Llên-ladrad yw'r math mwyaf cyffredin o ymddygiad academaidd annerbyniol a gall fod yn drosedd ddifrifol, yn enwedig os yw'n digwydd yn helaeth a/neu dro ar ôl tro yng ngwaith myfyriwr.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio system o gosbi ar sail pwyntiau ar gyfer achosion o ymddygiad annerbyniol: System Seiliedig ar Bwyntiau : Ymddygiad Academaidd Annerbyniol Y Gofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth
Mae enghreifftiau o gosbau am lên-ladrad yn cynnwys:
• Gellir capio marc yr asesiad, neu'r modiwl, ar 39%.
• Gellir torri marc yr asesiad, neu'r modiwl, i lawr i 0%.
• Gellir torri marciau holl fodiwlau’r semester i 0%.
• Gall cyfleoedd i ailsefyll modiwlau a fethwyd o ganlyniad i ymddygiad academaidd annerbyniol gael eu dileu.
Mewn achosion difrifol iawn, efallai na fydd myfyrwyr ar gyrsiau yn gallu cwblhau eu cwrs astudio neu y byddant yn cael eu diarddel o’r brifysgol, a gellir methu traethodau ymchwil myfyrwyr ymchwil. Ar ben hyn, gallai myfyrwyr fod yn anghymwys i gael achrediad proffesiynol - e.e. aelodaeth Cymdeithas y Gyfraith
Pan fyddwch yn cyflwyno aseiniad, efallai y bydd gofyn i chi lofnodi taflen glawr i ddatgan nad ydych wedi cyflawni llên-ladrad (nac unrhyw fath arall o ymddygiad academaidd annerbyniol).