Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad: 2. Beth yw cyfeirnodi a chydnabod ffynonellau?

Beth yw cyfeirnodi a chydnabod ffynonellau?

   

 

Cyfeirnodi a chydnabod yw'r dulliau a ddefnyddir i gydnabod y ffynonellau a ddefnyddiwyd gennych wrth ysgrifennu eich gwaith. Mae cyfeirnodi a chydnabod cywir hefyd yn caniatáu i'r darllenydd nabod y ffynonellau hynny'n hawdd a mynd ar eu trywydd os oes angen. Mae'n arfer academaidd da i gydnabod y cyfraniadau a wnaeth eraill i'ch gwaith.

 

I grynhoi felly, mae cyfeirnodi a chydnabod ffynonellau yn dangos;

  • Bod eich syniadau, eich meddwl beirniadol a'ch sylwadau yn dangos ichi ymchwilio i'r maes trwy gyfeirio at arbenigwyr ac awdurdodau sefydledig
  • Eich sgiliau ymchwilio a'ch bod wedi gwneud defnydd da o adnoddau'r llyfrgell
  • Dilysrwydd, trwy ddefnyddio arfer academaidd da
  • Eich gallu i gyfeirnodi'n gywir a manwl. Cofiwch: yn aml rhoddir marciau yn eich aseiniadau am gyfeirnodi a chydnabod yn dda.

 

Gall gwybodaeth ar gyfer eich aseiniad ddod o nifer helaeth o ffynonellau; gan gynnwys llyfrau, erthyglau, gwefannau, a phapurau newyddion.


Mae defnyddio amrywiaeth o ffynonellau yn dangos eich bod wedi treulio amser yn ymchwilio ar y testun.  Bydd y ffynonellau hyn hefyd yn cynorthwyo i gadarnhau eich syniadau a'ch dadleuon eich hun.


Rhaid i unrhyw beth nad yw'n wybodaeth gyffredin gael ei gydnabod.

Dylech edrych ar y rhestrau darllen a argymhellir gan eich tiwtoriaid a gwneud defnydd llawn o'r adnoddau sydd ar gael trwy gatalog y Llyfrgell. PEIDIWCH â dibynnu'n bennaf ar beiriannau chwilio ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i ffynonellau.

Pears, R. and Shields, G. (2013). Cite them right: the essential referencing guide. London: Palgrave.

Beth yw cydnabod ffynonellau?

Nodi'r ffynonellau a ddefnyddiwyd gennych yn nhestun eich aseiniad yw hyn.


Gellir gwneud hynny naill ai trwy ddyfynnu'n uniongyrchol, aralleirio, neu grynhoi.


Mae cydnabyddiaeth o fewn i'r testun (in-text citations) yn rhoi manylion cryno am y ffynhonnell yr ydych yn cyfeirio ati.  Bydd manylion llawn y ffynhonnell yn cael eu rhoi wedyn yn y rhestr gyfeirnodi ar ddiwedd yr aseiniad.


Mae dulliau gwahanol o ddyfynnu yn y testun, p'un a ydych yn dyfynnu'n uniongyrchol, yn aralleirio neu'n crynhoi. Cewch ragor o gymorth ac enghreifftiau fan hyn:


Sut i gynnwys cydnabyddiaeth yn eich aseiniad?

5 awgrym da ar gyfer cyfeirnodi'n llwyddiannus

  1. Chwiliwch am ffynonellau sy'n ategu eich aseiniad.
  2. Cadwch restr o'r holl ffynonellau a ddefnyddiwyd wrth ichi ddod o hyd iddynt
  3. Cydnabyddwch eich ffynonellau yn eich traethawd.
  4. Fformatiwch eich rhestr gyfeirnodi yn y dull cywir gan fod yn gyson a chywir.
  5. Gofynnwch am gymorth llyfrgellwyr@aber.ac.uk

Sut i ddod o hyd i ffynonellau i'm haseiniad?

Chwiliwch trwy Primo i ganfod llyfrau ac erthyglau mewn cyfnodolion.


Edrychwch ar 'libguide' eich pwnc, neu gofynnwch am gymorth eich llyfrgellydd.


Cofiwch gadw rhestr o'r holl ffynonellau a ddefnyddir gennych - bydd yn gwneud pethau llawer yn haws wrth ysgrifennu'r aseiniad a chreu rhestr gyfeirnodi gyflawn.

Chwe cham i feistrioli Primo