Mae LibKey Nomad yn estyniad porwr sy'n darparu dolenni awtomatig i erthyglau testun llawn wrth ichi wneud ymchwil a dod ar draws llenyddiaeth ar y we.
Mae LibKey Nomad yn chwilio ein daliadau Llyfrgell a data mynediad agored i ddod o hyd i'r fersiwn orau o'r erthygl tra byddwch chi'n chwilio'r we ac yn dod ar draws llenyddiaeth.
Mae LibKey Nomad yn hawdd i’w ddefnyddio.
Pan fyddwch chi'n glanio ar dudalen gydag erthygl sydd ar gael i'w lawrlwytho, bydd baner LibKey Nomad yn ymddangos ar waelod eich sgrin. Cliciwch i lawrlwytho'r PDF. Os ydych chi oddi ar y campws, bydd angen i chi fewngofnodi trwy VPN yn gyntaf.
Os ydych chi'n defnyddio'r cronfeydd data academaidd PubMed a Scopus, mae LibKey yn darparu nodweddion ychwanegol. Ar y dudalen canlyniadau chwilio gallwch weld dolenni i ddogfennau PDF o erthyglau a dolenni i weld yr holl erthyglau mewn rhifyn cyfnodolyn trwy BrowZine.
Helo! Fy enw i yw Lloyd Roderick, eich Llyfrgellydd Pwnc, ac rwyf yma i’ch helpu i ddod o hyd i adnoddau llyfrgell a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau ym maes y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Gallaf eich helpu gyda...
Lluniwyd y canllaw hyn i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar ein hadnoddau llyfrgell.
Mae Desg Llyfrgell a Technoleg Gwybodaeth ar gael drwy ymweld â Lefel D, Llyfgell Hugh Owen, sgwrs ar-lein, Teams, ffôn ac e-bost.
Ceir rhagor o wybodaeth ar y dudalen we: https://www.aber.ac.uk/cy/is/help/contactus/
Rwy'n cynnig sesiynau wyneb-yn-wyneb galw heibio Llyfrgell:
11yb - 2yp, dydd Gwener
Desg Ymholiadau Lefel F,
Llyfrgell Hugh Owen
(yn ystod tymor yn unig)
Dewch â'ch cwestiynau am ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau, traethawd hir neu ymchwil.
Fel arall, gallwch e-bostio eich cwestiynau ataf: glr9@aber.ac.uk
Methu dod draw i'r sesiwn galw-heibio ar Lefel F?
Beth am drefnu cyfarfod ar-lein neu wyneb yn wyneb gyda mi i gael sgwrs am eich ymholiad llyfrgell.
Dewiswch leoliad, dyddiad a'r amser sydd orau gennych. Anfonir e-bost atoch i gadarnhau y manylion.