Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad: 9. Offer rheoli cyfeirnodi

Cadw'r ffynonellau ar gyfer eu cyfeirnodi

 

Mae llawer o ffynonellau gwybodaeth ar-lein yn cynnwys nodweddion i'ch cynorthwyo i gadw canlyniadau eich chwilio i'w defnyddio'n nes ymlaen. Yn Primo, er enghraifft, gallwch gadw canlyniadau eich chwilio yn eich Ffefrynnau. Ceisiwch ddod i'r arfer o gadw cofnod o ffynonellau gwybodaeth rydych yn eu canfod fel na fydd rhaid treulio amser gwerthfawr yn chwilio amdanynt eto wrth greu eich rhestr gyfeirnodi.

Hefyd mae offer i'w gael ar-lein a fydd yn caniatáu ichi allforio canlyniadau chwiliadau i feddalwedd rheoli rhestr gyfeirnodi, e.e. EndNote. Mae rhagor o fanylion i'w gweld isod.

Endnote

Ap cyfeirnodi llyfryddiaethol pen-desg yw EndNote, sy'n crynhoi cyfeiriadaeth lyfryddiaethol o gronfeydd-data ar-lein; yn diwygio, rheoli a chadw cyfeiriadaeth; yn fformatio'r gyfeiriadaeth o'r amrywiaeth o ddulliau cydnabod a ddarperir, ac yn allforio'r gyfeiriadaeth ar ffurf troednodiadau, ôl-nodiadau, a llyfryddiaethau i ddogfennau Microsoft Word.

I gael cymorth a chefnogaeth wrth ddefnyddio EndNote, chwiliwch am y tiwtorialau ar-lein sy’n cael eu darparu gan EndNote Training.

Mendeley

Mae dogfennau cymorth i'w cael ar-lein. Mae Mendeley yn caniatáu ichi fewnforio cyfeiriadau i'ch aseiniadau trwy ddefnyddio ychwanegyn cyfeirnodi ar gyfer Word.

Zotero


Opsiwn sydd ar gael yn gyffredin ar gyfer casglu a chadw cydnabyddiaethau a'ch cynorthwyo i'w cynnwys yn eich aseiniadau.

Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn ei gynnal ond mae cyfarwyddiadau a sawl fideo defnyddiol i'w cael ar-lein.

https://www.zotero.org/

Cydnabyddiaeth a Llyfryddiaeth yn Microsoft Word

 

Mae gan Microsoft Word nodwedd ar gyfer creu cydnabyddiaeth o fewn y testun a llyfryddiaethau. Ei enw yw 'Citations & Bibliography' ac fe ddewch o hyd iddo ar y tab 'References' yn Word.

D.S. mae angen ichi deipio manylion y ffynhonnell eich hun felly dim ond os ydych chi'n cydnabod nifer fach o ffynonellau y mae'n ddefnyddiol. Hefyd, nid yw wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio gyda throednodiadau.