Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: Casgliadau

Myttin da!

Myttin da! Lloyd Roderick ov vy, lyverveydh testen rag Kembrek & Studhyansow Keltek. Ma’n folednow ma ow provia kedhlow dh’agas gweres gul devnydh orth agan asnodhow rag agas testen. Mars eus qwestyons, kestavewgh genam mar pleg, th’erov vy obma rag agas gweres!

Casgliadau teledu a radio

Mae gan y llyfrgell mynediad i Box of Broadcasts: archif sy'n cynnwys dros 60 o sianeli teledu a radio.  

Isod cewch mynediad i ddetholiad o raglenni Cymraeg a Chymreig dewiswyd gan lyfrgellydd pwnc y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Am wybodaeth myediad oddi-ar y campws, gweler gwybodaeth Mynediad oddi ar y Campws, isod.

Mynediad oddi ar y Campws

Mae ein casgliadau o gyfnodolion electronig, cronfeydd data ac e-lyfrau yn parhau i fod ar gael i chi 24/7 ar ac oddi ffwrdd o’r campws.

Cyn i chi ddechrau unrhyw chwilio oddi ar y campws:

mewngofnodwch i Primo

undefined

Rydych chi'n gwybod eich bod wedi mewngofnodi'n llwyddiannus os yw'ch enw'n arddangos ar ochr dde uchaf eich sgrin.

Rydych bellach wedi'ch dilysu i gael mynediad at adnoddau electronig tanysgrifiedig Prifysgol Aberystwyth. Os byddwch chi'n cau'ch porwr, bydd angen i chi fewngofnodi i Primo eto i ail-ddilysu.

I gael rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio e-adnoddau oddi ar y campws gweler ein Cwestiynau a Holir yn Aml rhif 163. (Saesneg yn unig, aros am gyfieithiad). 

Podlediad Clera

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury). 

Casgliadau Prifysgol Aberystwyth

Llyfrau astudiaethau celtaidd

Mae casgliadau'r Brifysgol yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys traethodau a phapurau blaenorol. Cewch fanylion am ein holl gasgliadau yma.

Gall yr hyn sy'n dilyn fod o wybodaeth benodol i fyfyrwyr Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:

  • Thomas and Mair Jones collection
  • Private Press books
  • Rare Books y mae’n cynnwys nifer o Feiblau Cymraeg prin megis Y Bibl Cyssegr-lan BS308 ac eitemau prin eraill, er enghraifft Llyfr y Resolusion - Dr I.D. Davies BV4500.P2
  • Language Learning Materials: Y mae gan y Llyfrgell nifer o gyrsiau i roi cymorth i unigolion ddysgu rhai o’r ieithoedd Celtaidd.

Catalogau defnyddiol

 

copac

Copac

Catalog sy’n cynnwys casgliadau holl llyfrgelloedd cenedlaethol y DU, llyfrgelloedd nifer o Brifysgolion a llyfrgelloedd arbennigol megis y Wellcome Trust a’r Llyfrgell Celf Cenedlaethol, Amgueddfa V&A.