Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Mathemateg: Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyfnodolion ac Erthyglau

Cyhoeddiad yw cyfnodolyn sy'n canolbwyntio ar bwnc penodol sy'n gallu cynnwys detholiad o erthyglau, llythyrau, ymchwil, barn ac adolygiadau a ysgrifennwyd gan wahanol awduron. Cyhoeddir cyfnodolion yn reolaidd, megis yn wythnosol, misol neu chwarterol. Mae pob copi yn rifyn ac mae set o rifynnau yn gwneud cyfrol (fel arfer, mae pob blwyddyn yn gyfrol ar wahân). Gelwir cyfnodolion weithiau yn gylchgronau. Unrhyw beth a welwch ar Primo neu yn ein Llyfrgelloedd gyda PER yn y rhif dosbarth, golyga hyn ei fod yn gyfnodolyn. Gallant fod ar gael mewn fformat print, ar-lein neu'r ddau.

Pam defnyddio erthyglau?

  • Maent yn ffynonellau pwysig ar gyfer gwybodaeth pwnc neu ymchwil.
  • Gwybodaeth am ddatblygiadau cyfredol.
  • Cyhoeddir erthyglau cylchgrawn yn gyflymach na llyfrau, felly gallant fod yn fwy cyfredol.
  • Maent yn aml yn ymdrin â phwnc yn fanwl ac yn cynnwys ymchwil gwreiddiol.

Rhai Cyfnodolion Academaidd mewn Mathemateg a Ffiseg

Mae cyfnodolion academaidd yn cynnwys yr ymchwil diweddaraf o fewn eich maes astudio, ac mae rhai ohonynt wedi’u rhestru yma. Ceir hyd i fwy drwy Primo, catalog y llyfrgell.

Chwilota am erthyglau cyfnodolion

Mae cyfnodolion yn ffynonellau pwysig o wybodaeth academaidd. Gallwch chwilio am erthyglau cyfnodolion trwy ddefnyddio’r chwiliad Erthyglau yn Primo.

Cyfnodolion Cyfredol

Gallwch ddod o hyd i gylchgronau printiedig cyfredol a hŷn mewn Cyfrifiadureg yn Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol. Mae llawer o gyfnodolion hefyd ar gael      ar-lein trwy Primo.

E-cyfnodolion

Mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth yn tanysgrifo i ystod eang o gyfnodolion electronig.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am adnoddau electronig y fan yma.

Ymwelwch â'r Cwestiynau a Holir yn Aml am e-gyfnodolion (Saesneg yn unig - aros am gyfieithiad).

Cronfeydd data allweddol

MathSciNet

"Mae MathSciNet yn gyhoeddiad electronig sy'n rhoi mynediad i gronfa ddata o adolygiadau, crynodebau a gwybodaeth lyfryddol y gellir chwilio trwyddi’n hawdd er mwyn dod o hyd i lawer o lenyddiaeth y gwyddorau mathemategol. Mae MathSciNet® yn cynnwys bron i 3 miliwn o eitemau a dros 1.7 miliwn o ddolenni uniongyrchol i erthyglau gwreiddiol. Mae’r data llyfryddiaethol o erthyglau wedi'u hôl-ddigideiddio yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 1800au. Cesglir rhestrau cyfeirio a'u paru'n fewnol o oddeutu 550 o gyfnodolion, a darperir data cyfeiriol ar gyfer cyfnodolion, awduron, erthyglau ac adolygiadau.  Mae'r we hon o fynegai cyfeiriol yn fodd i ddefnyddwyr olrhain hanes a dylanwad cyhoeddiadau ymchwil ym maes gwyddorau mathemategol."  

Llyfrau a Chyfnodolion y Sefydliad Ffiseg (IOP)

"Mae IOPscience wedi'i gynllunio i'w gwneud yn hawdd i ymchwilwyr ddod o hyd i gynnwys perthnasol a rheoli eu gwybodaeth ymchwil. Gydag IOPscience gallwch:


•    Gyflymu eich gwaith ymchwil: dod o hyd i gynnwys perthnasol yn gyflym gyda gwell hidlo wrth chwilio
•    Arbed amser: ail-redeg chwiliadau blaenorol, tagio'ch hoff erthyglau
•    Cael y wybodaeth ddiweddaraf: derbyn ffrwd RSS a rhybuddion e-bost pan fydd cynnwys newydd yn cael ei gyhoeddi
•    Cael mwy o gynnwys: gweld erthyglau yn ogystal â rhagargraffiadau a newyddion
•    Rhyngweithio a rhannu: gosod nodau tudalen cymdeithasol er mwyn rhannu erthyglau
•    Darganfod ymchwil cysylltiedig: archwilio erthyglau perthnasol yn seiliedig ar godau dosbarthu pynciau
•    Ei wneud yn bersonol: addasu eich rhybuddion, arbed erthyglau o ddiddordeb, a gweld erthyglau sydd newydd eu cyhoeddi o fewn eich meysydd pwnc"

 

 

Wolfram MathWorld

"Ar hyn o bryd mae MathWorld yn cynnwys nifer o elfennau rhyngweithiol arloesol sy'n golygu ei fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer amrywiaeth o wahanol ddarllenwyr. Mae'r nodweddion hyn yn cynnwys:


•     MathWorld Classroom, sy'n rhoi set o "grynodebau capsiwl" o fwy na 300 o dermau mathemategol.
•    Mynegai cyfeiriol helaeth i lyfrau ac erthyglau cyfnodolion, llawer ohonynt yn hyperddolenni gweithredol.
•    Miloedd o lyfrau nodiadau Mathematica y gellir eu lawrlwytho.
•    Sawl math o gofnodion rhyngweithiol, gan gynnwys Rhaglennig LiveGraphics3D  ar gyfer geometreg tri dimensiwn rhyngweithiol.
•    Metadata Dublin Core a Dosbarthiad Pwnc Mathemateg ym mhenawdau HTML pob tudalen.
•    Gwybodaeth arbennig ar gyfer defnyddwyr Mathematica ."

 

 

ScienceDirect 

Yn cynnwys casgliad mawr o gyhoeddiadau Mathemateg, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. 
Gellir dod o hyd i restr lawn o'r cronfeydd data a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth yma  

 

Primo - Catalog y llyfrgell

Chwilio Primo

FAQ - Sut ydw i'n cael mynediad i e-adnoddau oddi ar y campws

Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau

Mae Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau yn caniatáu defnyddwyr cofrestredig i wneud cais am eitemau nad ydynt ar gael yn llyfrgelloedd y Brifysgol.

Gallwn gefnogi staff a myfyrwyr gydag ymchwil a dysgu trwy leoli a chyflenwi llyfrau, penodau ac erthyglau a gedwir gan lyfrgelloedd eraill.

Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth yn talu costau o’r dyraniad ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ym mhob adran academaidd, yn amodol ar yr arian sydd ar gael.

Am fwy o wybodaeth ar y gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac i weld sawl cais am ddim fedrwch ei gyflwyno, ewch i'r dudalen yma.