Neidio i'r Prif Gynnwys
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: Cyflwyniad

Cyflwyniad

Helo! Mae eich Llyfrgellwyr Pwnc yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.

Gallwn eich helpu gyda...

  • dod o hyd i lyfrau ac erthyglau priodol ar gyfer eich traethodau, adolygu ac ymchwil.
  • ​cyfeirnodi a chyfeirio
  • darparu hyfforddiant ar sgiliau gwybodaeth a chynnig cymorth cynhwysfawr

Cysylltu

Cysylltwch â'r Llyfrgellwyr Pwnc gydag unrhyw ymholiadau

llyfrgellwyr@aber.ac.uk

01970 621896

Blog y Llyfrgellwyr

Tanysgrifiwch i Blog y Llyfrgellwyr i dderbyn newyddion am weithgareddau'r Llyfrgellwyr Pwnc

Loading ...

Dilynwch ni

Dilynwch Gwasanaethau Gwybodaeth

 

 

Cyfryngau cymdeithasol

 

Blogiau

Desg Llyfrgell a TG

Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael drwy ymweld â Lefel D, Llyfgell Hugh Owen, sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost. 

Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/ 

Llyfrau gan staff adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Dod o hyd i adnoddau testun llawn: defnyddio'r estyniad porwr LibKey Nomad

Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr sy'n darparu dolenni awtomatig i erthyglau testun llawn wrth ichi wneud ymchwil a dod ar draws llenyddiaeth ar y we.

Mae LibKey Nomad yn chwilio ein daliadau Llyfrgell a data mynediad agored i ddod o hyd i'r fersiwn orau o'r erthygl tra byddwch chi'n chwilio'r we ac yn dod ar draws llenyddiaeth.

libkey nomad logo

Lawrlwytho LibKey Nomad yma

Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio.

  • Ewch i’r dudalen lawrlwytho ac ychwanegwch yr estyniad at eich porwr o ddewis
  • Ar ôl ei osod, bydd gofyn ichi ddewis eich sefydliad. Dewiswch Prifysgol Aberystwyth

libkey nomad logo

Download LibKey Nomad here

Pan fyddwch chi'n glanio ar dudalen gydag erthygl sydd ar gael i'w lawrlwytho, bydd baner LibKey Nomad yn ymddangos ar waelod eich sgrin. Cliciwch i lawrlwytho'r PDF. Os ydych chi oddi ar y campws, bydd angen i chi fewngofnodi trwy VPN yn gyntaf.


Os ydych chi'n defnyddio'r cronfeydd data academaidd PubMed a Scopus, mae LibKey yn darparu nodweddion ychwanegol. Ar y dudalen canlyniadau chwilio gallwch weld dolenni i ddogfennau PDF o erthyglau a dolenni i weld yr holl erthyglau mewn rhifyn cyfnodolyn trwy BrowZine.