Skip to Main Content
Chat now
Sgwrsiwch nawr

Mathemateg: Dechrau arni

Disgrifiad o’r Llyfrgell

Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol a chanolfan weinyddol gwasanaethau'r llyfrgell. Wedi ei lleoli ar gampws Penglais [Lleoliad], mae'n darparu man ar gyfer astudio, pa un ai ydych am astudio'n dawel ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Darperir amrywiaeth o adnoddau i roi help llaw gyda'ch astudiaethau ac ar gyfer ymlacio mewn man tawel.

Dy rhestr ddarllen

Mae rhestr ddarllen ar gyfer modiwl fel rheol yn cynnwys rhestr o lyfrau a ffynonellau gwybodaeth eraill a gasglwyd gan gynllunydd y modiwl i gynorthwyo eich astudiaeth o'r modiwl hwnnw.

Cewch hyd i'r rhestr ddarllen ar gyfer modiwl yr ydych yn ei astudio yn Blackboard.

  • Mewngofnodwch, ewch i'r modiwl a chliciwch ar y ddolen Rhestr Ddarllen Aspire yn y ddewislen ar y chwith,

  • Neu ymwelwch ag Aspire a chwilota am fodiwl drwy teiptio teitl a/neu gôd y modiwl

Os ydych chi'n dewis modiwlau ar gyfer y flwyddyn nesaf, neu os ydych chi'n ddarpar fyfyriwr, ewch i dudalennau modiwlau PA ac ar dudalen unrhyw un o'r modiwlau:

  • cliciwch ar Gweld yn Aspire i weld rhestr ddarllen ar gyfer modiwl presennol

  • cliciwch ar Gweld enghraifft o restr yn Aspire i weld enghraifft o restr ar gyfer modiwl a fydd yn cael ei ddysgu yn y dyfodol

  • neu ewch i Aspire a chwiliota am fodiwl drwy teipio teitl a/neu gôd y modiwl

Sut i Ddod o Hyd i Lyfr o Dy Restr Ddarllen

Catalog y Llyfrgell

Primo yw catalog llyfrgell Prifysgol Aberystwyth. Yn Primo gallwch chwilio am lyfrau, erthyglau, traethodau ymchwil a deunyddiau eraill yng nghasgliad y llyfrgell o adnoddau printiedig ac electronig. I gael y canlyniadau gorau o Primo, bydd angen i chi mewngofnodi.

Chwe cham i feistrioli Primo

Cwestiynau a Holir yn Aml am Primo

 

Mae ein Cwestiynau a Holir yn Aml am Primo yn llawn o wybodaeth defnyddiol. Cymrwch olwg arnynt y fan hyn

Llyfrau yn y Llyfrgell

I ddarganfod a oes llyfr penodol ar gael yn y Llyfrgell, ewch i Primo a mewngofnodi. Yn y blwch chwilio, rhowch un neu ddau eiriau allweddol o'r teitl a chyfenw yr awdur. Pan fydd canlyniadau'r chwiliad yn ymddangos, gallwch ddewis clicio Llyfrau yn y ddewislen ar y chwith i arddangos canlyniadau ar gyfer llyfrau yn unig neu hidlo'r canlyniadau yn fwyfwy i ateb eich gofynion.

Llyfr ar gael
Os yw'r llyfr ar gael, bydd Primo yn nodi'r wybodaeth hyn gan roi manylion lleoliad llawr a manylion y rhif dosbarth.

Llyfr ar fenthyg

Os nad yw'r llyfr ar gael i'w fenthyg, bydd Primo yn nodi hyn.

Ad-alw llyfr

Medrwch ad-alw llyfr yn ôl os yw ar fenthyg. Ceir cyfarwyddiadau ar sut i ad-alw  y fan yma. 

 

Mynediad Ar-lein

Pan fydd mynediad ar-lein ar gael i lyfr electronig, bydd Primo yn nodi hyn fel y ganlyn:

Benthyca o'r Llyfrgell

Mae holl staff a myfyrwyr y Brifysgol yn medru benthyca hyd at 40 llyfr ar un amser.

Gallwch benthyca'r rhan fwyaf o lyfrau am wythnos, ac fe fydd y rhain yn cael eu adnewyddu yn awtomatig bob wythnos naill ai tan bod defnyddiwr arall eisiau'r llyfr, neu tan fydd y llyfr wedi bod ar fenthyg am 6 mis.

Ni fyddwch yn cael dirwy oni bai nad ydych yn dychwelyd llyfr â adelwir gan ddefnyddiwr arall, neu os nad ydych yn dychwelyd y llyfr i'r llyfrgell ar ôl 6 mis.

Cynlluniau Llawr ac Oriau Agor y Llyfrgell

Oriau Agor

Llyfrgell Hugh Owen

Yn ystod y tymor: 24/7

Cefnogaeth llyfrgell a TG ar gael rhwng 8.30yb - 10.00yh (Hunan-wasanaeth/defnydd cyfeiriadol: 10.00yh - 8.30yb) 

Yn ystod y gwyliau: 8.30yb - 5.30yp Llun - Gwener

Rhagor o fanylion ar ein horiau agor ar gael yma

Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol

Bydd staff yn bresennol yn y llyfrgell yn ystod y tymor rhwng 2yp-5yp, ddydd Llun - Iau a 2yp-4.30yp ar ddydd Gwener.

Ni fydd staff yn y llyfrgell y tu allan i’r oriau hyn ond bydd mynediad i’r llyfrau, cyfnodolion, mannau astudio, cyfrifiaduron a’r argraffydd yn parhau yn ddibynnol ar  oriau agor/cau’r adeilad Gwyddorau Ffisegol.

Rhagor o fanylion ar ein horiau agor ar gael yma.

Lleoliadau’r Silffoedd

Prif adrannau:

Q Gwyddoniaeth (Cyffredinol)
QA Mathemateg
QA150 Algebra
QA 276 Ystadegaeth
QA 303 Calcwlws
QA 440 Geometreg
QA 801 Mecaneg ddadansoddol
QA 843 Dynameg
QA 901 Mecaneg hylifol
QB Astronomeg
QC Ffiseg
QC189.5 Rheolegoleg
QC 221-246 Acwsteg
QC 350-467 Opteg
QC 501-766 Trydan a magneteg
QC 770-798 Ffiseg niwclear a gronynnau
QC 851-999 Meteoroleg/Hinsoddeg
T Technoleg
TA Peirianneg gyffredinol
TJ Peirianneg fecanyddol
TK Peirianneg drydanol