Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad: 5. Cyfeirnodi allbynnau deallusrwydd artiffisial

Beth yw Deallusrwydd Artiffisial?

Mae deallusrwydd artiffisial, y cyfeirir ato yn Saesneg fel AI (artificial intelligence) yn faes cyfrifiadureg sy'n canolbwyntio ar greu peiriannau sy'n ymddangos yn ddeallus a sy’n gallu cyflawni tasgau sydd wedi bod angen deallusrwydd dynol cyn hyn. Mae deallusrwydd artiffisial yn golygu datblygu algorithmau a systemau sy’n dysgu o ddata, adnabod patrymau, a gwneud penderfyniadau neu ragfynegiadau ar sail yr algorithmau neu'r systemau hynny.

Mae deallusrwydd artiffisial yn rhoi’r gallu i beiriannau i ddeall, rhesymu a rhyngweithio â'r byd mewn ffyrdd sy'n efelychu gwybyddiaeth ddynol. Mae enghreifftiau o gymwysiadau deallusrwydd artiffisial y gallech fod wedi dod ar eu traws mewn bywyd bob dydd yn cynnwys cynorthwyydd sgwrsio, adnabod delweddau, cerbydau awtonomaidd a systemau argymell (ar gyfer ffilmiau, cerddoriaeth neu siopa). Mae gan ddeallusrwydd artiffisial y potensial i chwyldroi gwahanol ddiwydiannau, gwella effeithlonrwydd a datrys problemau cymhleth. Fodd bynnag, mae’n codi ystyriaethau moesegol pwysig ynghylch preifatrwydd, tuedd, a'r effaith ar swyddi a chymdeithas.

Bydd y Canllaw Llyfrgell hwn yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol. Byddwn yn edrych ar sut y gall myfyrwyr ei ddefnyddio'n effeithiol er mwyn sicrhau’r profiad gorau wrth ddefnyddio’r llyfrgell. Bydd y canllaw hefyd yn mynd i'r afael â'r cyfyngiadau yn ogystal â'r ystyriaethau moesegol cysylltiedig â'i ddefnyddio.

Mae'r wybodaeth yn y canllaw hwn yn gyfredol ym mis Gorffennaf 2023.

Beth yw Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol?

Mae Deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (ChatGPT, Bard, Dall-E, ac ati) yn dechnoleg gymharol newydd sy'n canolbwyntio ar greu cynnwys newydd a gwreiddiol, fel delweddau, cerddoriaeth, neu destun gyda deallusrwydd artiffisial.

Yn wahanol i systemau deallusrwydd artiffisial traddodiadol sy'n dibynnu ar reolau diffiniedig, mae modelau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn dysgu cynhyrchu cynnwys o symiau enfawr o ddata.

Er gwaethaf ei enw, nid yw Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol yn ddeallus, mae'n gweithio'n debycach i destun rhagfynegol. Trwy ddeall patrymau ac arddulliau o enghreifftiau presennol, gall system fel ChatGPT ddynwared a chynhyrchu cynnwys newydd sy'n ymddangos yn hynod realistig.
 

Cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial - Ffeithiau Allweddol

Mae'n bwysig cofio bod nifer o gyfyngiadau i ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Nid yw deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol wedi'i gynllunio i gynhyrchu gwybodaeth ffeithiol gywir
  • Mae'n bosib na fydd y wybodaeth a gynhyrchir yn gyfoes. Mae'r system sy'n rhedeg GPT-3.5 (megis y fersiwn sydd ar gael am ddim o ChatGPT OpenAI) wedi'u hyfforddi ar ddeunyddiau hyd at y flwyddyn 2021. (Felly os byddwch chi'n gofyn pwy yw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, nid yw'n gwybod.) Mae gan y system sy'n rhedeg GPT-4 (megis BingAI Microsoft, a'r fersiwn y mae'n rhaid talu amdani o ChatGPT) lawer mwy o wybodaeth gyfoes.
  • Gall yr allbwn a gynhyrchir ailadrodd y tueddiadau yn y deunyddiau hyfforddi. (Gallai hyn gynnwys: rhagfarn ar sail oedran, ableddiaeth, rhywiaeth, homoffobia a hiliaeth)
  • Efallai na fydd gan y deallusrwydd artiffisial fynediad at wybodaeth y mae'n rhaid talu amdani (er enghraifft: erthyglau cyfnodolion academaidd a adolygir gan gymheiriaid).

Canllawiau'r Brifysgol ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Mae canllawiau'r Brifysgol yn nodi bod "cyflwyno gwaith a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial fel pe bai'n waith eich hun" yn fath o lên-ladrad ac, o'r herwydd, yn ymddygiad academaidd annerbyniol. Gellir dod o hyd i wybodaeth gyflawn am ganllawiau'r Brifysgol ar ymddygiad academaidd annerbyniol yma. 

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfeirnodi a llên-ladrad yn ein Canllaw LibGuides ar Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad.

Canllawiau Adrannol ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Canllawiau Undeb y Myfyrwyr ar Ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial

Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial: Ffeithiau Allweddol

Rhaid i chi ddilyn y canllawiau diweddaraf ar ddeallusrwydd artiffisial a ddarperir gan eich adran.

Os ydych chi'n defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer gwaith a asesir, byddwch yn eglur a gonest a chydnabyddwch eich bod wedi'i ddefnyddio.

Gallai'r allbwn a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial:

  • Fod wedi dyddio.
  • Fod yn anghywir.
  • Fod yn bleidiol.

Os ydych chi'n defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol mewn unrhyw ran o'ch gwaith a asesir, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio popeth a gynhyrchir gan yr adnodd er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a gynhyrchir yn gyfredol ac yn gywir.

Oherwydd pryderon preifatrwydd a diogelwch, ni fyddem yn argymell rhoi data personol mewn systemau deallusrwydd artiffisial.

Mae maes deallusrwydd artiffisial yn datblygu'n gyflym iawn a gall y canllawiau presennol newid. 

Yn y Canllaw hwn byddwn yn edrych ar yr agweddau hyn ac agweddau eraill ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yng nghyd-destun y llyfrgell.

Rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ar gael yn ein Canllaw - Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Llyfrgell: Canllaw i Fyfyrwyr.

Gwirio ffeithiau a Sylwi ar Gamwybodaeth

Er ei bod yn ymddangos bod deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn aml yn cynhyrchu testun credadwy iawn, cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau bod yr hyn a gynhyrchir yn gyfredol ac yn gywir. Sut gallwch chi wneud hyn?

Mae eich Tîm Llyfrgelloedd wedi llunio canllawiau ar sut i ddechrau gwerthuso gwybodaeth y gallech ddod ar ei thraws pan fyddwch ar-lein. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i wirio dilysrwydd unrhyw allbwn a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol.   
 

Deallusrwydd Artiffisial, Cyfeirnodi a Dyfyniadau

Un her y mae deallusrwydd artiffisial yn ei hwynebu yw cynhyrchu dyfyniadau a chyfeiriadau yn gywir. Mae modelau deallusrwydd artiffisial yn dibynnu ar batrymau ystadegol yn hytrach na dealltwriaeth wirioneddol o sut y dylid cyflwyno dyfyniad neu gyfeiriad. Gall hyn arwain at wallau mewn cyfeiriadau a allai gynnwys:

  • Creu cyfeirnod yn y dull anghywir.
  • Gall elfennau megis lleoliadau cyhoeddi a dyddiadau cyhoeddi fod yn anghywir neu ar goll.
  • Priodoli gwaith i’r awdur anghywir.
  • Diffyg gwybodaeth adalw (DOI, URLau, ac ati).
  • Drysu math o adnoddau, er enghraifft, cymysgu penodau llyfrau gydag erthyglau cyfnodolion. 
  • Rhifau cyfnodolion a rhifynnau yn anghywir neu ddim yn cyd-fynd ar gyfer erthyglau academaidd.
  • Rhifau tudalennau anghywir
  • Datganiadau argraffiad anghywir.

Fel y nodwyd eisoes yn y canllaw hwn, os ydych chi'n defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ar gyfer unrhyw ran o'ch gwaith a asesir, eich cyfrifoldeb chi yw gwirio popeth a gynhyrchir gan y deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod y wybodaeth a gynhyrchir yn gyfredol ac yn gywir.

Edrychwch ar ein Canllaw LibGuides ar Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad i gael rhagor o wybodaeth am theori ac ymarfer y sgil academaidd hanfodol hon.

Ble mae cymorth ar gael?

Mae'n hanfodol eich bod yn dilyn yr holl ganllawiau cyfredol a ddarperir gan eich adran ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. 

Os hoffech chi wybod sut y gallwch ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell, dewch i'n gweld yn:

  •   Y ddesg ymholiadau ar Lefel F Llyfrgell Hugh Owen.
  •   Y ddesg ymholiadau yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Neu cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc.

Gallwch hefyd anfon e-bost atom yn: llyfrgellwyr@aber.ac.uk

Am fwy o wybodaeth gyffredinol am y llyfrgell, gweler ein Canllawiau.