Dia dhaoibh. Is mise Lloyd Roderick, leabharlannaí acadúil le haghaidh Roinn na Breatnaise agus an Léinn Cheiltigh. Is é údar an leathanaigh seo ná cúnamh a thabhairt daoibh a mhór a dhéanamh de na hacmhainní atá againn i réimse na Breatnaise agus na Ceiltise. Má tá ceist ar bith agaibh orm, ná bíodh eagla oraibh dul i dteangbháil liom. Táim anseo le cabhrú libh!
Adnoddau Electronig
Gellir dod o hyd i bob adnodd electronig ar gyfer Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd drwy Primo lle gallwch ddarganfod adnoddau unigol neu groes-chwilio nifer ohonynt ar yr un pryd. Mae Primo yn cynnwys prif adnoddau megis cronfeydd data o ddyfyniadau, e-gylchgronau ac e-lyfrau, gwefannau dewisol, mynedfeydd pwnc, adnoddau data a chyfryngau, newyddion, deunyddiau cyfeirnod a chatalogau llyfrgell. Dyma detholiad o gronfeydd defnyddiol i feysydd y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Corpws Hanesyddol yr Iaith Gymraeg 1500-1850 - casgliad o destunau Cymraeg ar ffurf electronig o’r cyfnod 1500-1850.. Mae'r testunau yn cynnwys dramâu, llythyrau personol, baledi, rhyddiaith wleidyddol (ddidactig), ysgrythur, naratif hanesyddol, naratif rhyddiaith, a naratif grefyddol.
Cylchgronnau Cymru - Mae Cylchgronau Cymru'n darparu mynediad i gylchgronau'n ymwneud â Chymru a gyhoeddwyd rhwng 1735-2007. Mae'r teitlau'n amrywio o gyhoeddiadau academaidd a gwyddonol i gylchgronau llenyddol a phoblogaidd.
Y Bywgraffiadur Cymreig - Mae’r wefan hon yn cynnwys dros bum mil o fywgraffiadau cryno sy’n cyflwyno Cymry a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach.
Bibliography of Irish Linguistics and Literature - Cynhyrchwyd gan School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies.
CELT Corpus of Electronic Texts - cronfa data diwylliant hanesyddol a llenyddol Gwyddelig. Cronfa sy'n cynnwys dros 18.5 miliwn o eiriau mewn 1620 dogfen hanesyddol a chyfoes o sawl pwnc, gan gynnwys llenyddiaeth, meddyginiaeth, a'r celfyddydau.
Detholiad o gyfnodolion yn ein casgliad CELT:
Cewch gwybodaeth academaidd pwysig . Gallwch canfod am erthyglau academaidd gan ddefnyddio botwm 'Erthyglau & mwy' wrth chwilio Primo.