Ceir gwahanol ddulliau o gyfeirio yn nhestun eich aseiniad at y ffynonellau a ddefnyddiwyd gennych. Gellir gwneud hyn trwy;
• ddyfynnu'n uniongyrchol
• aralleirio
• crynhoi
Wrth gynnwys cydnabyddiaeth ynghanol y testun byddwch yn rhoi manylion cryno am y ffynhonnell yr ydych yn cyfeirio ati.
Dyma enghraifft (yn defnyddio dull Harvard o gyfeirnodi):
(Pears a Shields, 2013)
Ceir rhagor o enghreifftiau o gydnabod ffynonellau yn y gwahanol ddulliau cyfeirnodi a ddefnyddir ym Mhrifysgol Aberystwyth fan hyn.
Bydd y gydnabyddiaeth yn caniatáu i'r sawl sy'n darllen eich aseiniad ddod o hyd i fanylion llawn y ffynhonnell a ddefnyddioch yn y rhestr gyfeirnodi ar ddiwedd y gwaith.
Enghraifft:
Rhestr Gyfeirnodi (Dull Harvard)
Pears, R. a Shields, G. (2013) Cite them right: the essential referencing guide. Llundain: Palgrave.
Pears, R. and Shields, G. (2013). Cite them right: the essential referencing guide. London: Palgrave.
Wrth ddefnyddio dyfyniadau, dylent fod yn berthnasol. Ceisiwch beidio â defnyddio gormod ohonynt oherwydd gallant dorri ar draws llif eich testun. Bydd angen cydbwyso'r dyfyniadau â'ch dealltwriaeth eich hun o'r ffynonellau a ddefnyddir.
Cofiwch - mae'r dyfyniadau'n cael eu cynnwys yng nghyfanswm y geiriau!
Ambell awgrym:
Rhowch unrhyw ddyfyniadau mewn "dyfynodau" - byddwch yn gyson. Edrychwch ar ragor o enghreifftiau i weld a yw'r dull cyfeirnodi a ddewisoch yn defnyddio dyfynodau sengl neu ddwbl.
Os ydych yn defnyddio dyfyniad hir sy'n fwy nag un frawddeg o hyd, gwnewch hwn yn baragraff ar wahân. Dylid cilosod y dyfyniadau hyn a does dim angen defnyddio dyfynodau.
Gan ddibynnu ar eich dull cyfeirnodi, nodwch yr awdur, y dyddiad a rhif y dudalen lle daw'r dyfyniad.
Bydd manylion llawn ffynhonnell y dyfyniad yn cael eu hychwanegu wedyn yn y rhestr gyfeirnodi ar ddiwedd eich aseiniad.
Enghraifft (Dull Harvard):
Dyfynnu o fewn y testun
"There are several ways in which you can incorporate citations into your text, depending on your own style and the flow of the work" (Pears a Shields, 2013, t. 8)
Rhestr Gyfeirnodi
Pears, R. a Shields, G. (2013) Cite them right: the essential referencing guide. Llundain: Palgrave
Mynegi geiriau awdur arall yn eich ffordd eich hun yw aralleirio. Mae'n ddull gwahanol o gyfeirio at syniadau awdur arall heb ddefnyddio'r union ddyfyniadau.
Weithiau, gall aralleirio greu parhad i lif eich gwaith a dangos eich dealltwriaeth.
Ambell awgrym:
Darllenwch eich ffynhonnell nifer o weithiau i wneud yn sicr eich bod yn deall yr ystyr
Peidiwch â newid yr ystyr wreiddiol
Gwnewch yn sicr eich bod yn cydnabod a chyfeirnodi'r ffynhonnell.
Enghraifft (Dull Harvard):
Wedi’i gyfieithu:
“Mae’r rhan fwyaf o sefydliadau academaidd yn tanysgrifio i rhyw fath o becynnau meddalwedd cyfeirnodi megis Refworks neu Endnote. Defnyddir Refworks yn aml gan israddedigion ac uwchraddedigion ar gyrsiau a ddysgir, tra bod gan Endnote nodweddion uwch sydd o fudd arbennig i ymchwilwyr ac awduron.” Pears a Shields (2013)
Wedi’i aralleirio mewn cyfieithiad:
Mae Pears a Shields (2013, t. 1) yn esbonio bod nifer o sefydliadau yn tanysgrifio i becynnau meddalwedd, a bod Refworks yn cael ei ffafrio gan israddedigion ac uwchraddedigion ar gyrsiau a ddysgir, ac Endnote yn cael ei ddewis yn aml gan ymchwilwyr oherwydd bod iddo natur mwy ymarferol.
Rhestr Gyfeirnodi (Dull Harvard)
Pears, R. a Shields, G. (2013) Cite them right: the essential referencing guide. Llundain: Palgrave.
Mae'r dull hwn yn rhoi'r prif bwyntiau o erthygl, llyfr neu we-ddalen mewn datganiad cryno.
Ambell awgrym:
• Gwnewch yn sicr eich bod yn cydnabod a chyfeirnodi'r ffynhonnell.
• Rhestrwch y prif bynciau'n unig
Enghraifft (Dull Harvard):
Cydnabod ffynhonnell ynghanol y testun
Mae'n bwysig cofio bod un llyfr arbennig (Pears a Shields, 2013) yn edrych ar y gwahanol ddulliau o gydnabod ffynonellau wrth eu cynnwys mewn aseiniad.
Rhestr Gyfeirnodi
Pears, R. a Shields, G. (2013) Cite them right: the essential referencing guide. Llundain: Palgrave.