Mae'r Adroddiad Tebygrwydd yn dangos testun cyfatebol neu debyg rhwng eich aseiniad chi ar Turnitin a nifer o ffynonellau ar-lein, gan gynnwys cronfa Turnitin ei hun o waith a gyflwynwyd yn flaenorol. Mae ffynonellau ar-lein Turnitin yn cynnwys: gwe-ddalennau, banciau traethodau, cyfnodolion ar-lein, erthyglau a chyhoeddiadau. Mae'r sgan yn cael ei greu unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich aseiniad i Turnitin.
Bydd y rhan fwyaf o aseiniadau gwreiddiol gan fyfyrwyr yn cynnwys rhai enghreifftiau o destun sydd yr un peth. Nid oes canran delfrydol i anelu ato gan fod canrannau'n dibynnu ar y pwnc ac ar ofynion yr aseiniad. Ni ddylid defnyddio'r canllaw 'cipolwg' hwn yn fesur o lên-ladrad oherwydd gallai hyd yn oed sgôr o 1% ddynodi llên-ladrad.
Mae hyn yn caniatáu ichi hidlo peth testun sy'n cyfateb o'ch aseiniad.
Y Sgôr Tebygrwydd yw canran y testun yn yr aseiniad a gyflwynwyd i Turnitin sy'n cyfateb neu'n debyg i ffynonellau ar-lein. Mae sgôr o 0% yn dangos na chanfuwyd testun cyfatebol, ac mae sgôr o 100% yn golygu bod y testun cyfan yn cyfateb. Rhaid cofio bod testun cyfatebol yn debygol o gynnwys testun wedi'i gyfeirnodi a'i ddyfynnu yn gywir yn ogystal â thestun nad oedd wedi ei gyfeirnodi o gwbl.
Dim ond ar ôl i chi gyflwyno eich aseiniad a bod eich adran wedi gosod caniatâd i chi ei weld y gallwch ddarllen yr Adroddiad Tebygrwydd.
I weld Adroddiad Tebygrwydd ar aseiniad a gyflwynoch (wedi'i farcio ai peidio):
1. Mewngofnodwch i Blackboard ac agor 'My Modules'.
2. Ewch i fodiwl yr aseiniad a gyflwynwyd.
3. Ewch i'r man cyflwyno yn Turnitin lle cyflwynwyd eich aseiniad.
4. Cliciwch ar y sgôr Tebygrwydd neu cliciwch ar 'View' i agor eich aseiniad gyda'r sgôr Tebygrwydd
5. Bydd eich aseiniad yn agor yn y 'Feedback Studio'
6. Er mwyn gweld y 'Match Overview', cliciwch ar rif y sgôr tebygrwydd sydd yn goch ar y bar offer
7. Nawr fe welwch eich Adroddiad Tebygrwydd.
8. Bydd cyfatebiaeth destunol i'w weld yng nghorff eich aseiniad.
9. Bydd testun sy'n cyfateb o wahanol ffynonellau yn cael ei amlygu.
Nid yw Turnitin yn gwirio aseiniad a gyflwynir i chwilio am lên-ladrad. Nid yw'r meddalwedd yn gallu dweud a fu llên-ladrad wrth baratoi aseiniad, dim ond faint o destun sy'n cyfateb neu'n debyg i ffynonellau allanol a ffynonellau eraill.
Mae'r Adroddiad Tebygrwydd yn ddefnyddiol i wirio bod ffynonellau ar-lein mewn aseiniad wedi'u cydnabod a’u cyfeirnodi'n gywir, yn ogystal ag i atal llên-ladrad ac annog arfer academaidd da.
I sefydlu achos o ymddygiad annheg rhaid i'r Adroddiad Tebygrwydd gael ei ddehongli gan aelod priodol o staff eich adran.
Gweler tudalennau cymorth Turnitin i gael mwy o wybodaeth am weld a dehongli'r adroddiad tebygrwydd. Mae gan Turnitin hefyd fideo rhyngweithiol defnyddiol sy'n dangos lle i ddod o hyd i'r Stiwdio Adborth a chanfod rhagor.