Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: Llyfrau ac e-lyfrau

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo

Llyfrau yn y Llyfrgell

I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.

Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth. 

Llyfr ar fenthyg

Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.

Ad-alw llyfr

Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw  y fan yma. 

 

Mynediad Ar-lein

Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:

Lleoliadau’r Silffoedd

Prif adrannau yn y Casgliad Celtaidd (rhagddodir gyda CELT):

CB206 Hil a Diwylliant Celtaidd
DA700–745 Hanes Cymru
E184.W4 Cymry yn Unol Daleithiau America
F2936 Cymry yn Y Wladfa
G Daearyddiaeth / Anthropoleg
H Gwyddorau Cymdeithasol
J Gwyddorau Gwleidyddol
K Cyfraith / L Addysg
M Cerddoriaeth
N Celfyddydau Cain
PA Astudiaethau Clasurol
PB Ieithoedd Celtaidd a'u Llenyddiaeth
Z Llyfryddiaeth

E-lyfrau

Mae Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o e-lyfrau a chasgliadau o e-lyfrau.

Mae gennym filoedd o e-lyfrau ac mae ein casgliad yn tyfu'n barhaus. Gallwch gael mynediad i ddarllen e-lyfr drwy Primo. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Testun Llawn Ar-lein yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer elyfrau yn unig.  

Os oes gennym y llyfr mewn fersiwn electronig, bydd y cofnod ar Primo yn datgan Mynediad arlein.

Ymwelwch â'r dudalen yma am fwy o wybodaeth a gweld cyfarwyddiadau ar:

Cronfeydd data allweddol o e-lyfrau

Dyma restr o gronfeydd data allweddol o e-lyfrau. 

FAQ - Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

e-Lyfrau nodweddiadol

Sut i ddefnyddio e-lyfrau

 

Sut i gael fynediad i e-lyfrau

Mae'r dolen uchod yn arwain i adran Cwestiynau a Holir yn Aml ar dudalennau Gwasanaethau Gwybodaeth, ac yn rhoi gwybodaeth am sut i ddefnyddio llyfrau electronig yn ein casgliad.