Dewiswch yr enghreifftiau perthnasol isod ar gyfer eich dull cyfeirnodi. Os ydych yn ansicr pa ddull i'w ddefnyddio, darllenwch 'Pa ddull i'w ddefnyddio ar gyfer cyfeirnodi?'
Os hoffech chi gymorth neu gefnogaeth cysylltwch â'ch llyfrgellydd: llyfrgellwyr@aber.ac.uk
Awgrymiadau Pellach:
Mwy o enghreifftiau APA Gofal Iechyd ar y LibGuide Addysg Gofal Iechyd
Mae'r dudalen hon yn rhoi enghreifftiau o ffynonellau sy'n cael eu cydnabod yn gyffredin. Cyfeiriwch at ganllaw APA yr adran (APA = Cymdeithas Seicolegol America) yn:
APA 7th Edition apastyle.apa.org/
Mae hwn yn ddull sy'n defnyddio fformat awdur-dyddiad ar gyfer cydnabyddiaethau yn y testun ac yna'n rhestru manylion llawn y ffynhonnell yn nhrefn yr wyddor yn y rhestr gyfeirnodi.
Enghreifftiau o gydnabyddiaethau yn-y-testun:
Gweler y tabiau canlynol i gael cyngor ynglŷn â chreu rhestr gyfeirnodi.
Creu'r rhestr gyfeirnodi:
Wrth gyfeirnodi llyfr dilynwch y drefn hon:
• Awduron, cyfenw ac yna blaenlythrennau
• Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau
• Teitl, mewn print italig
• Argraffiad y llyfr (os nad yr argraffiad cyntaf)
• Cyhoeddwr
Enghraifft: Llyfr, un awdur:
Rhestr Gyfeirnodi:
Smyth, T.R. (2004). The principles of writing in Psychology. Palgrave MacMillan.
Wrth gyfeirnodi e-lyfr dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: e-lyfr
Loschiavo, J. (2015). Fast Facts for the School Nurse: School Nursing in a Nutshell (2nd ed.). Springer. https://doi.org/10.1891/9780826128775
Wrth gyfeirnodi pennod o lyfr dilynwch y drefn hon:
• Awdur y bennod, cyfenw yn gyntaf ac yna llythrennau cyntaf.
• Blwyddyn cyhoeddi
• Teitl y bennod
• Yn + awduron y llyfr cyfan (Goln.)
• Teitl y llyfr
• Tudalennau'r bennod
• Cyhoeddwr
Enghraifft: pennod o lyfr
Smyth, M. J., & Filipkowski, B.K. (2010). Coping with stress. Yn D. French, K. Vadhara, A.A. Kaptein, & J. Weinman (Goln.), Health Psychology (tt. 271-283). Blackwell Publishing.
Wrth gyfeirnodi erthygl dilynwch y drefn hon:
• Awduron, cyfenwau ac yna blaenlythrennau.
• Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau.
• Teitl yr erthygl.
• Teitl y cyfnodolyn, mewn print italig.
• Cyfrol y cyfnodolyn.
• Rhifyn y cyfnodolyn, mewn cromfachau.
• Ystod tudalennau'r erthygl.
• DOI yr erthygl, os yw ar gael.
Enghraifft: Erthygl mewn cyfnodolyn
Beaman, P.C., & Holt, J.N. (2007). Reverberant auditory environments: the effects of multiple echoes on distraction by 'irrelevant' speech. Applied Cognitive psychology, 21(8), 1077-1090. doi: https://doi.org/10.1002/acp.1315
Wrth gyfeirnodi gwe-ddalen dilynwch y drefn hon:
• Cyfenw'r awdur ac yna blaenlythrennau NEU enw'r sefydliad. Teitl y we-ddalen os nad oes awdur.
• Blwyddyn cyhoeddi (mewn cromfachau).
• Teitl.
• URL.
Enghraifft: gwe-ddalen
Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). (2019). WHO updates global guidance on medicines and diagnostic tests to address health challenges, prioritise highly effective therapeutics, and improve affordable access. https://www.who.int/news/item/09-07-2019-who-updates-global-guidance-on-medicines-and-diagnostic-tests-to-address-health-challenges-prioritize-highly-effective-therapeutics-and-improve-affordable-access
Gall dogfen ar y we gynnwys adroddiadau llywodraeth neu ddogfennau polisi. Maent yn cael eu cyfeirnodi'n wahanol i dudalennau gwe:
• Awduron, yn cynnwys blaenlythrennau.
• Blwyddyn cyhoeddi, mewn cromfachau.
• Teitl, mewn print italig.
• URL
Enghraifft: Dogfen ar y we
Howe, C., Mercer, N. (2007). Children's social development, peer interaction and classroom learning. https://cprtrust.org.uk/wp-content/uploads/2014/06/research-survey-2-1b.pdf
Defnyddiwch erthyglau papur newydd yn fan cychwyn i ymchwil. Nid ydynt yn cael eu hystyried yn ffynonellau academaidd. Defnyddiwch y fformat isod:
• Cyfenwau awduron, yna blaenlythrennau.
• Blwyddyn, mis a dyddiad cyhoeddi, mewn cromfachau.
• Teitl yr erthygl.
• Teitl y papur newydd, mewn print italig.
• Rhifau'r tudalennau NEU URL, os yw yn erthygl ar-lein
Enghraifft: Erthygl papur newydd:
Sisley, D. (2020, Chwef 22). Can science cure a broken heart?. The Guardian. https://www.theguardian.com/science/2020/feb/22/can-science-cure-a-broken-heart
Nid yw'r hyn sy'n cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft Twitter a Facebook, yn cael eu hystyried yn ffynonellau academaidd. Defnyddiwch nhw yn fan cychwyn i’ch ymchwil academaidd. Defnyddiwch y fformat isod:
• Enw defnyddiwr neu enw'r grŵp
• Dyddiad ar ffurf blwyddyn, mis, diwrnod. Mewn cromfachau. Os nad oes dyddiad, rhowch (n.d.)
• Teitl y post, wedi'i ddilyn gan y math o ffynhonnell mewn cromfachau [ ].
• Wedi'i adalw o, ac yna mis, diwrnod, blwyddyn,
• o'r URL
Enghraifft: Post Cyfryngau Cymdeithasol
Barack Obama. (2009, Hydref 9). Humbled [diweddariad Facebook]. Wedi'i adalw Mai, 14, 2020, o http://www.facebook.com/posted.php?id=6815841748&share_id=154954250775&comments=1#s154954250775
Gweler canllaw cyfeirnodi llawn yr adran i'r 7ed APA yn:
Cymerwyd yr wybodaeth hon o'r 'Institute of Physics Author Guidelines' ar gyfer Cyfnodolion IoP.
Wrth gyfeirnodi gweithiau mewn cyfnodolion rhaid cynnwys:
Enghraifft:
Os oes mwy na deg awdur, dylid rhoi enw'r awdur cyntaf ac ar ôl hynny et al.
Sylwer nad yw'n orfodol rhoi teitl yr erthygl, heblaw am Journal of Neural Engineering (J. Neural Eng.), Measurement Science and Technology (Meas. Sci. Technol.), Physical Biology (Phys. Biol.), Physiological Measurement (Physiol. Meas.) and Physics in Medicine and Biology (Phys. Med. Biol.).
Os nad oes unigolyn yn cael ei enwi'n awdur, efallai bod grŵp cydweithrediadol o awduron neu gorff corfforaethol yn gyfrifol amdano, e.e.:
Os oes cydweithrediad yn cael ei atodi i un neu fwy o awduron, rhaid rhoi enw'r cydweithrediad cyn y flwyddyn, e.e.:
Wrth gyfeirnodi llyfrau dylid cynnwys:
Enghraifft:
Gall cyfeiriadau at lyfr gynnwys (dewisol):
Enghraifft:
Dylai cyfeirnod papurau cynhadledd gynnwys:
Enghraifft:
Gall cyfeiriadau at drafodion cynhadledd gynnwys (dewisol):
Dylid trin y rhain fel cyfnodolion:
Dylai cyfres gynhadledd gynnwys teitl y gynhadledd a theitl y gyfres ond nid y cyhoeddwr.
Yr eithriadau yw Journal of Physics: Conference Series (J. Phys.: Conf. Ser.), IOP Conference Series: Earth and Environmental Science (IOP Conf. Ser.: Earth Environ. Sci.) and IOP Conference Series: Materials Science and Engineering (IOP Conf. Ser.: Mater. Sci. Eng.), a dylid eu gosod fel cyfeirnodau cyfnodolyn, e.e.:
Dim ond gwe-ddolenni parhaol neu barhaus ddylid eu defnyddio mewn rhestrau cyfeirnodi. Mae enghreifftiau o ddolenni derbyniol yn cynnwys:
Dylai cyfeirnodi rhagargraffiadau gynnwys:
Enghraifft:
Dylai cyfeirnodau traethodau ymchwil gynnwys:
Enghreifftiau:
Mae'r teitl yn ddewisol.
Wrth gyfeirnodi darlithoedd dylid cynnwys:
Enghraifft:
Wrth gyfeirnodi erthyglau sydd wedi eu derbyn neu eu cyflwyno rhaid cynnwys:
Enghraifft:
Wrth gyfeirnodi erthyglau sy'n cael eu paratoi rhaid cynnwys:
Enghraifft:
Os nad yw'r cyfeiriadau'n cynnwys gwybodaeth lyfryddiaethol (h.y. nid ydynt yn cyfeirio at ddarnau eraill o waith) dylech eu rhoi mewn troednodyn o fewn y testun a'u cydnabod yn y lleoliad priodol.
Mae'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol wedi paratoi Taflen Arddull ar gyfer Traethodau a mathau eraill o Waith Cwrs. Mae'r daflen i'w gweld ar Blackboard. Dyma grynodeb o'r cyngor a'r enghreifftiau a roddir. Wrth weithio, byddai'n ddefnyddiol cadw'r daflen wrth law er mwyn gallu cyfeirio ati i gael mwy o fanylion. Dylech adael gofod-dwbl rhwng llinellau yn eich gwaith, ac ar gyfer atalnodi wrth gyfeirnodi fe'ch cynghorir i ddilyn yr enghreifftiau.
Seiliwyd y daflen ar Ganllaw Arddull yr MHRA (MHRA Style Guide) (3ydd argraffiad).
Seiliwyd y cwis MHRA ar ddiwedd y canllaw hwn ar daflen arddull yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
Os ydych yn fyfyriwr Hanes a Hanes Cymru neu Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, rhaid ichi ddefnyddio'r canllaw cyfeirnodi a gewch gan eich adran wrth gydnabod a chyfeirnodi ffynonellau yn eich gwaith ysgrifenedig.
Cydnabod ffynonellau yw crybwyll teitlau llyfrau ac eitemau eraill yn eich gwaith
Enghraifft:
Mae C. J. Atkin, mewn erthygl ddiweddar o'r enw 'Busy Old Fools' yn Essays in Criticism , yn trafod 'The Sun Rising' gan Donne, a'i gysylltu â sawl agwedd ar ddrama Shakespeare Hamlet. Mae ei chasgliadau'n wahanol i'r rhai y daeth iddynt rai blynyddoedd yn ôl yn ei llyfr Renaissance Resonances, lle y mae ym Mhennod Saith, ‘Donne Speaks to Shakespeare’, yn ymdrin yn gryno â'r un pwnc.
Yn yr enghraifft
Yn y llyfryddiaeth, rhaid cynnwys cyfeirnod llawn i bob elfen sy'n cael ei chydnabod.
Gall dyfyniad byr fod unrhyw beth hyd at 40 gair ac maent yn cael eu rhoi mewn dyfynodau sengl.
Mae'r dyfyniad cyntaf o ffynhonnell yn cael ei gyfeirnodi mewn troednodyn. Sut ydw i’n rhoi troednodiadau i mewn i ddogfennau Microsoft Word?
Os bydd dyfyniadau dilynol o'r un ffynhonnell yn cael eu cynnwys yn y gwaith, rhoddir brawddeg ar ôl y cyfeirnod cyntaf yn esbonio sut y cyfeirir at gyfeirnodau dilynol.
Enghraifft:
'Siaradwyr dwyieithog, felly, sydd fwyaf tebygol o ddechrau defnyddio gair estron yn eu hiaith, a hynny ar y dechrau drwy gyfnewid cod.'¹
________
¹Peredur Webb-Davies, ‘Cyfnewid cod’, mewn Cyflwyniad i ieithyddiaeth, golygwyd gan Sarah Cooper, Laura Arman (Caerfyrddin: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2020), t. 193. Ar gyfer cyfeiriadau dilynol at y ffynhonnell hon yn y testun rhoddir 'Webb-Davies' ac yna rhif y dudalen.
Sylwer
Cyfeirnodir dyfyniad dilynol o'r un ffynhonnell gan gyfeirnod cryno mewn cromfachau o fewn i'r gwaith, fel y dangosir yn yr enghraifft.
Enghraifft:
Dadleuir felly bod un o'r ieithoedd sydd ar waith sy'n darparu'r prif strwythur gramadegol a rhai mathau penodol o eiriau a gelwir hon yn 'iaith fatrics' (Webb-Davies, t. 198).
Mae dyfyniadau hir
Enghraifft:
Mae Boland wedi dadlau bod ‘dynes-fel-cenedl’ fel delwedd wedi arwain yn aml at ddisgrifiadau wedi’u delfrydu o fenywdod Gwyddelig;
The women in Irish male poems tended to be emblematic and passive, granted a purely ornamental status. Once the feminine image in their poems became fused with a national concept then both were simplified and reduced. It was the absence of women in the poetic tradition which allowed women in the poems to be simplified. (Boland, t.47)
Yn nes ymlaen yn yr un traethawd, mae Boland yn rhoi nifer o enghreifftiau o’r broses hon a achosodd i ‘fenyw’ gael ei ‘symleiddio’ mewn barddoniaeth Wyddelig.
(Yn yr enghraifft hon gadawyd y dyfyniad yn Saesneg. Os caiff ei gyfieithu mae angen ychwanegu elfen at y cyfeiriad yn nodi hynny https://libguides.aber.ac.uk/c.php?g=683637&p=4879257 )
Mae cerddi'n cael eu trin yn debyg i ddyfyniadau eraill ond mae rhai gwahaniaethau.
Dyfyniad byr yw dwy linell o gerdd neu ddrama
Enghraifft (nid y cyfeiriad cyntaf at Canterbury Tales gan Chaucer, fel y nodir gan y cyfeirnod cryno mewn cromfachau)
‘Whan that Aprill with his shoures soote / The droghte of Marche hath perced to the rote’ (Chaucer, llau. 1-2).
Dilynwch linelliad y gwreiddiol. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn ychwanegu'r '/' i ddangos toriad llinell, nac yn gosod y llinellau fel darn o ryddiaith
Mae'r llyfryddiaeth yn rhestr o'r HOLL ffynonellau y cyfeirir atynt neu sy'n cael eu cydnabod yn eich traethawd, ond nid yw'n cynnwys y ffynonellau yr ydych ddim ond wedi eu darllen.
Wordsworth, William a Samuel Taylor Coleridge, Lyrical Ballads, 2il arg, gol. gan R. L. Brett a A. R. Jones (Llundain: Routledge, 1991)
Turner, Marion, Chaucerian Conflict: Languages of Antagonism in Late Fourteenth-Century London (Rhydychen: Gwasg Clarendon, 2007)
Ferguson, Frances, ‘Malthus, Godwin, Wordsworth, and the Spirit of Solitude’, yn Literature and the Body: Essays on Populations and Persons, gol. gan Elaine Scarry (Baltimore: Gwasg Prifysgol Johns Hopkins, 1998), tt. 106-24
Christensen, Jerome, ‘The Romantic Movement at the End of History’, Critical Enquiry, 20 (1994), 452-76
Franey, Laura, ‘Terror and Liberation on the Railway in Women’s Short Stories of 1894’, Nineteenth Century Gender Studies, 14.1 (2018), [cyrchwyd 10 Medi 2018]
Flood, Alison, ‘Cloud Atlas “astonishingly different” in US and UK editions, study finds’, The Guardian (2016), [cyrchwyd 23 Awst 2018]
Metropolis, cyf. gan Fritz Lang (UFA, 1927)
(Sylwer: cymerwyd yr wybodaeth hon o'r llawlyfr Ysgrifennu a Chyfeirnodi yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol sydd i'w gael fan hyn)
Llyfrau
Troednodyn / ôl-nodyn: Waltz, K. Theory of International Politics (Llundain, McGraw Hill, 1979), t. 117.
Llyfryddiaeth: Waltz, K. Theory of International Politics (Llundain, McGraw Hill, 1979).
Penodau mewn cyfrolau wedi'u golygu
Troednodyn / ôl-nodyn: Grieco, J. 'Anarchy and the Limits of Cooperation', yn Neorealism and Neoliberalism: the Contemporary Debate, golygwyd gan David Baldwin (Efrog Newydd, Gwasg Prifysgol Columbia, 1993), t. 126.
Llyfryddiaeth: Grieco, J. 'Anarchy and the Limits of Cooperation', yn Neorealism and Neoliberalism: the Contemporary Debate, golygwyd gan David Baldwin (Efrog Newydd, Gwasg Prifysgol Columbia, 1993), tt. 116-42.
Erthyglau cyfnodolion
Troednodyn / ôl-nodyn: Wendt, A. 'The Agent-Structure Problem in International Relations Theory', International Organization, 41 (1987) t. 49.
Llyfryddiaeth: Wendt, A. 'The Agent-Structure Problem in International Relations Theory', International Organization, 41 (1987) tt. 35-70.
Cyfeirnodi dogfen neu gyhoeddiad a gynhyrchwyd gan Lywodraeth, Sefydliad Rhyngwladol, Corfforaeth neu gorff anllywodraethol
Troednodyn / ôl-nodyn Pwyllgor Materion Tramor Tŷ'r Cyffredin, ‘Cultural Diplomacy’ (Llundain, Llyfrfa Ei Mawrhydi, 1987), t. 7.
Llyfryddiaeth: Pwyllgor Materion Tramor Tŷ'r Cyffredin, ‘Cultural Diplomacy’ (Llundain, Llyfrfa Ei Mawrhydi, 1987)
Cyfeirnodi erthygl mewn papur newydd neu gylchgrawn
Troednodyn / ôl-nodyn: Freedland, J. ‘For dictators, Britain does red carpet or carpet-bombing’. The Guardian (Llundain), 1 Mawrth 2011, t. 17.
Llyfryddiaeth: Freedland, J. ‘For dictators, Britain does red carpet or carpet-bombing’. The Guardian (Llundain), 1 Mawrth 2011.
Os ydych wedi darllen yr erthygl hon ar-lein, dywedwch hyn yn glir yn y troednodyn/ôl-nodyn ac yn y llyfryddiaeth:
Freedland, J. ‘For dictators, Britain does red carpet or carpet-bombing’. The Guardian, 1 Mawrth 2011. Ar gael yn: http://www.guardian.co.uk/commentisfree/2011/mar/01/dictators-britain-armstrade-hypocrisy [Cyrchwyd 24 Hydref 2011].
Cyfeirnodi darllediad teledu neu radio
Yr un dull i'r troednodyn/ôl-nodyn a'r llyfryddiaeth:
Panorama, BBC2, 30 Ionawr 2011, 20:00
Gwefannau, Blogiau a Twitter
Yr un fath ar gyfer troednodyn/ôl-nodyn a llyfryddiaeth:
Newyddion BBC North Korea Country Profile. Ar gael yn: http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/asia-pacific/country_profiles/1131421.stm [Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2011].
Davies, M. ‘IR Theory: Problem-Solving Theory Versus Critical Theory’, E-IR, 19 Medi 2014 [Blog], Ar gael yn: http://www.e-ir.info/2014/09/19/ir-theoryproblem-solving-theory-versus-critical-theory/ [Cyrchwyd 30 Medi 2014].
Obama, B. “We have to work together as a global community to tackle this global threat before it is too late.” – Yr Arlywydd Obama, 23 Medi 2014 [Twitter]. Ar gael yn: https://twitter.com/BarackObama/status/514462253605609472 [Cyrchwyd 30 Medi 2014].
Cyfeirnodi deunydd a gyrchwyd gan ddarllenydd e-lyfr (e.e. Kindle, ac yn y blaen)
Os nad yw rhifau'r tudalennau ar gael i ddarllenwyr e-lyfrau, defnyddiwch y penodau yn lle hynny i ddangos lleoliad adran a ddyfynnir.
Yn y troednodyn/ôl-nodyn a'r llyfryddiaeth, rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
Er enghraifft:
Smith, A, The Wealth of Nations (fersiwn Kindle, 2008). Cyrchwyd 20 Awst 2010 o Amazon.com
Smith, A, The Wealth of Nations (fersiwn Adobe Digital Editions, 2008). Cyrchwyd 20 Awst 2010, doi:10.1036/007142363X.
Cyfeirnodi Eilaidd
Ystyr cyfeirnodi eilaidd yw cyfeirnodi llyfr neu erthygl nad ydych wedi'u darllen eich hun ond y gwelsoch wedi'u dyfynnu yng ngwaith rhywun arall. Wrth ddefnyddio'r system troednodyn / ôl-nodyn, dilynwch y canllawiau canlynol:
Rhowch droednodyn neu ôl-nodyn i gydnabod yr awdur yr ydych yn ei ddyfynnu ond gwnewch yn glir eich bod wedi gweld y cyfeiriad mewn llyfr arall.
Er enghraifft:
Ninkovich, F. The Diplomacy of Ideas (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 1981), t. 1, cydnabyddwyd yn Vaughan, J. Unconquerable Minds. The Failure of American and British Propaganda in the Middle East, 1945-1957 (Houndmills, Palgrave, 2005), t. 2.
Yn y llyfryddiaeth, dim ond y llyfr y daeth y cyfeiriad ohono y byddwch yn ei nodi, yn achos yr enghraifft uchod:
Vaughan, J. Unconquerable Minds. The Failure of American and British Propaganda in the Middle East, 1945-1957 (Houndmills, Palgrave, 2005).
Dylai myfyrwyr y Gyfraith gyfeirio at 4ydd Argraffiad OSCOLA a'i ganllaw Cyfeirio Cyflym (Quick Reference).
Mae'r dudalen hon yn rhoi enghreifftiau o ffynonellau sy'n cael eu cydnabod yn gyffredin.
Mae hwn yn ddull sy'n defnyddio fformat troednodiadau ar gyfer cydnabyddiaethau yn y testun. Mae manylion llawn y ffynhonnell yn cael eu rhestru yn y llyfryddiaeth mewn dull ychydig yn wahanol.
Wrth gyfeirnodi llyfr argraffedig mewn troednodyn, dilynwch y drefn hon:
Os ydych yn defnyddio e-Lyfr, fel arfer dylech greu cyfeirnod yn yr un ffordd ag y byddech wrth ddefnyddio'r fersiwn print. Os mai dim ond ar-lein y cafodd ei argraffu, dilynwch y canllawiau ar gyfer cyfeirnodi gwefannau cyn belled â phosib.
Cydnabyddiaeth mewn troednodyn
[1] Geoffrey Rivlin, First Steps in the Law (7fed arg. Gwasg Prifysgol Rhydychen 2015) 76
[2] Thomas Hobbes, Leviathan (cyhoeddwyd gyntaf 1651, Penguin 1985) 268
Llyfryddiaeth
Hobbes, T. Leviathan (cyhoeddwyd gyntaf 1651, Penguin 1985)
Rivlin, G. First Steps in the Law (7fed arg. Gwasg Prifysgol Rhydychen 2015)
Wrth gyfeirnodi pennod mewn llyfr/cyfraniadau i gasgliadau wedi'u golygu dilynwch y drefn hon:
Yn y troednodyn:
Francis Rose, ‘The Evolution of the Species’ yn Andrew Burrows ac Alan Rodger (goln), Mapping the Law: Essays in Memory of Peter Birks (Gwasg Prifysgol Rhydychen 2006), 54.
Yn y llyfryddiaeth:
Rose, Francis ‘The Evolution of the Species’ yn Andrew Burrows ac Alan Rodger (goln), Mapping the Law: Essays in Memory of Peter Birks (Gwasg Prifysgol Rhydychen 2006).
Wrth gyfeirnodi erthygl dilynwch y drefn hon:
Mewn troednodyn, gydag union leoliad
JAG Griffith, 'The Common Law and the Political Constitution' (2001) 117 LQR 42, 64.
Yn y llyfryddiaeth:
Griffith, JAG. 'The Common Law and the Political Constitution' (2001) 117 LQR 42
Mae cydnabyddiaeth safonol i adroddiadau cyfraith yn cynnwys yr elfennau isod:
Ar gyfer achosion cyn 2001/2002, cynnwys:
Troednodyn:
[1] Johnson v Rea [1962] 1 QB 373
[2] Carlill v Carbolic Smoke Ball Co [1891] 1 QB 256, 262
Dylai achosion ar ôl 2001/2002 gynnwys yr elfennau isod:
Troednodyn:
[1] Dingmar v Dingmar [2006] EWCA Civ 942; [2007] Pennod109
[2] Callery v Gray [2001] EWCA Civ 1117, [2001] 1 WLR 2112 [42], [45]
Mewn tablau o achosion:
Os ydych yn defnyddio llawer o achosion, trefnwch hwy'n grwpiau yn ôl awdurdodaeth a'u gosod yn nhrefn yr wyddor yn ôl y gair arwyddocaol cyntaf yn y gydnabyddiaeth.
I gael rhagor o gyfarwyddyd ynglŷn â chydnabod cyfraith achosion yn cynnwys achosion na chawsant eu hadrodd a chyfraith yr UE, gweler Canllaw OSCOLA llawn, tt. 17-22
Os yw'r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y darllenydd wedi'i chynnwys yn eich testun, nid oes angen rhoi troednodyn ar gyfer y ddeddfwriaeth
Er enghraifft, ni fyddai angen troednodyn ar y frawddeg hon mewn traethawd am ei bod yn dangos yn glir pa ddeddfwriaeth a drafodir.
Mae Adran 63 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 yn sefydlu pwerau i symud personau sydd yn mynychu neu baratoi am rêf
Ond, os nad ydych yn nodi enw'r Ddeddf neu'r adran berthnasol wrth ysgrifennu, bydd angen rhoi troednodyn.
Mewn traethawd, byddai angen troednodyn ar y frawddeg isod:
Mae deddfwriaeth yn ymwneud â rêfs wedi dweud bod '"cerddoriaeth" yn cynnwys synau sy'n cael eu nodweddu'n llwyr neu'n bennaf gan olyniaeth o guriadau'n cael eu hailadrodd.' [1].
Dylai'r troednodiadau sy'n cydnabod deddfwriaeth gynnwys:
Troednodyn:
[1] Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 a 63 (1)(b)
Tabl o ddeddfwriaeth:
Rhestrwch y ddeddfwriaeth a ddefnyddir yn eich aseiniad yn nhrefn yr wyddor yn ôl gair arwyddocaol cyntaf y teitl byr.
Wrth gyfeirnodi gwe-ddalen dilynwch y drefn hon:
Yn y troednodyn:
Sarah Cole, ‘Virtual Friend Fires Employee’ (Naked Law, 1 Mai 2009) <http://www.nakedlaw.com/2009/05/index.html> cyrchwyd 19 Tachwedd 2009.
Yn y llyfryddiaeth:
Cole, Sarah, ‘Virtual Friend Fires Employee’ (Naked Law, 1 Mai 2009) <http://www.nakedlaw.com/2009/05/index.html> cyrchwyd 19 Tachwedd 2009.
Seiliwyd y cwis ar ddiwedd y canllaw hwn ar enghreifftiau a roddir yma ond oherwydd bod gwahanol fersiynau o Harvard rhaid ichi bob amser ddilyn y canllawiau a gewch gan eich adran.
Mae ‘Canllaw Prifysgol Aberystwyth i Ddull Cyfeirnodi Harvard ar gyfer Troseddeg’ ar gael ar Blackboard a dylai myfyrwyr Troseddeg ei gadw a chyfeirio ato.
Gall myfyrwyr Busnes ac Astudiaethau Gwybodaeth weld eu canllaw adrannol ynglŷn â chyfeirnodi ar Blackboard.
Dylai myfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gyfeirio at y canllawiau ar gyfer dull cyfeirnodi Harvard yn Ysgrifennu a Chyfeirnodi yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Gall myfyrwyr yr adran Addysg ddod o hyd i’w canllaw cyfeirnodi adrannol ar Blackboard.
Os ydych yn fyfyriwr Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, rhaid ichi ddefnyddio'r canllaw i ddull cyfeirnodi Havard (awdur-dyddiad) a gewch gan eich adran wrth gydnabod a cyfeirnodi ffynonellau yn eich gwaith ysgrifenedig.
Bydd myfyrwyr yr adran Addysg yn gallu gweld eu canllaw adrannol ynglŷn â chyfeirnodi ar Blackboard.
Defnyddiwch bob tab i weld enghreifftiau o ddulliau cywir i gydnabod gwahanol ffynonellau yn eich aseiniadau.
Wrth gyfeirnodi llyfr print, dilynwch y drefn hon:
Cydnabod o fewn y testun
(Affelt, 2019)
Mae (Affelt, 2019) yn awgrymu bod...
Rhestr Gyfeirnodi
Affelt, A. (2019). All that's not fit to print. Bingley: Emerald Publishing.
Cydnabod o fewn y testun
(Pears and Shields, 2013)
Yn ôl Pears a Shields (2013)...
Rhestr Gyfeirnodi
Pears, R. a Shields, G. (2013). Cite them right: the essential referencing guide. Llundain: Palgrave.
Noder fod yr enghraifft ganlynol yn dod o ganllawiau cyfeirnodi ar gyfer yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Er y bydd yr enghraifft yn ddefnyddiol i chi wrth gwblhau’r cwis, mae’n rhaid cofio y gallai adrannau eraill sy’n defnyddio arddull gyfeirnodi Harvard ddefnyddio 'et.al.' yn wahanol. Wrth ysgrifennu eich aseiniadau, mae’n bwysig cadw at y canllawiau a amlinellwyd yn llawlyfrau eich adran ar gyfeirnodi.
Os oes gan lyfr dri neu fwy o awduron, dim ond enw’r awdur cyntaf ddylai gael ei restru yn y testun ac yna dylid rhoi 'et al.', sy’n golygu 'ac eraill'. Fodd bynnag, dylai pob awdur gael ei restru yn y rhestr gyfeirnodi yn y drefn y cânt eu cydnabod yn y gwaith gwreiddiol.
Mae’n rhaid i chi roi atalnod llawn ar ddiwedd al. ac italeiddio: et al.
Cydnabod o fewn y testun
(Dym et al. 2009)
Cafodd hyn ei drafod gan Dym et al. (2009)…
Rhestr Gyfeirnodi
Dym, C.L., Little, P., Orwin, E.J., a Spjut, R.E. (2009). Engineering design: a project-based introduction. 3ydd arg. Hoboken, NJ: Wiley.
Efallai y byddwch yn dod ar draws llyfr heb awdur cydnabyddadwy. Os nad yw enw'r awdur neu'r corff awduro yn cael ei ddangos, cydnabyddwch y cyfeiriad trwy roi ei deitl a'r flwyddyn. Defnyddiwch yr ychydig eiriau cyntaf os yw'r teitl yn rhy hir.
I gynnwys:
Cydnabod o fewn y testun:
(Medicine in old age, 1985)
Honnir bod moddion wedi gwella'n sylweddol (Medicine in old age, 1985)…
Rhestr Gyfeirnodi:
Medicine in old age (1985) 2il arg. Llundain: Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA).
Os oes gan yr e-lyfr rifau tudalennau a manylion cyhoeddi, defnyddiwch y fformat ar gyfer cyfeirnodi llyfrau.
Dilynwch y drefn hon;
Gweler dull Harvard ar gyfer 'Llyfr' yn y tab blaenorol.
Os ydych yn cyfeirio at bennod o lyfr yn ôl cyfrannwr mewn llyfr wedi'i olygu, rydych yn cydnabod y cyfrannwr yn unig, nid y golygydd.
Wrth gyfeirnodi pennod neu adran o lyfr wedi'i olygu, dilynwch y drefn hon:
Cydnabod o fewn y testun
(Briassoulis, 2004)
Mae ymchwil gan Briassoulis (2004) yn amlygu'r ffaith...
Rhestr Gyfeirnodi
Briassoulis, H., (2004). 'Crete: endowed by nature, privileged by geography, threatened by tourism?' yn Coastal mass tourism: diversification and sustainable development in Southern Europe. Golygwyd gan Bill Bramwell, tt. 48-62. Clevedon: Channel View.
Os oes mwy nag un awdur wedi cyfrannu at ysgrifennu’r bennod, rhaid rhestru'r holl awduron yn y rhestr gyfeirnodi ar ddiwedd y gwaith e.e. Jones, A., Jones, B. a Jones, C., (2010) ac yn y blaen...
Wrth gyfeirnodi erthygl dilynwch y drefn hon:
Cydnabod o fewn y testun
(Zimerman, 2012)
Mae Zimerman yn cyflwyno trafodaeth fanwl ar yr adolygiad o'r llenyddiaeth ar bobl yr oes ddigidol (2012) ...
Rhestr Gyfeirnodi
Zimerman, M. (2012). 'Digital natives, searching behavior and the library', New Library World, 113(3/4), 174-201. doi: 10.1108/03074801211218552.
Wrth gyfeirnodi erthygl mewn cyfnodolyn print, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: Erthygl mewn cyfnodolyn
Cydnabod o fewn y testun
(Reimers and Eftestol, 2012)
Mae Reimers ac Eftestol (2012) wedi archwilio...
Rhestr Gyfeirnodi
Reimers, E., ac Eftestol, S. (2012). 'Response behaviors of Svalbard reindeer towards humans and humans disguised as polar bears on Edgeoya'. Arctic, Antarctic and Alpine Research, 44, 483-489.
Rhai pwyntiau i’w cofio wrth ddefnyddio et al.:
Enghraifft
Dangosodd Torrington et al. (2014)...
(Torrington et al. 2014)
Dyfynnu o fewn y testun
"Unig swyddogaeth y rwmen yw cynnal eplesiad y microbau." (Huws et al., 2013: t.14).
Rhestr Gyfeirnodi
Torrington, D., Hall, L., Taylor, S. ac Atkinson, C. (2014). Human resource management. 9fed argraffiad. Harlow: Pearson.
Wrth gyfeirnodi delwedd ar-lein, dilynwch y drefn hon:
Yr unigolyn sy'n gyfrifol am y ddelwedd. (Cyfenw, yna blaenlythrennau) NEU Awdur Corfforaethol.
Blwyddyn cyhoeddi. (mewn cromfachau)
Teitl/disgrifiad. (mewn print italig)
[fformat] (delwedd/ffotograff ac ati)
Ar gael: URL
(Cyrchwyd Diwrnod Mis Blwyddyn). (mewn cromfachau)
Enghraifft: Delwedd ar-lein
Cydnabod o fewn y testun:
(Rana, 2013)
Mae'r ddelwedd gan Rana (2013) yn darlunio...
Rhestr Gyfeirnodi:
Rana, S. (2013). Library Levitation. [delwedd] Ar gael: https://www.flickr.com/photos/saharranaphotography/13178176575/ [Cyrchwyd 23 Mawrth 2020].
Wrth gyfeirnodi delwedd mewn llyfr, dilynwch y drefn hon:
Os yw'r ddelwedd wedi'i chymryd o waith arall (e.e. llyfr) dylid ei thrin a'i chydnabod fel rhan o'r llyfr hwnnw (print). Cyfeirnodwch ddelwedd mewn llyfr trwy ddefnyddio'r fformat ar gyfer llyfr, ac ychwanegu rhif y dudalen i'r gydnabyddiaeth.
Enghraifft: Delwedd brint
Cydnabod o fewn y testun:
(Campbell et al, 2015)
Mae Campbell et al. (2015) wedi dangos yn glir sut mae cell planhigyn yn gweithredu.
Sylwer: Pe byddech yn cynnwys hyn yn eich traethawd, byddai'r capsiwn a'r gydnabyddiaeth o dan y ddelwedd yn edrych yn debyg i hyn:
Ffigur 7. Gweithrediadau a llif gwybodaeth enetig o fewn i gell planhigyn (Campbell et al., 2015, tt. 282-283).
Rhestr Gyfeirnodi:
Campbell, N.A., Reece, Jane B., Urry, Lisa A., Cain, Michael L., Wasserman, Steven A., Minorsky, Peter V., Jackson, Robert B. (2014). Biology : a global approach. Degfed argraffiad. Boston: Pearson.
Mae dogfen ar y we yn gallu bod yn adroddiad llywodraeth neu ddogfennau polisi. Wrth gyfeirnodi dogfen ar-lein, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: dogfen ar-lein
Cydnabod o fewn y testun:
(Munafò, 2019)
Fel y dywed Munafò (2019)...
Rhestr Gyfeirnodi:
Munafò, M. (2019). Scientific Ecosystems and Research Reproducibility. [Ar-lein] Royal London, Society of Biology. Ar gael: https://www.rsb.org.uk/policy/groups-and-committees/asg/asg-membership/animal-science-meetings/animal-science-meeting-2019-report (Cyrchwyd: 23 Mawrth 2019).
Wrth gyfeirnodi eich gwaith eich hun, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: Gwaith y myfyriwr ei hun
Cydnabod o fewn y testun:
(Smith, 2019)
Roedd yr aseiniad a ysgrifennwyd yn edrych ar ansawdd dŵr (Smith, 2018) gydag effeithiau amgylcheddol...
Rhestr Gyfeirnodi:
Smith, S. (2019). ‘Water quality in Welsh rivers', MM56340: Business Impacts. Tref y Brifysgol. Traethawd heb ei gyhoeddi.
Wrth gyfeirnodi blog, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: Blog
Cydnabod o fewn y testun:
(Marikar, 2018)
Awgrymodd Marikar (2018) ...
Rhestr Gyfeirnodi:
Marikar, S. (2018). ‘The First Family of Memes', The New Yorker, 1 Hydref. [Blog]. Ar gael: https://www.newyorker.com/magazine/2018/10/01/the-first-family-of-memes (Cyrchwyd: 22 Ionawr 2019).
Wrth gyfeirnodi gwe-ddalen, a gynhyrchwyd gan sefydliad neu unigolyn, dilynwch y drefn hon:
Cydnabod ffynhonnell yn y testun
(Asiantaeth yr Amgylchedd, 2019)
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd (2019) yn nodi mai...
Rhestr Gyfeirnodi
Asiantaeth yr Amgylchedd (2019). Swim healthy. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/publications/swim-healthy-leaflet/swim-healthy (Cyrchwyd: 16 Ionawr 2020).
Yn lle'r awdur, rhowch y teitl.
Cydnabod ffynhonnell yn y testun
Mae prosiect ailwylltio (2019) wedi ennyn ymateb ...
Rhestr Gyfeirnodi
Farmers 'misunderstand' Wales rewilding project. Ar gael: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-49666610 (Cyrchwyd: 23 Medi 2019).
Enghraifft: Gwe-ddalen (dim dyddiad)
Os nad ydych yn gallu gweld dyddiad cyhoeddi ar we-ddalen, defnyddiwch d.d. (d. d. = dim dyddiad wedi’i nodi yn y ffynhonnell).
Cydnabod o fewn y testun
(Allen d.d.)
Rhestr Gyfeirnodi
Allen, J. d.d. No Shopping for A Month: What I Learned From My Month in Exile. Ar gael: https://www.stayathomemum.com.au/my-money/money-saving-tips/no-shopping-for-a-month-what-i-learned-from-my-month-in-exile/ (Cyrchwyd: 24 Mawrth 2020).
Wrth gyfeirnodi erthygl o bapur newydd ar-lein, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: erthygl papur newydd
Cydnabod o fewn y testun:
(Ough, 2015)
Mae Ough (2015) yn holi...
Rhestr Gyfeirnodi:
Ough, T. (2014). 'It's so easy to focus on what you can't do after a stroke, rather than what you can'. The Times . 31 Rhagfyr. Ar gael: https://link.gale.com/apps/doc/GYEXJD027471504/TTDA?u=uniaber&sid=TTDA&xid=f84faf80 (Cyrchwyd 23 Mawrth 2019).
Wrth gyfeirnodi erthygl o bapur newydd mewn print, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: erthygl papur newydd mewn print
Cydnabod o fewn y testun:
(Browne, 2010)
Mae Browne (2010) yn crybwyll...
Rhestr Gyfeirnodi
Browne, R. (2010). 'This brainless patient is no dummy'. Sydney Morning Herald, 21 Mawrth, 45.
Cydnabod o fewn y testun
Nododd IBISWorld (2018) broblemau yn y farchnad i'r diwydiant coffi...
Rhestr Gyfeirnodi
IBISWorld (2018) 'Sporting Goods Manufacturing in the UK'. Ar gael: https://clients1.ibisworld.co.uk/reports/uk/industry/default.aspx?entid=2120 (Cyrchwyd 2 Tachwedd 2019).
Mae Refinitiv Workspace yn gronfa ddata ariannol.
Dilynwch y drefn hon:
• Sefydliad cyhoeddi
• Blwyddyn cyhoeddi/diweddarwyd ddiwethaf (mewn cromfachau crwn) dyma'r flwyddyn gyfredol yn aml
• Teitl y detholiad (mewn dyfynodau sengl) neu defnyddiwch y pennawd ar frig y sgrin sy'n dangos beth yw'r data neu fel arall ysgrifennwch eich chwiliad o sut y cawsoch y data e.e. 'Chwilio canlyniadau am...'
• Ar gael yn: URL (os ydyw ar gael)
• (Cyrchwyd: dyddiad)
Cydnabod o fewn y testun
Nododd Refinitiv (2023) gynnydd o 50% yn y farchnad ar gyfer y diwydiant coffi....
Rhestr Gyfeirnodi
Refinitiv (2023) 'Sporting Goods Manufacturing in the UK'. Ar gael yn: https://clients1.ibisworld.co.uk/reports/uk/industry/default.aspx?entid=2120 (Cyrchwyd: 2 Tachwedd 2022).
Mae llawer o wahanol fersiynau o fapiau. Edrychwch trwy'r enghreifftiau canlynol a dilyn y drefn a roddir.
Map print
Map Arolwg Ordnans
Enghraifft:
Cydnabod o fewn y testun:
(Arolwg Ordnans, 2016)
Rhestr Gyfeirnodi:
Arolwg Ordnans (2016). Aberystwyth a Machynlleth. Arg C. 135, 1:50 000. Cyfres Landranger. Southampton: Arolwg Ordnans.
Mapiau ar-lein
Digimap
Enghraifft:
Cydnabod o fewn y testun
(Arolwg Ordnans, 2011)
Rhestr Gyfeirnodi
Arolwg Ordnans, (2011). Prifysgol Aberystwyth: Campws Gogerddan, 1:1.500. EDINA Digimap. [ar-lein] Ar gael: http://edina.ac.uk/digimap/ (Cyrchwyd 31 Awst 2011).
Mapiau Google Earth
Enghraifft:
Cydnabod o fewn y testun
(Google Earth, 2008)
Rhestr Gyfeirnodi
Google Earth 6.0. (2008). Tŷ Hylands a'r ystadau 51°42'39.17"N, 0°26'11.30"W, codiad tir 60M. Map 3D, haen data'r adeiladau [ar-lein] Ar gael: http://www.google.com/earth/index/html (Cyrchwyd 23 Medi 2019).
Wrth gyfeirnodi safonau, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft: Safonau
Cydnabod o fewn y testun:
(BSI 8001, 2017)
Mae BSI 8001 (2017) yn dweud ...
Rhestr gyfeirnodi:Y Sefydliad Safonau Prydeinig (British Standards Institution) (2017). BS 8001: Framework for implementing the principles of the circular economy in organizations: Guide, Llundain: Y Sefydliad Safonau Prydeining.
Pwysig: os mai ar-lein yr ydych yn gweld y safonau, rhaid ychwanegu'r canlynol ar ôl y teitl:
Er enghraifft:
British Standards Institution (2005) BS EN ISO 17707: Footwear. Test Methods for Outsoles. Flex Resistance, British Standards, [Ar-lein]. Ar gael: https://bsol-bsigroup-com. libezproxy.open.ac.uk/en/Bsol-ItemDetail-Page/?pid=000000000030105824 (Cyrchwyd 10 Mai 2017).
Wrth gyfeirnodi papurau cynhadledd, dilynwch y drefn hon:
Enghraifft
Cydnabyddiaethau o fewn y testun:
(Jones, 1994)
Mae Jones (1994) yn dweud ...
Rhestr gyfeirnodi:
Jones, J. (1994). ‘‘Polymer blends based on compact disc scrap’, Proceedings of the Annual Technical Conference – Society of Plastics Engineers. San Francisco, 1–5 May. Brookfield, CT: Society of Plastics Engineers, 2865–7
Papurau cynadleddau ar-lein
Enghraifft
Cydnabyddiaeth o fewn y testun
(Jones, 1999)
Mae Jones (1994) yn dweud ...
Rhestr gyfeirnodi
Jones, D. (1999) ‘Developing big business’, Large firms policy and research conference. Prifysgol Birmingham, 18-19 Rhagfyr. Leeds: Sefydliad Busnesau Mawr (Institute for Large Businesses). [Ar-lein] Ar gael: http://www.bigbusinesses.co.uk/jonesd (Cyrchwyd: 15 Ebrill 2018).
I gyfeirnodi traethawd ymchwil neu draethawd hir, dilynwch y drefn hon:
Os ydych yn ei ddarllen ar-lein, ychwanegwch:
Enghraifft:
Cydnabyddiaeth o fewn y testun:
(Brennan, 1993)
Mae ymchwil gan Brennan (1993) yn awgrymu bod...
Rhestr Gyfeirnodi:
Brennan, S.M. (1993) Aspects of Equine Pituitary Abnormality. MSc. Prifysgol Aberystwyth.
Cynhyrchwyd disgrifiad manwl yn dangos sut i ddefnyddio 8fed argraffiad yr MLA gan yr Ysgol Gelf, i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr yr adran honno. Mae'r dudalen hon yn rhoi enghreifftiau o ffynonellau sy'n cael eu cydnabod yn gyffredin.
Seiliwyd y cwis MLA ar ddiwedd y canllaw hwn ar daflen arddull yr Ysgol Gelf.
Os ydych yn fyfyriwr Ieithoedd Modern, rhaid ichi ddefnyddio'r canllaw cyfeirnodi a gewch gan eich adran wrth gydnabod a chyfeirnodi ffynonellau yn eich gwaith ysgrifenedig.
Dylai ffynonellau sy'n cael eu cydnabod yn y testun gynnwys enw'r awdur a rhif tudalen. Peidiwch â chynnwys dyddiad na 'tt.'.
Creu rhestr y Gweithiau a Gydnabyddir:
Wrth gyfeirnodi llyfr dilynwch y drefn hon:
Rhestr y gweithiau a gydnabyddir:
Cruise, Colin. Pre--Raphaelite Drawing. Thames & Hudson, 2011
Heuser, Harry. Immaterial Culture: Literature, Drama and the American Radio Play, 1929--1954. Peter Lang, 2013
Meyrick, Robert. John Elwyn. Ashgate, 2000
Martineau, Jane, et al. Shakespeare in Art. Merrell, 2003.
Meyrick, Robert, a Harry Heuser. The Prints of Stanley Anderson RA, 2015
Mae cydnabyddiaethau o fewn y testun yn dilyn yr un patrwm â chydnabyddiaethau llyfr a argraffwyd, a dylent gynnwys enw'r awdur a chyfeirnod tudalen. Peidiwch â chynnwys dyddiad na 'tt.'.
Creu rhestr y Gweithiau a Gydnabyddir:
Wrth gyfeirnodi e-lyfr dilynwch y drefn hon:
Rhestr y Gweithiau a gydnabyddir:
Harvey, John. Image of the Invisible : the Visualization of Religion in the Welsh Nonconformist Tradition. Gwasg Prifysgol Cymru, 1999.http://search.ebscohost.com/login.aspx?direct=true&db=nlebk&AN=27384&site=ehost-live. Cyrchwyd 30 Ebrill 2020.
Wrth gyfeirnodi pennod neu adran o lyfr wedi'i olygu, dilynwch y drefn hon:
Cydnabod o fewn y testun:
(Harvey 55)
(Heuser 29)
Rhestr y gweithiau a gydnabyddir:
Harvey, John. “The Ghost in the Machine: Spirit and Technology.” Ashgate Research Companion to Paranormal Cultures, golygwyd gan Olu Jenzen a Sally R. Munt, Routledge, 2013, tt. 51-64.
Heuser, Harry. “‘Please don’t whip me this time’: The Passions of George Powell of NantEos.” Queer Wales, golygwyd gan Huw Osborne, G P Cymru, 2016, tt. 45-64.
Sylwer: Rhowch ystod lawn y tudalennau i'r traethawd/erthygl. Yn eich traethawd, dim ond y dudalen/tudalennau lle daw'r dyfyniad neu aralleiriad ddylid eu nodi. Awdur y traethawd a enwir yn gyntaf, ac mae golygyddion y llyfr sy'n cynnwys y traethawd yn cael eu henwi ar ôl teitl y llyfr.
Wrth gyfeirnodi erthygl mewn cyfnodolyn, yn rhestr y gweithiau a gydnabyddir dylid cynnwys:
Enghraifft: erthygl mewn cyfnodolyn (print)
Heuser, Harry. “Bigotry and Virtue: George Powell and the Question of Legacy.” New Welsh Reader, rhif 110, Gaeaf 2015, tt. 18-29.
Os ydych wedi defnyddio cronfa ddata ar-lein yn hytrach na llyfrgell megis Hugh Owen i adalw'r ffynhonnell, nodwch y gronfa ddata, yr URL/DOI/dolen barhaol, a'r dyddiad y cafodd ei gyrchu (gweler yr enghraifft isod). Y dyddiad cyrchu yw'r dyddiad y cafodd yr erthygl ei hadalw.
Enghraifft: erthygl mewn cyfnodolyn (cyrchwyd yn electronig)
Ward, Maryanne C. “A Painting of the Unspeakable: Henry Fuseli’s The Nightmare and the Creation of Mary Shelley’s Frankenstein.” Journal of the Midwest Modern Language Association, cyf. 33, rhif 1, 2000, tt. 20-31. JSTOR, www.jstor.org/ stable/1315115. Cyrchwyd 30 Medi 2016.
Wrth gyfeirnodi gweithiau celf yn rhestr y gweithiau a gydnabyddir dylech gynnwys:
Enghreifftiau:
Croft, Paul. Minokami Idol. Lithograff ar bapur lliain gwasgedig llyfn, 1993, Oriel ac Amgueddfa'r Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth.
Taeuber-Arp, Sophie. Tête Dada. Pren wedi'i baentio gyda mwclis gwydr ar wifren, 1920, Amgueddfa Celf Fodern (Museum of Modern Art), Efrog Newydd.
Whall, Miranda. Di-deitl. (Birds on my Head #2). Ysgythriad Almaenig ar bapur dyfrlliw, 2011, Shifting Subjects: Contemporary Women Telling the Self through the Visual Arts, Oriel Abbey Walk, Grimsby, 2 Medi-31 Hydref 2015.
Sylwer: Gellir hepgor y cyfrwng yn rhestr y Gwaith a Gydnabyddir os yw'n cael ei grybwyll yn y traethawd neu ei nodi mewn capsiwn ar gyfer atgynhyrchiad o'r gwrthrych dan sylw. Os yw darn o waith celf/gwrthrych celf weledol yn cael ei drafod mewn traethawd, dylid nodi'r cyfrwng.
Wrth gyfeirnodi gwe-ddalen, a gynhyrchwyd gan sefydliad neu unigolyn, dilynwch y drefn hon:
Cydnabod o fewn y testun:
("Landscape Painting in Chinese Art.")
Rhestr y gweithiau a gydnabyddir:
“Landscape Painting in Chinese Art.” Heilbrunn Timeline of Art History. Amgueddfa Gelf Fetropolitan Efrog Newydd / Metropolitan Museum of Art, www.metmuseum.org/toah/hd/clpg/hd_clpg.htm. Cyrchwyd 20 Medi 2016.
(Nodwch: cymerwyd yr wybodaeth hon o weithdy cyfeirnodi y modiwl CY13120 Sgiliau Astudio Iaith a Llên)
Dyma’r dull cyfeirio a argymhellir yn yr Adran Gymraeg.
Y patrwm cyffredinol wrth gyfeirio at ffynhonnell yw
Gwyn Thomas, Y Traddodiad Barddol (Caerdydd, 1976), t. 60 [os un dyfyniad ar un dudalen a geir] neu tt. 92-93 [os oes dyfyniad ar fwy nag un dudalen].
Wrth gyfeirio at y ffynhonnell y tro cyntaf, rhaid cynnwys y manylion cyhoeddi llawn. Yr ail dro, mae cyfenw’r awdur a theitl y llyfr yn ddigonol, e.e.,
Thomas, Y Traddodiad Barddol, t. 60.
B. F. Roberts a Morfydd Owen (goln), Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban (Caerdydd, 1996).
Yn yr ail gyfeiriad, gellir defnyddio teitl byr y llyfr yn unig:
Roberts ac Owen (goln), Beirdd a Thywysogion, t. 180.
Gruffydd Aled Williams, ‘Owain Cyfeiliog: Bardd-Dywysog?’, yn B. F. Roberts a Morfydd Owen (goln), Beirdd a Thywysogion: Barddoniaeth Llys yng Nghymru, Iwerddon a’r Alban (Caerdydd, 1996), tt. 180-201.
A’r ail gyfeiriad at yr un erthygl:
Williams, ‘Owain Cyfeiliog: Bardd-Dywysog?’, t. 187.
Mererid Hopwood, ‘Waldo: Bardd Plant Cymru’, Llên Cymru, 38 (2015/16), 75-94.
A’r ail gyfeiriad at yr un erthygl:
Hopwood, ‘Waldo: Bardd Plant Cymru’, 80.
Os ydych yn cynnwys dyfyniad byr o rai geiriau neu un frawddeg, gallwch ei gynnwys yng nghorff y traethawd ei hun a rhoi dyfynodau sengl o’i gwmpas,
Ym marn Thomas Parry, llwyddodd y genhedlaeth o feirdd a oedd yn rhan o gylch Lewis Morris i ‘achub barddoniaeth Gymraeg mewn amser argyfyngus yn ei hanes’.[rhif troednodyn] Llwyddwyd i ddangos y gallai barddoniaeth fod yn gyfrwng i drafod pynciau gwahanol ac adlewyrchu bywyd a theimladau pobl.
[troednodyn: Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1979), t. 215.]
Ond os ydych yn dymuno cynnwys dyfyniad sy’n fwy na phedair llinell, dylech ei fewnosod (indent) mewn bloc a pheidio â chynnwys dyfynodau. Mae hyn yn wir am ryddiaith ac am farddoniaeth,
Fel y dywedodd Thomas Parry:
Teg yw dywedyd i’r to o feirdd a gysylltir â Lewis Morris achub barddoniaeth Gymraeg mewn amser argyfyngus yn ei hanes. Dangosasant fod i awen waith heblaw moli boneddigion, a heblaw difyrru a dysgu gwerin hefyd. [rhif troednodyn]
Os ydych yn dyfynnu cwpled, gellir gwneud hynny yng nghorff y gwaith,
Enghraifft o ormodiaith a geir ar ddiwedd y gerdd pan ddywed y bardd y byddai peidio â gweld y ferch yn achosi ei farwolaeth: ‘Oni chaf fwynaf annerch, / Fy nihenydd fydd y ferch.’1
[troednodyn:] 1. Dafydd Johnston et al (goln), Cerddi Dafydd ap Gwilym (Caerdydd, 2010), cerdd 45, llinellau 29-30.
Os ydych yn dyfynnu mwy na chwpled, yna mewnosodwch y dyfyniad fel bloc fel hyn:
Yr wylan deg ar lanw, dioer,
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fel haul, dyrnfol heli.1
[troednodyn:] 1. Johnston et al (goln), Cerddi Dafydd ap Gwilym, cerdd 45, llinellau 1-4.
Os ydych yn cyfeirio at yr un llyfr neu ffynhonnell fwy nag unwaith, fel yn yr achos uchod, gallwch ddefnyddio dull byrrach o gyfeirio yr ail dro, sef cynnwys cyfenw’r awdur a theitl y ffynhonnell heb nodi’r cyfeiriad llawn yn cynnwys lleoliad a dyddiad cyhoeddi.
Rhoi enw a chyfeiriad y wefan a dyddiad cyrchu neu ddarllen deunydd ar y wefan.
http://www.seintiaucymru.ac.uk, cyrchwyd / darllenwyd Mai 2019.
http://www.dafyddapgwilym.net, cyrchwyd / darllenwyd Mehefin 2019.
http://geiriadur.ac.uk, cyrchwyd / darllenwyd Awst 2019.
http://www.gutorglyn.net cyrchwyd / darllenwyd Medi 2019.
Yr egwyddor yw rhestru popeth defnyddiol a ddefnyddiwyd gennych wrth baratoi’r traethawd, yn llyfrau, erthyglau, cyhoeddiad papur ac electronig, gan gynnwys gwefannau.
Yr hyn sydd ei angen yw rhestru manylion cyhoeddi’r gweithiau yn ôl cyfenw’r awdur yn nhrefn yr wyddor. Os oes mwy nag un gwaith gan yr un awdur yn cael ei ddefnyddio, yna rhestrwch nhw yn nhrefn eu cyhoeddi.
Bowen, D. J., ‘Dafydd ap Gwilym a Cheredigion’, Llên Cymru, 14 (1983-4), 163-209.
Bowen, D. J. (gol.), Gwaith Gruffudd Hiraethog (Caerdydd, 1990).
Roberts, Enid, ‘Teulu Plas Iolyn’, Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, 13 (1964), 38-110.
Roberts, Enid, Y Beirdd a’u Noddwyr ym Maelor (Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1977).