Ar hyn o bryd mae llyfrgelloedd Prifysgol Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phorth Ymchwil Aberystwyth, yn derbyn y pethau canlynol oddi wrth adrannau academaidd Prifysgol Aberystwyth:
Maent hefyd yn cynnwys traethodau Meistr a ddysgir trwy gwrs cyn 2013:
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am draethodau ymchwil ar y dudalen yma.
Mae gan Aberystwyth gasgliad o draethodau ymchwil a allai fod o ddefnydd i chi wrth lunio eich traethawd ymchwil eich hun. Maent i gyd ar Primo. Gallwch ddefnyddio'r chwiliad allweddair syml i chwilio am unrhyw draethawd ymchwil.
Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim. Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys Proffiliau Personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.
Chwiliwch dros 500,000 traethodau ymchwil doethurol drwy ddefnyddio EThOS (nid yw'r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd) - gwasanaeth traethodau ar-lein y Llyfrgell Brydeinig. Lawrlwythwch ar unwaith am eich ymchwil, neu archebu copi wedi'i sganio'n gyflym ac yn hawdd.
Caiff traethodau ymchwil eraill o Brifysgolion Cymru eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.