’n rhan o’r cynllun. I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, pwy sy’n gymwys, a sut mae’n gweithio, ewch i.
Cewch ragor o fanylion yma: Benthyciad Post
Os nad yw llyfr ar gael i'w fenthyca, gallwn sganio ac e-bostio hyd at un bennod o'r llyfr hwnnw atoch.
Dewiswch y ddolen Dysgwyr o Bell ar dudalen hafan Primo ac yna dewiswch Pennod.
• Nid oes modd benthyca traethodau ymchwil a gedwir yn llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, dim ond edrych arnynt yn y llyfrgell.
• Mae’n bosibl y bydd traethodau doethuriaeth ar gael yn electronig trwy EThOS
• Mae’n bosibl y bydd rhai traethodau ymchwil eraill ar gael trwy Borth Ymchwil Aber
• Os nad yw’r traethawd ymchwil ar gael ar-lein, gall myfyrwyr y Brifysgol sy’n dysgu o bell ac na allant ymweld â’r Llyfrgell naill ai:
o Wneud cais am y traethawd ymchwil cyfan o’u llyfrgell leol trwy fenthyciad rhwng llyfrgelloedd – i’w ddefnyddio er mwyn cyfeirio ato’n unig
o Gwneud cais i bennod gael ei sganio a’i hanfon atynt ar ebost*
*Llenwch y ffurflen yn Primo a byddwn yn sganio tudalen gynnwys y traethawd ymchwil ac yn ebostio copi atoch fel y gallwch ddewis y bennod yr hoffech inni ei hanfon atoch.
Myfyrwyr Llawn-amser: Mae rhagor o fanylion ar wneud cais am Draethodau Ymchwil ar gael yma
Mae mwy o wybodaeth am eich Cerdyn Aber ar gael yma: Cerdyn Aber
Gellir anfon Cardiau Aber trwy’r post at Ddysgwyr o Bell nad ydynt yn dod i ysgol astudio wyneb yn wyneb. Cysylltwch â gg@aber.ac.uk i wneud cais am hyn.