Helo, Lloyd Roderick ydw i, y llyfrgellydd pwnc ar gyfer yr adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Diben y dudalen hon yw eich helpu i gael y gorau o’n hadnoddau ym maes Cymraeg a cheltaidd. Mae croeso i chi gysylltu â mi os oes gennych unrhyw gwestiynau. Rydw i yma i’ch helpu!
Arddangosir cylchgronnau cyfredol yn yr ieithoedd Celtaidd yn agos i'r Casgliad Celtaidd
Cronfa-ddata testun-cyflawn sy’n chwilio papurau newyddion rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang.
Dros 60 o sianeli teledu a radio. Ar gael ar campws ac wrth ddefnyddio VPN oddi ar y campws.
Cronfa ddata sy’n cynnwys rhifyn digidol llawn o bapur newydd The Times (Llundain), o 1785- 1985. Mae’n cynnwys pob tudalen lawn o bob rhifyn o’r papur newydd, gan gynnwys penawdau, erthyglau a delweddau o’r holl gynnwys – tudalennau blaen, erthyglau golygyddol, hysbysiadau am enedigaethau a marwolaethau, hysbysebion ayyb.
Gwasanaethau sy'n anfon neges pan fydd unrhyw un o'r gwefannau rydych chi wedi eu dewis yn newid. Weithiau, gallwch derbyn rhybuddion yn unig pan fo deunydd newydd wedi'i ychwanegu yn hytrach na phryd y caiff hen ddeunydd ei dynnu. Efallai y bydd angen i chi fewngofnodi a chofrestru i allu derbyn rhybuddion.
Gwasanaeth hysbysebu tablau cynnwys cyfnodolion y Llyfrgell Prydeinig. Holwch eich llyfrgellydd pwnc am fwy o wybodaeth.