Diffiniad Prifysgol Aberystwyth o 'ymddygiad academaidd annerbyniol' yw:
Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yw cyflawni unrhyw weithred lle gall unigolyn sicrhau mantais na chaniateir, iddo ef ei hun neu i rywun arall. Bydd y Rheoliad hwn yn berthnasol, a gellir canfod bod myfyriwr wedi cyflawni Ymddygiad Academaidd Annerbyniol, beth bynnag fo bwriad y myfyriwr a chanlyniad y weithred, a boed y myfyriwr yn gweithredu ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag unigolyn arall/unigolion eraill.
Y pwynt yma yw sicrhau nad oes gan yr un myfyriwr fantais annheg dros fyfyrwyr eraill. Mae’n bwysig ichi sylweddoli ei bod yn bosibl cyflawni gweithred academaidd annerbyniol yn anfwriadol, ac mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw osgoi gwneud hynny.
Mae i ymddygiad academaidd annerbyniol sawl ffurf, ond rhai o'r enghreifftiau mwyaf cyffredin yw:
• Llên-ladrad
• Cydgynllwynio
• Ffugio tystiolaeth neu ddata
• Twyllo ar gontract:
• Gweithgaredd nad yw’n cael ei ganiatáu yn ystod arholiadau ffurfiol
Fe welwch ragor ynglŷn â diffiniad y Brifysgol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/
Y diffiniad o lên-ladrad yw defnyddio gwaith rhywun arall a'i gyflwyno fel eich gwaith eich hun, yn fwriadol neu'n anfwriadol. Er enghraifft:
• Peidio â chydnabod ffynhonnell rydych chi wedi dyfynnu ohono yn eich aseiniad.
• Dyfynnu heb ddefnyddio dyfynodau
• Copïo a gludo testun neu wybodaeth o'r rhyngrwyd heb gydnabod eich ffynonellau.
• Prynu aseiniad o felin draethawd a'i gyflwyno fel eich gwaith eich hun.
Llên-ladrad yw defnyddio deunydd a gymerwyd o ffynonellau eraill (ar y rhyngrwyd neu wedi'u hargraffu) heb eu cydnabod. Mae hyn yn ymddygiad academaidd annerbyniol a gall arwain at gosbau trwy dynnu marciau.
I gydnabod ffynonellau eich gwybodaeth, rhaid cyfeirnodi; ac os ydych yn copïo darnau testun o ffynhonnell, rhaid rhoi’r testun a gopïwyd mewn dyfynodau bob amser. Os nad ydych yn gwahaniaethu rhwng geiriau neu syniadau pobl eraill a’ch geiriau neu syniadau eich hun, rydych yn euog o ymddygiad academaidd annerbyniol.
Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â'r hyn mae'r Brifysgol yn ei ystyried yn llên-ladrad a'r hyn sy'n digwydd os byddwch yn euog o lên-ladrad, yn y Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
Gall defnyddio testun a gynhyrchir gan offer aralleirio ar-lein greu achos o lên-ladrad, gan y byddwch yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion nad ydych wedi'u hysgrifennu eich hun fel pe baech wedi gwneud hynny.
Yn yr un modd, gall defnyddio crynodebau o erthyglau a gynhyrchir gan raglenni deallusrwydd artiffisial hefyd fod yn enghraifft o lên-ladrad, yn enwedig os cyflwynwch y crynodebau hyn gan honni mai eich gwaith eich hun ydynt.
Ni ddylech ddefnyddio offer aralleirio na rhaglenni crynhoi wrth ysgrifennu eich aseiniadau.
Gall llên-ladrad trwy gyfieithiad gynnwys:
Os ydych chi'n defnyddio ffynhonnell Saesneg ac yn ei haralleirio mewn iaith arall (neu i'r gwrthwyneb) ar gyfer eich gwaith, mae hyn yn cael ei drin fel aralleirio a dylid cyfeirio ato yn unol â hynny. Gweler Sut i Aralleirio i gael rhagor o gyfarwyddyd.
Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â'r hyn mae'r Brifysgol yn ei ystyried yn llên-ladrad a'r hyn sy'n digwydd os byddwch yn euog o lên-ladrad, yn y Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
Aberystwyth University. (2019) Rheoliad ynghylch Ymddygiad Annerbyniol. Available at: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/ (Accessed: 26 August 2020).
Mae ailddefnyddio data neu destun mewn mwy nag un asesiad, lle bo’r adran wedi nodi’n glir na chaniateir hynny, yn cael ei ystyried yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol: Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol : Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth
Os yw eich Adran yn caniatáu hynny, a’ch bod chi’n ailddefnyddio unrhyw ran o aseiniad blaenorol a ysgrifennwyd gennych ar gyfer modiwl neu gwrs arall yn eich gwaith cyfredol, rhaid ichi gydnabod hynny, neu caiff ei ystyried yn fath o lên-ladrad.
Mewn rhai cyd-destunau cyfrifiadura mae’n ddisgwyliedig y byddwch yn ailddefnyddio cod, o lyfrgelloedd neu o ffynonellau eraill. Cofiwch y canlynol wrth ymgorffori cod pobl eraill yn eich gwaith cwrs:
1. Dangos bod gennych ganiatâd i ddefnyddio'r cod.
2. Rhoi cydnabyddiaeth lle bo angen gwneud hynny
3. Gwneud yn siŵr eich bod yn deall y cod
4. Esbonio’ch dewisiadau o ran y dylunio
Am ragor o wybodaeth a chyfarwyddyd cysylltwch â'ch Adran.
Oni bai ei bod yn wybodaeth gyffredin, rhaid cydnabod unrhyw wybodaeth a gafwyd ar-lein.
Beth yw Gwybodaeth Gyffredin?
Digwyddiadau, ffeithiau a gwybodaeth sydd i'w cael mewn nifer o fannau ac sy'n wybyddus i'r rhai sy'n astudio pwnc penodol.
Enghreifftiau;
• Mae'r awyr yn las.
• Keir Starmer yw prif weinidog Prydain.
• Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914.
Os nad ydych yn sicr, cofiwch gydnabod y ffynhonnell!
Gall twyllo ar gontract gynnwys:
• Talu rhywun arall i ysgrifennu eich aseiniad, ac yna'i gyflwyno fel eich gwaith eich hun.
• Prynu deunydd o felin draethodau a'i ymgorffori yn eich aseiniad heb ei gydnabod.
• Gweithio ar y cyd â myfyrwyr eraill, cyfeillion, neu deulu er mwyn cwblhau gwaith sy'n cael ei gyflwyno fel eich gwaith eich hun.
Mae twyllo ar gontract fel arfer (ond nid bob amser) yn cynnwys trosglwyddiad masnachol. Hon yw'r ffurf fwyaf difrifol ar lên-ladrad ac mae'n arwain at gosbau llym. Ar ben hyn, mae ymwneud â melinau traethodau yn rhoi myfyrwyr mewn sefyllfa fregus, yn agored i flacmel ac i rywun ddwyn ei hunaniaeth.
Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â'r hyn mae'r Brifysgol yn ei ystyried yn llên-ladrad a'r hyn sy'n digwydd os byddwch yn euog o lên-ladrad, yn y Rheoliad ar Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
Aberystwyth University. (2019) Rheoliad ynghylch Ymddygiad Annerbyniol. Available at: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/ (Accessed: 07 September 2020).
Gallai uwchlwytho deunyddiau astudio, nodiadau darlith a thraethodau enghreifftiol i wefannau rhannu ffeiliau cyhoeddus arwain at achos disgyblu.
Gallai’r rhain gynnwys eiddo deallusol y brifysgol a byddai eu huwchlwytho yn torri Rheolau a Rheoliadau’r Brifysgol, a allai arwain at achos disgyblu.
Gallai uwchlwytho traethodau enghreifftiol neu draethodau wedi’u marcio neu lawrlwytho deunyddiau o’r fath arwain at ymchwiliad drwy weithdrefn y Rheoliad ynghylch Ymddygiad Annerbyniol.