Mae’n bwysig sicrhau eich bod yn cyfeirio’n gywir a chyson. Edrychwch ar y ganllawiau arddull wahanol am bob pwnc https://www.aber.ac.uk/en/aberskills/academic-practice/#departmental-reference-guides a’r adnoddau eraill sydd ar gael isod.
Cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc os oes angen unrhyw gyngor neu help pellach arnoch: https://libguides.aber.ac.uk/c.php?g=660471
Cwblhewch y cwrs ar-lein ‘Osgoi Llên-ladrata’
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar: https://plagiarism.epigeum.com
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost @aber.ac.uk yn llawn wrth gofrestru.
Dewiswch gyfrinair.
Byddwch yn cael e-bost gan Epigeum i ysgogi eich cofrestriad (efallai y bydd angen i chi gopïo a gludo’r ddolen i’ch porwr).
Mewngofnodwch i Epigeum gyda’ch cyfeiriad e-bost llawn a’r cyfrinair yr ydych wedi’i osod. Pan fyddwch wedi mewngofnodi’n llwyddiannus bydd Epigeum yn dangos y cyfarchiad 'Hi'.
Cliciwch ar Cyrsiau Ar-lein i ddod o hyd i’r cwrs Osgoi Llên-ladrata.
Dilynwch y Cwestiwn Cyffredin os oes arnoch angen rhagor o gymorth: https://faqs.aber.ac.uk/index.php?search=2762
Chwiliwch Primo i ddod o hyd i deitlau pellach neu porwch trwy’r Casgliad Astudio Effeithiol ar Lawr F Hugh Owen.
Cyrsiau israddedig rhad ac am ddim: https://www.aber.ac.uk/en/student-learning-support/undergrad/
Cyrsiau uwchraddedig rhad ac am ddim: https://www.aber.ac.uk/en/student-learning-support/postgrad/